20/1/2022
Mae buddsoddiad Caerdydd yn y maes addysg, sydd werth miliynau, gan gynnwys ysgolion newydd a gwelliannau i adeiladau ysgol presennol, wedi cael ei amlinellu mewn adroddiad newydd.
Mae'r Adroddiad Blynyddol ar Fuddsoddi yn yr Ystâd Addysg yn rhoi
diweddariad ar gynnydd y buddsoddiad ar draws y ddinas a'r camau nesaf o ran buddsoddi
yn y dyfodol.
Ers 2012 mae Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio i gyflwyno
rhaglen buddsoddi cyfalaf fawr, hirdymor a strategol, gyda'r nod o greu
cenhedlaeth o gyfleusterau dysgu carbon-sero rhagorol yng nghanol y gymuned.
Fel rhan o Fand A y Rhaglen Fuddsoddi Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu
(a elwid gynt yn rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif) gwelwyd £164
miliwn yn cael ei wario yng Nghaerdydd, a chyda’r ail gam, Band B, daeth
buddsoddiad pellach o £298.6 miliwn a ariannwyd drwy gyfuniad o fuddsoddiad
cyfalaf traddodiadol, ynghyd â ffrwd ariannu refeniw a elwir yn Fodel Buddsoddi
Cydfuddiannol (MBC).
Hyd yma, mae saith ysgol gynradd newydd a dwy ysgol uwchradd newydd wedi'u
cyflawni, gydag ysgol uwchradd newydd Fitzalan bron â chael ei chwblhau i fod yn
barod i groesawu disgyblion yng ngwanwyn/haf 2023.
Mae cynigion yn cael eu
datblygu i ddarparu adeiladau newydd ar gyfer Campws Cymunedol y Tyllgoed
(Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Riverbank, ac Ysgol Uwchradd
Woodlands), Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Willows, Ysgol Arbennig The
Court ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair, gydag eraill i
ddilyn.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a
Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn ystod y
blynyddoedd diwethaf, mae cyflawniadau a llwyddiannau buddsoddiadau addysg
Caerdydd wedi bod yn rhagorol ac mae ein gweledigaeth i greu ysgolion
ysbrydoledig, cynaliadwy, carbon niwtral sydd â ffocws cymunedol a lle gall ein
plant a phobl ifanc gyflawni eu potensial, yn parhau gyda phrysurdeb.
“Addysg o hyd yw ein prif flaenoriaeth, ac er mwyn adeiladu ar y safon
uchel o addysg a ddarperir yng Nghaerdydd fel y cydnabuwyd gan yr Arolwg Estyn
diweddar, mae'r Cyngor wedi ailadrodd ei ymrwymiad i wneud pob ysgol yng
Nghaerdydd yn ysgol dda, lle gall pob plentyn dderbyn addysg wych.
"Mae hyn yn cynnwys parhau i ddarparu lefelau sylweddol o fuddsoddiad
mewn adeiladau ysgol newydd a phresennol ochr yn ochr â gwelliannau parhaus i gyrhaeddiad
addysgol tra’n rhoi barn plant a phobl ifanc wrth galon agenda polisi'r Cyngor,
gan gefnogi uchelgais Caerdydd i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF UK.
Wrth wneud hynny, rhown ffocws penodol ar gefnogi’r plant mwyaf agored i niwed
yng Nghaerdydd, o'u cefnogi nhw a'u teuluoedd yn eu blynyddoedd cynnar a
thrwy'r ysgol, i fyd gwaith ac addysg uwch.
"Yn unol ag uchelgeisiau ehangach
Caerdydd fel y strategaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach, Un Blaned a Gweledigaeth
Addysg Caerdydd 2030, rydym yn parhau i adnewyddu ein hysgolion, gan ddisodli'r
rhai sy'n cyrraedd diwedd eu hoes weithredol a darparu lleoedd ysgol newydd ar draws pob sector – cynradd, uwchradd, anghenion dysgu
ychwanegol, cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg – gan greu'r capasiti ychwanegol
y bydd ei angen ar blant a phobl ifanc
Caerdydd."
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw
at gyflawniadau buddsoddi eraill gan gynnwys:
Mae disgwyl i ysgol gynradd newydd yr Eglwys yng Nghymru
Llaneirwg ar ddatblygiad St Edeyrn’s gael ei chwblhau yn ystod gwanwyn 2023 a
bydd Ysgol Gynradd Groes-wen yn gwasanaethu cam cynnar datblygiad Plasdŵr -
disgwylir iddi gael ei chwblhau erbyn mis Medi 2023. Mae gwaith cynllunio
cynnar ar y gweill ar gyfer prosiectau ysgol yng Nghyffordd 33 a datblygiad
Churchlands.
Edrychodd y Pwyllgor Craffu
Plant a Phobl Ifanc ar yr adroddiad mewn cyfarfod cyhoeddus ar Ionawr 16, 2023.
Bu’r pwyllgor yn profi cynigion i ddeall eu rhesymeg a’u sail
dystiolaeth, y gofynion a chanlyniadau disgwyliedig y Cyngor, a'r camau nesaf.
Mae papurau cyhoeddedig yr Adran Graffu ar yr adroddiad ar gael i'w gweld
yma Agenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Llun,
16eg Ionawr, 2023, 5.00 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)
Cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar yr adroddiad sydd
yn codi’r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Caerdydd o ran datblygu'r ystâd
addysg ar hyn o bryd.