Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 03 Chwefror 2023

Dyma'ch diweddariad Ddydd Gwener, yn cynnwys: Cerflun o 'Dorwyr Cod y Byd Rygbi' i'w godi yng nghanol Bae Caerdydd;Yr Arglwydd Faer yn ymweld ag ysgolion Caerdydd i ddathlu cyflawniadau codi arian; Cost i barcio ym meysydd parcio ardal Caerdydd; ac mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn apelio am roddwyr.

 

Cerflun o 'Dorwyr Cod y Byd Rygbi' i'w godi yng nghanol Bae Caerdydd

Mae cynlluniau i godi cerflun ym Mae Caerdydd o dri o 'Dorwyr Cod y Byd Rygbi' yng Nghymru wedi cael eu cymeradwyo.

Bydd y cerflun sy'n dathlu Billy Boston, Clive Sullivan, a Gus Risman yn cael ei godi yn Sgwâr Tir a Môr yng Nghei'r Fôr-Forwyn. Cafodd y tri chwaraewr eu magu o fewn radiws tair milltir o ardal Bae Caerdydd ac aethant ymlaen i fod yn rhai o arwyr chwaraeon mwyaf y wlad.

Wedi'i sefydlu yn 2020, cafodd y prosiect 'Un Tîm. Un Ddynoliaeth:  Anrhydeddu Torwyr Cod Byd Rygbi Bae Caerdydd ei ysbrydoli gan alwadau gan gymunedau Butetown a Bae Caerdydd ehangach am deyrnged briodol i'r chwaraewyr a wnaeth gymaint i wella cysylltiadau hiliol ledled Prydain.

Fe wnaeth y gŵr busnes a'r dyngarwr, Syr Stanley Thomas OBE, ymgymryd â rôl cadeirydd y pwyllgor codi arian a rhoddodd hwb ariannol i ddechrau'r ymgyrch godi arian gyda rhodd bersonol sylweddol.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30712.html

 

Yr Arglwydd Faer yn ymweld ag ysgolion Caerdydd i ddathlu cyflawniadau codi arian

Mae Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey wedi ymweld â chwe ysgol gynradd yng Nghaerdydd i ddathlu eu syniadau codi arian llwyddiannus ar gyfer Cŵn Tywys Cymru, yr elusen y mae'r Arglwydd Faer wedi'i dewis ar gyfer 2022/23.

Cyflwynodd yr ysgolion eu cynigion yn ystod Cyngor Mawr Rhithwir fis Tachwedd diwethaf ac roedd y syniadau'n cynnwys Crufts Ystafell Ddosbarth, Diwrnod Gwisgo fel Ci, Disgo Cŵn a chwrs rhwystrau dan fwgwd.

Bydd yr ysgol sy'n codi'r swm mwyaf o arian yn cael gwahoddiad i ddigwyddiad dathlu sy'n cael ei gynnal gan Arglwydd Faer Caerdydd ym mis Mai.

Mae Tîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd wedi cefnogi'r prosiect ac mae'r ysgolion cynradd llwyddiannus yn cynnwys; Yr Eglwys yng Nghymru yr Holl Seintiau, Pentyrch, Tongwynlais, Coryton, Pentre-baen a Rhiwbeina.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30703.html

 

Cost i barcio ym meysydd parcio ardal Caerdydd

Bydd cost parcio ym meysydd parcio ardal Caerdydd yn newid ar ddydd Llun, 6 Chwefror, o dan gynlluniau i helpu trigolion a siopwyr i sicrhau mannau parcio sydd ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio gan gymudwyr.

Bydd y ddwy awr gyntaf o barcio yn parhau i fod am ddim yn holl feysydd parcio ardal y ddinas, ond bydd prisiau wedyn yn codi, yn dibynnu ar ba mor hir mae rhywun yn parcio. O dan y system bresennol, ar ôl y ddwy awr gyntaf am ddim, yn y mwyafrif o'r meysydd parcio hyn, codir cyfradd safonol am barcio drwy'r dydd. Dim ond cyfanswm o bump awr o barcio a ganiateir o dan y system newydd.

Cytunwyd ar y newidiadau yn dilyn pryderon gafodd eu codi bod cymudwyr yn defnyddio'r meysydd parcio hyn am gyfnodau estynedig, ar gost bach, ar draul trigolion a siopwyr.

Cynhaliwyd ymgynghoriadau cyhoeddus yn 2019 a 2020 ar y cynlluniau hyn, ond gohiriwyd y gweithredu oherwydd Pandemig COVID. Mae'r holl incwm a dderbynnir drwy refeniw parcio yn cael ei neilltuo o dan Adran 55 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae unrhyw incwm sy'n cael ei dderbyn uwchben cost darparu'r gwasanaeth yn cael ei neilltuo ar gyfer gwelliannau priffyrdd a thrafnidiaeth.

Bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud mewn 11 maes parcio ardal yn y wardiau canlynol ar 6 Chwefror:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30698.html

 

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn apelio am roddwyr

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dod i'ch ardal chi, ac rydyn ni angen eich help.

Beth am ddod draw, iri o ni wrth ein bodd yn cwrdd â chi. Oeddech chi'n gwybod mai dim ond 3% o'r boblogaeth sy'n Rhoddwyr Gwaed?

​​​​​​​Felly gadewch i ni geisio cynyddu'r nifer hwnnw - dim ond 45 munud mae'n ei gymryd I helpu I achub bywyd.  Bydd ein tîm yn cymryd gofal da ohonoch chi, ac mae gennym ddewis hyfryd o fisgedi.

Mewn ychydig o gliciau, gallech ymuno â ni i helpu i achub a gwella bywydau cleifion ar draws Cymru:
WBS Booking (wales.nhs.uk)