Cwestiynau Cyffredin ynghylch Rheoli Chwyn
Ydy glyffosad yn beryglus i bobl?
Rydym yn dibynnu ar Is-adran Rheoliadau Cemegol Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch y DU i brofi chwynladdwyr a phenderfynu a ydyn nhw'n ddiogel neu beidio.
Ar hyn o bryd mae chwynladdwyr sy'n cynnwys glyffosad yn cael eu trwyddedu'n llawn fel rhai diogel i'w defnyddio ar dir cyhoeddus ac nid oes labeli i rybuddio am beryglon ar unrhyw gynnyrch a ddefnyddiwn, sy'n golygu nad yw'n ofynnol yn gyfreithiol i hyd yn oed ein contractwyr rheoli chwyn wisgo cyfarpar diogelu fel masgiau neu fenig wrth ei ddefnyddio.
Ond dwi'n siŵr mod i wedi clywed bod glyffosad wedi cael ei ddatgan yn garsinogenaidd. Dyw hynny ddim yn swnio'n ddiogel.
Mae'n debyg eich bod yn meddwl am benderfyniad yr Asiantaeth Ryngwladol dros Ymchwil i Ganser (rhan o Sefydliad Iechyd y Byd) yn 2015 i gategoreiddio glyffosad yn "garsinogenaidd o bosibl".
I roi'r penderfyniad hwn yn ei gyd-destun, mae'r Asiantaeth hefyd yn rhestru bwyta cig coch, gweithio mewn siop trin gwallt, gweithio shifftiau nos ac yfed diodydd poeth iawn yn yr un categori â glyffosad.
Ers 2015, mae glyffosad wedi cael ei adolygu gan 19 o asiantaethau eraill, gan gynnwys yr Asiantaeth Cemegau Ewropeaidd, Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop, y Comisiwn Ewropeaidd, Swyddfa Diogelwch Bwyd a Meddyginiaethau Milfeddygol Ffederal y Swistir, Awdurdod Plaladdwyr a Meddyginiaethau Milfeddygol Awstralia, Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd Seland Newydd, a thair cangen wahanol o Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'r holl adolygiadau hyn wedi gwrthod y farn bod glyffosad "yn garsinogenaidd o bosibl."
Fel y nodwyd yn gynharach, rydym yn dibynnu ar benderfyniadau a wnaed gan Is-adran Rheoleiddio Cemegau Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch y DU i benderfynu'r hyn sy'n ddiogel, a'r hyn nad yw'n ddiogel i'w ddefnyddio, ac yn ddiweddar maent wedi penderfynu ymestyn eu cymeradwyaeth i ddefnyddio glyffosad ar dir cyhoeddus am dair blynedd arall.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am farn yr Is-adran Rheoleiddio Cemegau ar glyffosad yma:https://www.hse.gov.uk/pesticides/using-pesticides/general/glyphosate-faqs.htm
Iawn, ond roeddwn i'n meddwl eich bod chi wedi datgan argyfwng natur, onid yw glyffosad yn ddrwg i beillwyr?
Yn ôl Adroddiad Terfynol y Prosiect a baratowyd yn annibynnol gan Dr Dan Jones, mae'r dystiolaeth ar hyn yn aneglur, hyd yn oed i'r gymuned wyddonol ac yn ymwneud yn bennaf â gostyngiad mewn fflora gastroberfeddol buddiol, a llai o symudedd - ond mae hyn yn rhywbeth rydym yn ymwybodol iawn ohono. Mae'n un o'r rhesymau ein bod wedi ymrwymo i adolygu'r defnydd o glyffosad yn ein holl barciau, gyda'r bwriad o leihau ein defnydd ymhellach.
Mae mwy o fanylion am y dystiolaeth ynghylch effaith glyffosad ar beillwyr yn adran 6.4 Adroddiad Terfynol y Prosiect, sy'n nodi bod llawer o'r ymchwil presennol yn edrych ar glyffosad fel y'i defnyddir ar raddfa amaethyddol, lle gall y defnydd o chwynladdwyr gynnwys chwistrellu gwahanol chwynladdwyr dros ardaloedd helaeth, sawl gwaith trwy gydol y flwyddyn. Mae graddfa'r defnydd o chwynladdwyr yng Nghaerdydd yn llawer llai, a rhoddir triniaethau yn uniongyrchol ar blanhigion unigol, a hynny mewn symiau sylweddol is - tua 0.12 gram y metr sgwâr o'r palmant bob blwyddyn (mae un gram yn cyfateb i gyfaint chwarter llwy de).
Yn y pen draw, gall pob dull o reoli chwyn gael effaith anfwriadol ar beillwyr ac infertebratau eraill, er enghraifft mae ewyn poeth yn gofyn am ddefnyddio llawer iawn o ddŵr berwedig, a allai ladd unrhyw fywyd gwyllt y mae'n dod i gysylltiad â nhw. Mae gan hyd yn oed y broses o dynnu chwyn yn fecanyddol gan ddefnyddio brwsys neu offer metel y potensial i ladd bywyd gwyllt.
Felly, beth oedd y broblem gyda'r dulliau amgen o reoli chwyn wnaethoch chi eu treialu?
Yn fyr, mae'r dystiolaeth yn y prawf yn awgrymu nad ydyn nhw mor gynaliadwy yn y byd go iawn â glyffosad, neu mor effeithiol.
Glyffosad oedd y dull mwyaf effeithlon ac effeithiol o bell ffordd o reoli chwyn a dreialwyd - yn ystod y treial dim ond pedair cwyn am chwyn a dderbyniwyd yn yr ardal lle'r oedd glyffosad yn cael ei ddefnyddio, o'i gymharu â 22 ar gyfer asid asetig, a 29 ar gyfer ewyn poeth.
Glyffosad hefyd oedd y cynnyrch drutaf o bell ffordd. Yn seiliedig ar brofiad gweithredol a chanlyniadau'r treial amcangyfrifir y byddai defnyddio asid asetig ar arwynebau palmentydd yn arwain at gynnydd o 667% mewn costau, o'i gymharu â glyffosad, a chynnydd o 1000% pe bai ewyn poeth yn cael ei ddefnyddio.
Yn ychwanegol, unwaith i chi edrych ar gylch oes llawn y cynnyrch, gan ystyried pethau fel faint o danwydd a dŵr a ddefnyddiwyd, dyma hefyd oedd y cynnyrch lleiaf niweidiol i'r amgylchedd - mewn gwirionedd, glyffosad gafodd yr effaith leiaf ym mhob un ond dau o'r 18 categori effaith amgylcheddol gwahanol a ystyriwyd yn yr ymchwil annibynnol.
Y 18 categori a ystyriwyd oedd: Cynhesu Byd-eang, Disbyddu Osôn Stratosfferig, Ymbelydredd Ïoneiddio, Ffurfio Osôn (Iechyd Dynol), Ffurfio Mân Ddeunydd Gronynnol, Ffurfio Osôn (Ecosystemau Daearol), Asideiddio Daearol, Ewtroffigedd Dŵr Croyw, Ewtroffigedd Morol, Ecowenwyndra Daearol, Ecowenwyndra Dŵr Croyw, Ecowenwyndra Morol, Gwenwyndra Carsinogenig Dynol, Gwenwyndra An-garsinogenig Dynol, Defnydd Tir, Prinder Adnoddau Mwynol, Prinder Adnoddau Ffosil, Defnydd Dŵr.
Er enghraifft, roedd angen 629.64 litr o ddŵr fesul cilometr ar driniaeth gydag ewyn poeth - 62 gwaith yn fwy o ddŵr na glyffosad, a oedd angen 13 litr y cilometr.
Roedd angen 0.18 litr o ddisel fesul cilometr wrth ddefnyddio glyffosad, ond roedd angen 0.19 litr ar asid asetig. Defnyddiodd ewyn poeth 12.33 litr o ddisel ynghyd â 2.13 litr o betrol fesul cilomedr a driniwyd - 63 gwaith yn fwy o ddisel a 100% yn fwy o betrol nag sydd eu hangen ar glyffosad.
Os yw glyffosad yn gynaliadwy, pam rydych chi'n dal i gynllunio i leihau'r swm rydych chi'n ei ddefnyddio?
Mae pob dull o reoli chwyn yn cael effaith amgylcheddol. Er bod yr ymchwil yn dangos mai glyffosad yw'r opsiwn mwyaf cynaliadwy sydd ar gael ar y farchnad ar hyn o bryd, mae'n dal i gael effaith amgylcheddol - felly, y lleiaf y gallwn ei ddefnyddio wrth barhau i gadw palmentydd yn glir o beryglon baglu, gorau oll.
Oni fyddai'n well peidio â defnyddio unrhyw chwynladdwr o gwbl?
O ran natur, byddai - wedi'r cyfan, mae rheoli chwyn yn lladd planhigion yn y bôn. Ond mae angen i ddinasoedd weithio i'r bobl sy'n byw ynddyn nhw hefyd. Mae gennym ddyletswydd gofal i gadw palmentydd yn glir, ac yn rhydd rhag y peryglon baglu a achosir gan chwyn - dychmygwch geisio gwthio cadair wthio ar hyd palmant sydd wedi'i orchuddio â chwyn, neu pa mor anodd y gallai fod i ddefnyddiwr cadair olwyn, neu breswylydd oedrannus. Pe bai'n cael ei adael heb ei drin yna byddai'r sefyllfa'n gwaethygu bob blwyddyn.
Ond beth am ddefnyddio dulliau mecanyddol, fel brwsys ac offer metel, neu hyd yn oed fflamau?
Wel, byddai'r ddau yna'n wych pe bai'r unig bryder fyddai defnyddio llai o chwynladdwr, ond mae problemau sylweddol gyda'r ddau ddull hyn.
Mae defnyddio fflamau yn peri risg iechyd a diogelwch sylweddol ac ar hyn o bryd nid yw'n cael ei reoleiddio yn y DU - ni allech chi, er enghraifft, ddefnyddio fflamau yn agos at geir wedi'u parcio neu unrhyw ddeunyddiau fflamadwy eraill, fel dail. Gan fod fflamau ond yn lladd y chwyn uwchben y ddaear (yn hytrach na glyffosad, sy'n lladd y chwyn cyfan) byddai angen defnyddio'r driniaeth mwy o weithiau, gan gynyddu costau ynni creu fflamau. Byddai fflamau hefyd yn lladd bywyd gwyllt ar gyswllt.
Mae creu brwshys ac offer metel yn defnyddio llawer iawn o garbon ac yn gostus iawn. Er ein bod yn defnyddio'r dulliau hyn mewn rhai sefyllfaoedd fel rhan o'n dull integredig o reoli chwyn mae cyfyngiadau ar eu hymarferoldeb ar raddfa fawr gan fod angen eu defnyddio nifer fwy o weithiau er mwyn bod yn effeithiol, gan olygu costau llafur uwch a gofynion ynni/carbon. Mae'n bwysig cofio bod y peiriannau yma hefyd yn gallu lladd bywyd gwyllt ar gyswllt.
Faint o glyffosad ydych chi'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd?
Yn 2021 defnyddion ni 3,500 litr. Mae ffigurau blynyddol yn amrywio'n naturiol o flwyddyn i flwyddyn, yn dibynnu ar amodau tywydd, fodd bynnag, mae hyn yn ostyngiad o tua 80% o'i gymharu â dulliau blaenorol.
Mae'r swm rydyn ni'n ei ddefnyddio yn cael ei leihau drwy ddefnyddio peiriannau WEED-IT (Canfod a Dileu Chwyn yn Ddarbodus - Technoleg Ddeallus). Mae'r systemau cymhwyso chwynladdwr hyn a reolir gan gyfrifiadur, wedi'u cynllunio'n benodol i'w defnyddio ar arwynebau caled, yn defnyddio synwyryddion i ganfod presenoldeb chwyn a sbarduno'r cymhwysiad cywir o chwynladdwr ar y chwyn yn uniongyrchol.
Oes unrhyw ffordd y gallwch chi ddefnyddio hyd yn oed llai o glyffosad?
Mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n mynd i fod yn edrych arno, gan ddechrau drwy adolygu ble a sut rydyn ni'n defnyddio glyffosad yn ein parciau.
Mae pob parc yn wahanol ond byddwn, er enghraifft, yn edrych i weld a oes modd i ni leihau'r swm rydyn ni'n ei ddefnyddio ar hyd ymylon llwybrau, yn agos at goed, neu'n agos at ardaloedd rydyn ni'n eu cynnal ar sail torri gwair unwaith neu sydd â blodau gwyllt.
Ydy hyn yn golygu y byddwch chi bob amser yn defnyddio glyffosad?
Na, nid o reidrwydd. Ar hyn o bryd does dim llawer o ddewisiadau amgen ar gael - ac mae'r ymchwil annibynnol sydd newydd gael ei gynnal yn dangos nad ydyn nhw mor gynaliadwy â glyffosad. Pan fydd cynhyrchion neu dechnegau newydd ar gael, byddwn yn ystyried eu defnyddio, os ydynt yn profi'n fwy cynaliadwy na glyffosad.
Beth sydd gan y cwmnïau sy'n cynhyrchu'r cynnyrch y gwnaethoch chi eu treialu i'w ddweud am y canlyniadau?
Fe gysyllton ni â chynhyrchwyr y ddau gynnyrch amgen wnaethon ni eu treialu cyn cyhoeddi'r adroddiad terfynol.
Roedd ymateb cynhyrchwyr y cynnyrch asid asetig a gafodd ei dreialu yn ymwneud â manylion technegol o amgylch crynodiad y cynnyrch. Gwnaed nifer o fân newidiadau i'r adroddiad terfynol i egluro bod y cynnyrch y maent yn ei gynhyrchu yn cael ei wanhau â dŵr i ostwng y lefelau crynodiad ac felly lleihau unrhyw risgiau posibl i bobl a bywyd gwyllt.
Ymateb cynhyrchwyr y cynnyrch ewyn poeth a dreialwyd oedd eu bod yn teimlo bod y ffigur o 4.89 awr o lafur i drin un cilomedr yn anghywir ac y gellid cyflawni'r dasg gydag un gweithredwr fesul uned yn hytrach na'r tri a ddefnyddiwyd yn y prawf. Tynnon nhw sylw hefyd at y ffaith eu bod wedi cyflwyno system hybrid newydd yn ddiweddar sy'n defnyddio pŵer batri i helpu i leihau allyriadau.
A wnaeth sylwadau'r cwmnïau newid eich barn ar ba gynhyrchion i'w defnyddio?
Naddo.
Yn seiliedig ar berfformiad amgylcheddol ac economaidd cyffredinol y cynhyrchion yn ystod y profion, credwn mai'r dull cyfrifol presennol o reoli chwyn gan ddefnyddio glyffosad fyddai, yng ngeiriau Dr Dan Jones, "y dull mwyaf effeithiol a chynaliadwy o reoli chwyn sydd ar gael ar hyn o bryd yn y DU", a hynny ar ôl ystyried y materion a godwyd.
Mae canlyniadau llawn y treial rheoli chwyn amgen ar gael yma:https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s65772/Item%203%20-%20Appendix%20A.pdf?LLL=0