Mae'r llywodraeth ganolog wedi pasio deddf fydd yn newid y ffordd rydyn
ni'n pleidleisio yn Etholiad San Steffan a’r Etholiad ar gyfer y Comisiynydd
Heddlu a Throseddu. Gelwir y ddeddf hon yn Ddeddf Etholiadau 2022.
Sylwer:NIDyw’r gyfraith hon yn berthnasol i
Etholiadau Senedd Cymru nac i Lywodraeth Leol (Cyngor Caerdydd a Chynghorau
Cymuned), gan mai Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r ddeddfwriaeth ar gyfer y
rhain.
Newidiadau i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio: Angen cerdyn adnabod â llun
Rhaid i chi nawr ddangos dogfen adnabod â llun i
bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio pan fo etholiad i Senedd San Steffan
neu etholiad ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Rhaid i’r ddogfen â llun fod yn un gymeradwy, fel pasbort neu drwydded
yrru. Dogfennau gwreiddiol yn unig sy'n cael eu derbyn. Ni dderbynnir
delweddau wedi'u sganio neu gopïau. Fodd bynnag, os yw'ch cerdyn adnabod â llun
wedi dod i ben fe'i derbynnir cyn belled â bod y llun yn dal yn ymdebygu
i chi.
Mae'r mathau o gardiau adnabod a dderbynnir amlaf yn cynnwys:
· Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o
Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwlad â statws AEE
neu wlad yn y Gymanwlad.
· Trwydded yrru â llun a gyhoeddwyd gan y DU,
Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE neu wlad yn y Gymanwlad
· Cerdyn adnabod â llun yr Ardal Economaidd
Ewropeaidd (AEE)
· Cerdyn adnabod ag arno hologram y Cynllun
Prawf Oed Safonol (cerdyn PASS)
· Bathodyn Glas
· Pàs Bws Person Hŷn
· Pàs Bws i Bobl Anabl
· Cerdyn Oyster 60+
Beth i'w wneud os nad oes gennych gerdyn adnabod â llun cymeradwy?
Os nad oes gennych
gerdyn adnabod cymeradwy, bydd angen i chi wneud cais am 'Dystysgrif Awdurdod
Pleidleiswyr' am ddim (TAP).
Gallwch wneud
cais ar-lein am TAP drwy'r llywodraeth ganolog GOV.UK Gwefan Tystysgrif Awdurdod
Pleidleiswyr.
Gallwch hefyd
wneud cais am TAP drwy argraffu a llenwi ffurflen bapur a'i hanfon at ein Swyddfa
Gofrestru Etholiadol yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r cyfeiriad isod. Cliciwch yma i lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen.
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd
CF10 4UW
Neu e-bostiwch gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 02920872088 i ofyn am ffurflen
bapur.
Gall ein Tîm
Gwasanaethau Etholiadol eich helpu gyda'ch cais. Cysylltwch â ni i gael unrhyw
gymorth neu os oes angen i chi fynychu'r swyddfa etholiadau yn bersonol i gael
help gyda'ch cais.
Ar ôl i chi
dderbyn eich TAP, ni fydd dyddiad dod i ben arno. Fodd bynnag, cynghorir eich
bod yn adnewyddu eich TAP (ail-wneud cais am TAP) mewn 10 mlynedd i sicrhau bod
y llun arno yn parhau i fod yn wir debygrwydd i chi.
Y dyddiad cau i
wneud cais am TAP fydd 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad.
Bydd angen i
chi ddangos eich cerdyn adnabod cymeradwy neu TAP mewn gorsafoedd pleidleisio o
fis Mai 2023 ymlaen ar gyfer etholiadau San Steffan a’r Comisiynydd Heddlu a
Throseddu.
Yr etholiad
nesaf sydd wedi’i gofrestru yng Nghaerdydd lle bydd angen dangos
dogfen adnabod â llun neu TAP i bleidleisio, fydd yr etholiad ar gyfer y
Comisiynydd Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024.
A ydych chi'n
ansicr a oes gennych ffurf ddilys a derbyniol o gerdyn adnabod â llun?
Os ydych yn
ansicr a yw ffurf y cerdyn adnabod sydd gennych ar hyn o bryd yn cael ei
dderbyn gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion ar y ffurfiau derbyniol drwy glicio yma. Neu gallwch gysylltu â'n Swyddfa Cofrestru
Etholiadol drwy e-bostio: gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 02920872087 am gymorth.
Pleidleisio trwy'r post neu drwy ddirprwy
Os ydych yn dewis pleidleisio drwy'r post, ni fydd hyn yn effeithio
arnoch a byddwch yn derbyn eich papurau pleidleisio drwy'r post fel arfer.
Os ydych chi'n dewis pleidleisio trwy ddirprwy, yna bydd yn rhaid i'r
sawl rydych chi wedi ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan fynd â’u cerdyn
adnabod â llun eu hunain i gael papur pleidleisio.
Os ydych yn teimlo'n ansicr a oes
gennych ffurf dderbyniol o gerdyn adnabod â llun, neu’n ansicr am unrhyw
newidiadau sy’n dod i rym yn sgil y Ddeddf Etholiadau, yna cysylltwch â'n
Swyddfa Gwasanaethau Etholiadol.
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd
CF10 4UW
E-bost:gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 02920872088
Newidiadau
pellach o ganlyniad i Ddeddf Etholiadau 2022
Mae newidiadau pellach a fydd yn dod i
rym ar gyfer Etholiadau San Steffan a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Byddwn
yn eich diweddaru ar y newidiadau wrth iddynt ddod i rym.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf
hon, gallwch ymweld â'r ddolen isod.