3/2/2023
Mae Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey wedi ymweld â chwe ysgol gynradd yng Nghaerdydd i ddathlu eu syniadau codi arian llwyddiannus ar gyfer Cŵn Tywys Cymru, yr elusen y mae'r Arglwydd Faer wedi'i dewis ar gyfer 2022/23.
Cyflwynodd yr ysgolion eu cynigion yn ystod Cyngor Mawr Rhithwir fis Tachwedd diwethaf ac roedd y syniadau'n cynnwys Crufts Ystafell Ddosbarth, Diwrnod Gwisgo fel Ci, Disgo Cŵn a chwrs rhwystrau dan fwgwd.
Bydd yr ysgol sy'n codi'r swm mwyaf o arian yn cael gwahoddiad i ddigwyddiad dathlu sy'n cael ei gynnal gan Arglwydd Faer Caerdydd ym mis Mai.
Mae Tîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd wedi cefnogi'r prosiect ac mae'r ysgolion cynradd llwyddiannus yn cynnwys; Yr Eglwys yng Nghymru yr Holl Seintiau, Pentyrch, Tongwynlais, Coryton, Pentre-baen a Rhiwbeina.
Dywedodd yr Arglwydd Faer: "Rwyf wedi mwynhau ymweld â'r ysgolion yn fawr iawn a gweld o lygad y ffynnon y syniadau codi arian gwych y mae'r plant wedi'u cynnig, gyda llawer o'r syniadau'n cysylltu â'r cwricwlwm newydd i Gymru, gan helpu i gefnogi plant i ddatblygu'r sgiliau y mae eu hangen arnynt i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol. Roedd hefyd yn gyfle i blant ofyn cwestiynau a siarad am iechyd a lles a chefnogi pobl ag anableddau.
"Bydd yr holl arian sy'n cael ei godi ar gyfer apêl yr Arglwydd Faer eleni yn mynd i elusen Cŵn Tywys Cymru."