Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 27 Ionawr 2023

27/01/22


Dyma'r diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Estyn yn canmol Ysgolion Cynradd Greenway a Trowbridge; cyllid wedi'i ddyfarnu i brosiectau bwyd cynaliadwy; buddsoddiad wedi'i sicrhau i gyfleusterau chwaraeon cymunedol yng Nghaeau Llandaf a chyngor teithio ar gyfer y gêm Cymru yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn nesaf (4 Chwefror).

 

Ffederasiwn The Oaks, "ysgolion cynnes a chroesawgar gyda phwyslais cryf ar gydraddoldeb a chynhwysiant" meddai Estyn

Mae Estyn wedi disgrifio ysgolion cynradd Greenway a Trowbridge fel ysgolion cynnes a chroesawgar y mae eu hethos o ofal a chefnogaeth yn treiddio drwy'r cyfan maen nhw'n ei wneud.

Wedi'u lleoli yn nwyrain y ddinas, mae'r ysgolion cynradd wedi cydweithio fel rhan o Ffederasiwn The Oaks ers 2019 ac yn ystod arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Addysg Cymru, canfuwyd bod y disgyblion sy'n mynychu'r ysgolion yn hapus a bod y berthynas waith rhwng y disgyblion a'r staff yn gadarnhaol.

O ganlyniad, mae safonau ymddygiad yn dda ac yn ystod eu hamser yn yr ysgolion, mae llawer o'r disgyblion yn gwneud cynnydd cadarn o'u mannau dechrau amrywiol, gan elwa ar addysgu gan staff sy'n eu hadnabod yn dda iawn ac sy'n gwrando arnynt, gan gynnwys pan fyddant yn gwneud awgrymiadau am yr hyn yr hoffent ei ddysgu.

Mae Ffederasiwn The Oaks yn rhannu pennaeth gweithredol, adnoddau, staff a Llywodraethwyr ar draws safleoedd y ddwy ysgol ac yn ymdrechu i sicrhau bod y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig yn gyson ac yn cael eu hadlewyrchu ar draws y ddwy ysgol.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30654.html

Tri phrosiect bwyd cynaliadwy arloesol i dderbyn cyllid

Mae prosiect i droi bwyd sydd dros ben yn brydau parod, astudiaeth sy'n archwilio sut y gallai ffermydd fertigol sy'n defnyddio amgylcheddau amaethyddol rheoledig adfer cynhyrchu bwyd yn lleol, a phrosiect i dyfu ffrwythau a llysiau drwy ôl-osod technoleg aeroponig mewn adeiladau segur, oll wedi cael cyllid dichonoldeb o her cynhyrchu bwyd cynaliadwy gwerth £2.1 miliwn.

Nod y prosiect, sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth MYBB (Menter Ymchwil Busnesau Bach), yw nodi a chefnogi prosiectau a all harneisio potensial tir, technoleg a phobl i gynyddu cynhyrchiant a chyflenwad cynaliadwy o fwyd lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Wedi'u dewis o fwy nag ugain o geisiadau am gyllid, mae'r tri chais llwyddiannus i gyd wedi derbyn contract dichonoldeb pedwar mis o hyd at £50,000 y prosiect. Ar ddiwedd y pedwar mis, bydd y prosiectau yn cael eu hasesu a bydd y rhai mwyaf addawol yn derbyn arian ychwanegol i beilota a phrofi brototeipiau.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30658.html

 

Sicrhau buddsoddiad i gyfleusterau chwaraeon cymunedol yng Nghaeau Llandaf

Disgwylir trawsnewidiad yng nghyfleusterau chwaraeon cymunedol Caeau Llandaf, gyda chanolfan tennis Padel newydd, caffi newydd a gofod cymunedol, wyneb newydd i'r cyrtiau tennis, datblygu cyfleuster tennis cymunedol ar gyfer pob oedran a gallu, gosod rhwydi ymarfer criced ac, yn amodol ar gyllid, tŷ clwb parhaol newydd i Glwb Criced Llandaf.

Mae Cyngor Caerdydd yn y broses o lunio trefniadau prydles gyda'r clwb criced, Tenis Cymru a Padeltastic Ltd, yn dilyn ymarferiad 'datganiadau o ddiddordeb' gyda'r nod o sicrhau buddsoddiad yn y cyfleusterau presennol, gan ddod â chyfleoedd hamdden a chwaraeon newydd i'r ardal a helpu i ddatgloi cyfleoedd ariannol newydd.

Mae Tennis Padel yn gyfuniad cyffrous o sboncen a thennis, a chwaraeir ar gyrtiau caeedig heb unrhyw serfio dros ysgwydd, gan wneud y gêm yn hawdd ei dysgu sy'n arwain at ralïau gwefreiddiol.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Gyda'i gilydd, mae'r cynlluniau cyffrous a gyflwynwyd gan Glwb Criced Llandaf, Tennis Cymru a Padeltastic yn sicrhau buddsoddiad sylweddol yng nghyfleusterau chwaraeon cymunedol yr ardal a bydd yn ein helpu i gyflawni ein nodau o gynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30662.html

Cyngor teithio i Gymru yn erbyn Iwerddon ar 4 Chwefror yng Nghaerdydd

Bydd Cymru yn herio Iwerddon ar ddydd Sadwrn 4 Chwefror yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 2.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 10.15am tan 6.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

I weld y ffyrdd fydd ar gau ewch dilynwch y ddolen ganlynol -one.network

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Bydd y gatiau'n agor am11.45am, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.  Rhowch sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir yn principalitystadium.cymru,yn arbennig y polisi bagiau (ni chaniateir bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

 

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30667.html