Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 07 Chwefror 2023

Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys:Cyngor Caerdydd yn lansio ymgyrch newydd ar bresenoldeb ysgol; Cyfle i chwaraeon a grwpiau cymunedol ym Mharc Hailey; Strategaeth Caffael Cymdeithasol-Gyfrifol.

 

Presenoldeb nôl ar y trywydd - Cyngor Caerdydd yn lansio ymgyrch newydd ar bresenoldeb ysgol

Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio ymgyrch i wella safonau presenoldeb ysgolion gyda'r nod bod pob plentyn a pherson ifanc ar draws y ddinas yn cael y cyfle gorau i gyflawni, er gwaethaf y tarfu ar addysg a achoswyd gan y pandemig.

Mewn partneriaeth ag ysgolion, mae'r ymgyrch newydd yn tynnu sylw at y ffaith bod dyddiau dysgu coll yn cyfrif ac yn atgoffa teuluoedd fod bob dydd yn bwysig yn yr ysgol, gyda phresenoldeb ysgol rheolaidd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu dysgwyr i gyflawni mwy a gwella cyrhaeddiad yn ystod eu bywydau ysgol a thu hwnt.

Cyn i ysgolion gau ym mis Mawrth 2020 oherwydd COVID-19, dangosodd adroddiad statudol i Lywodraeth Cymru fod presenoldeb mewn ysgolion cynradd yng Nghaerdydd ar 94.8% ac mewn ysgolion uwchradd ar 93.2%. Mae'r darlun presennol ar gyfer y cyfnod rhwng 2021-22 wedi gostwng i 89.4% ar gyfer ysgolion cynradd ac 88.5% ar gyfer ysgolion uwchradd.

Mae'r gostyngiad hwn yn ddarlun cyfarwydd a welir ledled Cymru gyda nifer o ffactorau cyfrannol wedi'u nodi fel rhesymau dros bresenoldeb gwael. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • nifer mwy o ddisgyblion yn profi gorbryder fel rhwystr i fynd i'r ysgol ac i'r rhai â chyflyrau iechyd meddwl blaenorol, sefyllfa wedi'i dwysáu gan gyfnodau clo sydd mewn ambell achos wedi arwain at problemau iechyd mwy difrifol.
  • Mae teuluoedd ag agwedd wael tuag at bresenoldeb wedi ymwreiddio'r ymagwedd honno ymhellach ac fe welwyd ymagwedd fwy lac yn aml at bresenoldeb gan deuluoedd eraill yn dod i'r amlwg.
  • Mae ymddygiad mwy heriol wedi arwain at gynnydd mewn gwaharddiadau ac allgáu parhaol.
  • absenoldebau ynghlwm â salwch a llawer o rieni'n teimlo'n or-ofalus am anfon eu plant i'r ysgol.

Darllenwch fwy yma

 

Cyfle i chwaraeon a grwpiau cymunedol ym Mharc Hailey

Mae chwaraeon a grwpiau cymunedol yn cael cynnig cyfle i brydlesu'r ystafelloedd newid ym Mharc Hailey wrth i Gyngor Caerdydd geisio sicrhau buddsoddiad yn y cyfleusterau presennol a gwella cyfleoedd i breswylwyr gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Rhaid cyflwyno datganiadau o ddiddordeb mewn prydlesu'r ystafelloedd newid erbyn diwedd y diwrnod gwaith ar 24 Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae trefniadau prydles o'r math yma eisoes ar waith yn llawer o barciau Caerdydd, gan fuddsoddi mewn cyfleusterau presennol, helpu i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a galluogi sefydliadau lleol a chlybiau chwaraeon i gynnig cyfleoedd ariannol newydd."

Yr ateb mae'r cyngor yn ei ffafrio yw i sefydliad reoli'r adeilad fel ystafelloedd newid ac i ymgymryd â chyfrifoldeb am y caeau cyfagos, gyda'r bwriad o wella ansawdd y caeau dros amser. Mae'r holl gyfleusterau presennol a defnyddwyr y cae wedi cael gwybod am y cynigion.

Yn ogystal ag 11 ystafell newid mae'r eiddo hefyd yn cynnwys cyfleusterau toiled, derbynfa a lle swyddfa. Bydd y brydles hefyd yn cynnwys y maes parcio sy'n ffinio â'r cyfleusterau newid.

Mae manylion llawn ar gael yma

 

Strategaeth Caffael Cymdeithasol-Gyfrifol

Mae strategaeth newydd sy'n nodi sut bydd y Cyngor yn defnyddio ei bŵer prynu i gefnogi ymrwymiad yr awdurdod at les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn y ddinas wedi cael ei lansio.

Mae Strategaeth Caffael Cymdeithasol-Gyfrifol 2022-27 yn nodi'r rôl allweddol y bydd caffael yn parhau i'w chyflawni wrth alluogi'r Cyngor i gyflawni ei weledigaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach, drwy sicrhau bod ei wariant yn cael yr effaith gymdeithasol fwyaf posibl, cyflymu'r symudiad i sero net ac arwain y ffordd fel cyflogwr 'Gwaith Teg'.

Mae'r Cyngor yn darparu ystod eang ac amrywiol o wasanaethau cyhoeddus statudol a dewisol yn y ddinas, a'r llynedd fe wariwyd £560m yn caffael ystod amrywiol o nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan dros 8,000 o gyflenwyr a chontractwyr.

Yn ogystal â sicrhau bod y gwariant cyhoeddus hwn yn cynnig gwerth da am arian, mae mwy a mwy o bwysigrwydd ar gaffael sy'n cefnogi materion allweddol fel datgarboneiddio, gwaith teg, cyflawni buddion cymunedol a darparu cefnogaeth i fusnesau a chymunedau lleol.

Darllenwch fwy yma