13/12/22
Mae gan Gyngor Caerdydd aelod newydd o'i fflyd cynnal a chadw dros y gaeaf sy'n helpu i gadw rhwydwaith beicio strategol y ddinas yn ddiogel i'w ddefnyddio yn ystod y tywydd rhynllyd.
Mae'r cerbyd Multihog yn lledaenu hylif dŵr hallt dros y llwybrau beicio a chaiff ei ddefnyddio yn ystod y tywydd oer presennol i sicrhau bod llwybrau beicio ar wahân y ddinas yn ddiogel i feicwyr eu defnyddio.
Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd: "Mae'r cerbyd newydd, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi'i ddatblygu'n bwrpasol er mwyn cyflawni ystod o wahanol swyddogaethau gan gynnwys graeanu a chlirio eira o lwybrau beicio ar wahân. Gellir graeanu llwybrau beiciau nad ydynt ar wahân gan ddefnyddio peiriannau graeanu traddodiadol, ond nid yw hyn yn bosibl ar y llwybrau beicio ar wahân oherwydd y cyrbau.
"Os bydd beicwyr yn dod ar draws y cerbyd hwn wrth ei waith, gofynnwn iddynt gadw pellter diogel rhyngddynt â'r cerbyd neu stopio a dod oddi ar eu beic nes bod y cerbyd wedi mynd heibio."
Cyngor i Feicwyr yn y tywydd oer:Mae beicio yn nhywydd rhewllyd y gaeaf yn gallu bod yn heriol iawn ac mewn rhai achosion, gall fod yn rhy beryglus i feicio. Cynlluniwch eich taith o flaen llaw a gwiriwch ragolygon y tywydd i weld a yw'n ddiogel i fynd ar eich beic. Yn yr un modd â gyrru car, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'ch beic am unrhyw ddiffygion cyn cychwyn ar eich taith.
Amser: Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith mewn amodau garw gan y byddwch chi a phob traffig arall yn symud ar gyflymder arafach gan adael mwy o bellter i ddod i stop.
Bod yn amlwg ar y ffyrdd:Mae bod yn amlwg ar y ffyrdd yn bwysig gan ei bod yn hanfodol bod holl ddefnyddwyr y ffordd bob amser yn gallu eich gweld. Dylech ddefnyddio goleuadau (ar flaen a chefn eich beic) a dillad gwelededd uchel. Peidiwch byth â theithio mewn man dall cerbydau gan y gallai hyn arwain at wrthdrawiad a allai achosi niwed difrifol i chi a phobl eraill. Ceisiwch osgoi unrhyw orchuddion draeniau ac unrhyw arwynebau ffordd eraill a allai fod yn llithrig pan yn wlyb. Cynlluniwch bob rhan o'ch taith ymlaen llaw gan y bydd hyn yn eich atal rhag gorfod troi'n sydyn ar yr eiliad olaf.
Dewiswch yr amser gorau i feicio- Os yw'r tywydd yn mynd yn rhy arw yna peidiwch â theithio ar feic, gan ei bod yn anodd rhagweld yn union yr effeithiau y gall y tywydd eu cael ar ffordd neu lwybr beicio.
Byddwch yn ymwybodol o bobl eraill o'ch cwmpas:Caniatewch fwy o le rhyngoch chi, cerbydau eraill a cherddwyr gan y bydd y pellter stopio yn fwy mewn eira ac amodau rhewllyd.
Teiars a chadwyni: Gwnewch yn siŵr bod eich teiars wedi'u pwmpio'n gywir. Edrychwch am ystod psi y gwneuthurwr ar wal y teiar i sicrhau bod y beic yn ddiogel. Dylai fod digon o afael ar eich teiars cyn mentro allan a gellir gwirio hyn drwy edrych arnynt.Pan fo wyneb rwber y teiar yr un lefel â'r rhannau wedi'u codi, mae hyn yn golygu bod dyfnder wyneb y teiar yn agos at y terfyn cyfreithiol o 1.6mm. Dylech felly ofyn i berson proffesiynol neu berson cymwys wirio eich teiars a gosod rhai newydd. Gwnewch yn siŵr nad yw eich cadwyni ar y beic yn mynd yn rhy sych gan y bydd hyn yn achosi i'r gadwyn fynd yn sownd. Os yw'ch cadwyni'n edrych yn sych yna rhowch un diferyn yn unig o olew rhwng y platiau a'r rholwyr, ond peidiwch â defnyddio gormod o olew gan y gall unrhyw ormodedd ddenu baw, sy'n gallu achosi problemau eraill os yw'n cymysgu â'r olew.
Beth sy'n cael ei raeanu?Caiff llwybrau beicio eu trin dim ond lle maent yn ffurfio rhan o'r lôn gerbydau sy'n rhan o lwybr graeanu dynodedig neu sy'n rhan o'r rhwydwaith beicio strategol. Gallwch ddod o hyd i'r llwybrau hyn ar wefan Cyngor Caerdydd -https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Gwaith-Cynnal-a-Chadw-Ffyrdd-yn-y-Gaeaf/Pages/Gwaith-Cynnal-a-Chadw-Ffyrdd-yn-y-Gaeaf.aspx
Halen graeanu sych:Gall graean fynd yn sownd mewn cribau teiars a gall hyn arwain at lai o afael yn y teiars. Byddwch yn ymwybodol o hyn pan fyddwch yn defnyddio eich beic ar rwydwaith y briffordd mewn tywydd oer iawn.
Hylif dŵr hallt- Mae ein rhwydwaith beicio strategol yn cael ei drin gan ddefnyddio hylif dŵr hallt sy'n fwy effeithiol na graeanu gyda halen. Mae'r hylif yn cynnwys halen cryf a dŵr ac mae'n gyrydol. Y ffordd orau o ofalu am eich beic yw chwistrellu dŵr arno ar ôl cyrraedd adref ar ôl beicio mewn tywydd oer.