Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 10 Chwefror 2023

Dyma'ch diweddariad Ddydd Gwener, yn cynnwys: Apêl Daeargryn Twrci a Syria; Cau'r morglawdd wythnos nesaf;Wythnos Hyfforddwyr Athrawon Dysgwyr Digidol Rhyngwladol Caerdydd; a Heddiw yw Dydd Miwsig Cymru.

 

Apêl Daeargryn Twrci a Syria

Mae daeargrynfeydd dinistriol wedi lladd miloedd o bobl yn Nhwrci a Syria, a channoedd o adeiladau wedi'u dinistrio. Mae goroeswyr yn wynebu amodau rhewllyd ac mae angen cymorth brys arnynt. Gallwch helpu drwy gyfrannu at  Apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys.

Mae miloedd o adeiladau, gan gynnwys ysbytai ac ysgolion, wedi dymchwel ac mae'r isadeiledd wedi ei ddifrodi'n wael. Mae ymatebwyr lleol yn chwilio'n daer drwy'r rwbel am oroeswyr.

Mae pobl wedi cael eu gadael heb gysgod mewn tywydd rhewllyd y gaeaf ac mae yna angen dirfawr am flancedi, lloches brys, bwyd a dŵr glân.

Mae elusennau'r Pwyllgor Argyfyngau Brys a'u partneriaid lleol ymhlith yr ymatebwyr cyntaf sy'n darparu cymorth brys. Y blaenoriaethau ar unwaith yw chwilio ac achub, triniaeth feddygol i'r rhai sydd wedi'u hanafu, lloches i'r rhai sydd wedi colli eu cartrefi, gwresogi mewn mannau diogel, blancedi, dillad cynnes, a sicrhau bod gan bobl fwyd a dŵr glân.

Sut y gallwch chi helpu

Gallwch helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan yr argyfwng drwy  roi rhodd   a helpu i godi arian at apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys. Bydd hyn yn caniatáu i elusennau'r Pwyllgor Argyfyngau Brys a'u partneriaid lleol gynyddu eu hymateb a chyrraedd mwy o bobl.

  • Gallai £10 ddarparu blancedi i gadw dau berson yn gynnes
  • Gallai £25 ddarparu bwyd brys i deulu am ddeg diwrnod
  • Gallai £50 roi lloches frys i ddau deulu

 

Cau'r morglawdd

Bydd Morglawdd Bae Caerdydd ar gau o gât fynediad Penarth i gaffi'r Morglawdd ddydd Mercher, 15 Chwefror o 8am tan 4pm, er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau mewn un diwrnod, ond mae posibilrwydd y gall ymestyn i ddydd Iau 16 Chwefror.

Bydd pob llong yn gallu cael mynediad drwy'r lociau yn ystod y cyfnod hwn.

Dymuna Awdurdod Harbwr Caerdydd ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.
 

Wythnos Hyfforddwyr Athrawon Dysgwyr Digidol Rhyngwladol Caerdydd 2023
 

Mae dros 160 o athrawon a disgyblion o'r Almaen, Gwlad Pwyl, Sbaen, Sweden a Thwrci wedi ymweld â Chaerdydd yr wythnos hon.

Fel rhan o brosiect cysylltiadau ysgol rhyngwladol, maen nhw wedi bod yn edrych ar sut y datblygodd ysgolion Caerdydd arferion digidol yn ystod ac ar ôl y pandemig, gyda dull dysgu cyfunol.

Dechreuodd yr wythnos gyda digwyddiad lansio yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle cyflwynodd Swyddogion Addysg drosolwg o'r system Addysg a Chaerdydd 2030. Ar ôl y cyflwyniad, cymerodd grwpiau myfyrwyr a'r athrawon oedd yn eu hebrwng ran mewn gweithdai rhyngweithiol gan ddefnyddio offer digidol amrywiol megis roboteg, darllen trochi, pensetiau VR a gweithgareddau eraill.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos buont yn cymryd rhan mewn sesiynau cerddoriaeth ddigidol gan gynnwys gweithdy band garej digidol byw, sesiwn lleisiol a bîtbocsio, a gweithdy drymiau a llu o weithgareddau chwaraeon.

Bu'r cynrychiolwyr rhyngwladol hefyd yn ymweld â rhai ysgolion cynradd ac uwchradd Caerdydd i weld enghreifftiau o arfer da o ddysgu ac addysgu digidol a chymryd rhan mewn gweithdai TGCh.

Cynhaliwyd seremoni gloi ar y diwrnod olaf yn Neuadd y Ddinas lle dangosodd cyflwyniad yr holl waith a wnaed drwy'r prosiect a rhoddwyd cyfle i bob gwlad rannu eu profiadau.

 

Heddiw yw Dydd Miwsig Cymru

Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg. Yn ei wythfed flwyddyn erbyn hyn, mae Dydd Miwsig Cymru yn rhoi cyfle i bawb ddarganfod, dathlu a mwynhau cerddoriaeth Gymraeg o bob genre. 

O indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip-hop neu unrhyw beth arall, mae 'na gerddoriaeth Gymraeg anhygoel ar gael i chi ei darganfod.

Ddim yn siarad Cymraeg neu'n ystyried dysgu Cymraeg? Mae miwsig i bawb! Cymerwch ran... 

Beth am wrando ar un o'r rhestrau chwarae arbennig sydd  ar gael ar Spotify?

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:https://www.llyw.cymru/dydd-miwsig-cymru

Neu ymunwch â'r sgwrs gan ddefnyddio'r hashnod #DyddMiwsigCymru neu #Miwsig neu dilynwch @Miwsig_