16/12/22
Cafodd cynigion ar gyfer dau atyniad newydd i ymwelwyr gyda'r nod o wella Bae Caerdydd ymhellach fel cyrchfan flaenllaw yn y DU ar gyfer hamdden, diwylliant a thwristiaeth eu trafod ddoe gan Gabinet Cyngor Caerdydd (Rhagfyr 15) a phenderfynwyd ymrwymo i gytundebau prydles gyda'r ddau gwmni, yn amodol ar amodau y cytunwyd arnynt.
Gallai'r cyntaf, gan y cwmni Nordic Urban o'r Ffindir, weld pwll nofio awyr agored, arnofiol a chyfleuster sawna, sy'n debyg i'w cyfleuster yn Helsinki, yn dod i'r dociau sych ger Techniquest.
Yr ail, cynnig gan Skyview, yw adeiladu reid balŵn 90 metr o uchder gyda phlatfform gwylio sy'n troi ar dir nad yw'n cael ei ddefnyddio ger Canolfan Red Dragon. Byddai'r platfform yn cynnig golygfeydd panoramig o'r ddinas a'r glannau o hyd at 20 milltir.
Yn ddiweddar cafodd gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Bae Caerdydd ei chyflwyno i fuddsoddwyr posib yn MIPIM 2021, lle dechreuodd trafodaethau gyda'r ddau gwmni i ddenu'r ddau atyniad hamdden hyn o safon uchel i ymwelwyr a thrigolion eu mwynhau.
Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu: "Mae'r weinyddiaeth hon wedi bod yn glir o'r dechrau am ein hymrwymiad i adfywio Bae Caerdydd. Ein bwriad yw trawsnewid y rhan hanesyddol hon o Gaerdydd yn gyrchfan flaenllaw yn y DU ar gyfer hamdden, diwylliant a thwristiaeth, gan gynyddu ymwelwyr ac, yr un mor bwysig, creu mwy o swyddi a chyfleoedd i bobl leol.
"Bydd y ddau ddatblygiad yn cael eu hariannu'n breifat ac unig gyfraniad y Cyngor yw sicrhau bod y tir ar gael."
Cynnig gan Nordic Urban -Mae'r dociau sych sy'n cael eu rhestru gan Cadw yn cynnwys tri strwythur a gafodd eu hadeiladu rhwng 1850 a 1900. Mae'r ardal o'i chwmpas sy'n cynnwys Cei'r Fôr-Forwyn, Techniquest a Gwesty St David's wedi elwa ar fuddsoddiad sylweddol dros y blynyddoedd, ond oherwydd y rhwystrau datblygu, ni ddatblygwyd y dociau sych. Mae Nordic Urban yn cynnig defnyddio dau o'r dociau ar gyfer eu buddsoddiad, gyda'r trydydd doc agosaf at Stryd Havannah yn parhau yn ei le ar gyfer angorfeydd preifat. Mae'r cynnig yn cynnwys:
Cynnig gan Skyview- Ar dir y tu ôl i Ganolfan Red Dragon, mae'r cwmni'n cynnig adeiladu reid balŵn gyda phlatfform gwylio 90 metr o uchder sy'n troi, i gynnig golygfeydd panoramig o'r ddinas a'r glannau gan ddarparu profiad gwahanol i'r atyniadau 'olwyn fawr' a welir mewn llawer o ddinasoedd.
Yn dilyn y cyhoeddiad gan y Cyngor ar Uwchgynllun Bae Caerdydd, nododd Skyview fod Caerdydd yn cynnig cyfle gwych ar gyfer eu reid gyntaf yn y DU.
Bu Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant yn edrych ar yr adroddiad cabinet mewn cyfarfod cyhoeddus Ddydd Llun 12 Rhagfyr. Gellir gweld recordiad o'r cyfarfod yma:https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/726620ac mae modd gweld y papurau craffu cyhoeddedig yma:https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=7938&LLL=0
Heriwyd y cynigion gan Aelodau Etholedig i ddeall eu rhesymeg a'u sail dystiolaeth, gofynion a chanlyniadau disgwyliedig y Cyngor, a'r camau nesaf. Yn dilyn y cyfarfod fe ysgrifennodd y Pwyllgor Craffu at y Cabinet gyda nifer o sylwadau. Gallwch weld y llythyr yma:(Pecyn Cyhoeddus) Ychwanegiad Agenda Gohebiaeth yn Dilyn Cyfarfod Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant, 12/12/2022 17:00 (moderngov.co.uk)
Ystyriodd Cabinet Cyngor Caerdydd yr argymhellion yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir ddoe. Mae agenda, adroddiadau a phapurau'r cyfarfod ar gael i'w gweld ymahttps://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7957&LLL=1.