Back
Mae gweithwyr y cyngor yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos i ddatrys y problemau a achoswyd gan y stormydd

13/01/23

Yn dilyn y glaw trwm a'r gwyntoedd cryfion ddydd Mercher a dydd Iau yr wythnos hon, mae Tîm Priffyrdd y cyngor wedi bod yn gweithio y tu allan i oriau i ymateb i'r problemau a gododd yn sgil y Rhybudd Tywydd Melyn gan y Swyddfa Dywydd.

Roedd y brif ffordd yng Ngwaelod-y-Garth ar gau oherwydd llifogydd. Bu swyddogion y cyngor yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân i bwmpio'r llifddwr i'r man isel. Rhoddwyd gwyriad ar waith i sicrhau bod modd mynd at yr ysgol.

Gorlifodd Nant y Garth yn Nhongwynlais ac roedd yn llifo dros Heol Merthyr. Mynychodd tîm o'r cyngor i glirio a delio â'r sefyllfa.

Fe wnaeth Awdurdod yr Harbwr gau llwybrau bordiau Cei'r Fôr-Forwyn, ond cafodd y rhain eu hail-agor am 11am bore dydd Iau. Cafodd y siopau a busnesau'r ardal eu cynghori i gymryd rhagofalon angenrheidiol, gan mai tir preifat yw hwn.

Mae Taith Taf dan ddŵr, a rhoddwyd cyngor i bobl a beicwyr osgoi'r ardal. Mae dŵr yr afon wedi gwasgaru i Barc Bute, sy'n gweithredu fel gorlifdir yn ystod digwyddiadau tywydd garw.Bydd gemau chwaraeon wedi'u canslo eto y penwythnos hwn ac o bosib y penwythnos wedyn hefyd, er mwyn gallu paratoi'r caeau ar gyfer gemau'r dyfodol.

Mae Heol Llanfihangel, ger y groesfan rheilffordd yn Sain Ffagan dan ddŵr ac felly mae'r rhan yma o'r ffordd wedi'i chau.

Fe wnaeth Afon Elái, yn yr ardal o amgylch Pont Trelái, dorri tua 16:00 ddoe, gan effeithio ar Wroughton Place, Ffordd y Felin a Riverside Terrace. Roedd timau'r Cyngor ar y safle yn helpu gyda'r gwaith o gludo bagiau tywod a sicrhau diogelwch trigolion.