24/01/23
I nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2023, bydd recordiad o Goffâd Cymru eleni ar gael i'w wylio ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd.
Wedi'i ffilmio yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd, gellir gwylio'r Coffâd Aml-Ffydd o 11am ddydd Gwener 27 Ionawr, gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://youtu.be/PI_4jW4FR68(y ddolen yn weithredol am 11am ar y 27ain).
Arweinir y Coffâd gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, ac ymhlith y cyfranwyr bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford AS, y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, Graham Hinchey.
Gall gwylwyr ddilyn y seremoni drwy lawrlwytho rhaglen Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru 2023 yma.
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ddiwrnod rhyngwladol i gofio dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Mae'r diwrnod yn anrhydeddu'r goroeswyr ac yn cofio'r rheiny a fu farw. Fe'i cynhelir ar 27 Ionawr bob blwyddyn, sef dyddiad rhyddhau carchar Auschwitz.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "‘Pobl Gyffredin' yw'r thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2023. Mae'n cyfleu'r neges anodd ond pwerus bod hil-laddiadau yn gallu digwydd pan fydd pobl gyffredin yn gwneud dim byd, pan fydd pobl gyffredin yn anwybyddu'r hyn sy'n digwydd o'u cwmpas.
"Dyna pam mae nodi Diwrnod Cofio'r Holocost yn dod yn fwy pwysig bob blwyddyn. Wrth i amser fynd heibio, rydym yn colli'r rhai hynny o'r cenedlaethau a ddioddefodd erchyllterau hil-laddiad. Heb Ddiwrnod Cofio'r Holocost, byddai ein cof ar y cyd yn pylu, a byddem yn anghofio'r gweithredoedd ofnadwy a gyflawnwyd drwy gydol hanes. Heddiw, rydyn ni'n anfon ein neges bwerus ein hunain, na fyddwn fel pobl gyffredin yn anghofio, na fyddwn yn derbyn anoddefgarwch a chasineb, na fyddwn yn mynd o'r tu arall heibio."
Dwedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Hinchey: "Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn atgof gwerthfawr o'r ffaith bod gweithredoedd o erledigaeth, a gwahaniaethu, nid yn unig yn y gorffennol ond hefyd - yn drasig - o'n cwmpas heddiw.
"Mae ein Gwasanaeth Coffáu yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar y cyd, wrth gofio am y dioddefwyr ac er anrhydedd i oroeswyr yr Holocost a phob gweithred arall o hil-laddiad.
"Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i ni herio rhagfarn, gwrthsefyll casineb, a gwrthwynebu erledigaeth."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Heddiw rydym yn cofio'r miliynau o bobl a gafodd eu herlid a'u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau dilynol.
"Rydym yn parhau'n ddiolchgar i'r nifer o oroeswyr hil-laddiad sy'n neilltuo oriau di-ri tuag at rannu eu straeon dirdynnol ac addysgu pobl ar draws y genedl.
"Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth am yr Holocost ac effaith ofnadwy casineb a rhagfarn, a rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus a gwrthod y siarad difaol a chynhennus sy'n dal i fodoli heddiw.
"Trwy sicrhau nad yw'r digwyddiadau hyn byth yn mynd yn angof, rydym yn helpu i greu dyfodol mwy diogel drwy ddeall a dysgu o atgofion y gorffennol."
Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn gwahodd aelodau'r cyhoedd i ddangos arwydd o barch drwy gynnau cannwyll yn eu ffenestri am 4pm ar ddydd Gwener Ionawr 27ain, lle mae'n ddiogel i wneud hynny, a rhannu llun o'r gannwyll ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio #DiwrnodCofio'rHolocost a #GoleuwchyTywyllwch.
Bydd adeiladau a thirnodau'n cael eu goleuo'n borffor nos Wener 27 Ionawr, 2023. Mae'r adeiladau yng Nghaerdydd sy'n cymryd rhan yn cynnwys Castell Caerdydd, y Senedd, Neuadd y Ddinas ac Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays.
Cynhelir Seremoni Goffa'r Deyrnas Gyfunol ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost ar-lein am 7pm nos Iau 26 Ionawr, 2023. Mae rhagor o fanylion, a chyfarwyddiadau ar sut i gofrestru i wylio'r seremoni, ar gael yn www.hmd.org.uk/ukhmd/