Mae Caerdydd yn llawn goleuadau'r Ŵyl, ond am 8pm heno byddwn yn diffodd Y goeden Castell Caerdydd, goleuadau'r waliau a goleuadau'r Carw am awr mewn undod â phobl Wcráin fydd yn treulio'r Nadolig mewn tywyllwch, gyda llawer o'r wald heb bŵer.
Nod diffodd y goleuadau yw codi ymwybyddiaeth o'r trychineb dyngarol y mae'r rhyfel yn Wcráin wedi ei achosi, gyda mwy na 10 miliwn o bobl heb wres, trydan na dŵr gyda disgwyl i'r tymheredd ostwng i -20 gradd. Mae Caerdydd yn ymuno â Llundain, Caeredin, Lerpwl, Paris, Efrog Newydd, Sydney a llawer o fannau eraill ledled y byd sy'n diffodd eu goleuadau Nadolig.
Mae'r awr o dywyllwch yn rhan o'r ymgyrch codi arian #United25 ar gyfer sicrhau generaduron i ysbytai ledled Wcráin.