13/12/22
Mae trigolion datblygiad tai newydd yng ngogledd y ddinas yn ymsefydlu yn eu cartrefi newydd hynod ynni-effeithlon, carbon isel mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
Mae'r cyngor wedi trosglwyddo 12 o gartrefi dwy ystafell wely ar ddatblygiad newydd Plas y Ddôl yn y Mynydd Bychan - rhan o gynllun Cartrefi Caerdydd y Cyngor gyda'r datblygwr cenedlaethol Wates Residential, sy'n darparu 1,500 o gartrefi newydd yn y ddinas.
Mae'r cynllun, y dyrannwyd grant £1.8 miliwn y Rhaglen Tai Arloesol iddo gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys 30 o fflatiau un a dwy ystafell wely i'w rhentu o'r cyngor a 12 o dai rhes dwy ystafell wely, 6 ohonynt wedi bod ar gael i'w prynu trwy Cartrefi Cyntaf Caerdydd, cynllun perchentyaeth â chymorth y Cyngor, a'r gweddill ar gyfer rhent cyngor.
Mae pob un o'r 42 cartref fforddiadwy ar y datblygiad, a adeiladwyd ar safle'r hen Ganolfan Ddydd Highfields oddi ar Heol Allensbank, wedi cyflawni Ardystiad Passivhaus - safon aur effeithlonrwydd ynni sy'n gofyn am lefelau uchel o insiwleiddio ac athreiddedd aer isel i greu cartrefi sydd angen llai o ynni i wresogi, sy'n helpu i ostwng biliau ynni i breswylwyr a lleihau allyriadau carbon.
Er bod nwy'n dal i fod yn brif ffynhonnell gwresogi a dŵr poeth ar y datblygiad, mae'r boeleri combi Viessmann Vitodens 200-W (parod am hydrogen) diweddaraf yn cael eu defnyddio ac mae effeithlonrwydd ynni yn cael ei wella ymhellach drwy ddefnyddio adfer gwres MVHR a gwydr triphlyg.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen mewn ward sydd â galw mawr ond cyflenwad isel, Plas y Ddôl yn Y Mynydd Bychan yw ein datblygiad Passivhaus ynni isel blaenllaw. Yn ogystal â rhoi hwb i'n cyflenwad o gartrefi cyngor i'w rhentu, rwy'n falch iawn bod gan brynwyr tro cyntaf, a fyddai fel arfer yn methu fforddio prynu eu cartref cyntaf, gyfle trwy ein cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd i fynd ar yr ysgol eiddo yn y tai newydd hyfryd hyn.
"Yn wreiddiol, y bwriad oedd i'r 30 fflat gael eu ardystio gan Passivhaus ac i'r 12 tŷ fod yn Passivhaus Lite-ardystiedig ond rydym yn falch iawn o fod wedi cyflawni'r safon uwch ar gyfer y 12 cartref hefyd nawr, fel eu bod hefyd yn bodloni'r safonau uchel sydd eu hangen ar gyfer ardystiad Passivhaus.
"Yn yr awyrgylch presennol chymaint o bryder ynghylch costau ynni cynyddol, mae hyn yn newyddion cadarnhaol iawn ac yn garreg filltir arwyddocaol yn rhaglen Cartrefi Caerdydd. Byddwn yn monitro perfformiad y cartrefi newydd ac yn siarad â thrigolion i glywed eu profiad uniongyrchol o fyw mewn cartref Passivhaus."
Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Preswyl Wates, Edward Rees: "Diben rhaglen ddatblygu Cartrefi Caerdydd, rhwng Cyngor Caerdydd a Wates Residential, yw darparu cartrefi newydd i'r ddinas, felly rydym yn falch iawn o fod yn trosglwyddo 42 eiddo arall, a fydd yn gynnes, cysurus ac effeithlon i'r bobl sy'n symud i mewn, a fydd, gobeithio, yn hapus iawn yma.
"Mae'n angenrheidiol defnyddio'r technolegau diweddaraf i adeiladu cartrefi newydd i leihau costau carbon ac ynni, ac mae Cartrefi Caerdydd yn gweithio ar nifer o safleoedd, fel Llwyn Aethnen yn Nhredelerch, a fydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd."
Cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu trosglwyddo'r cartrefi i'r Cyngor yng nghwmni'r Cynghorydd Thorne, arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey a Chyfarwyddwr Rhanbarthol Wates, Edward Rees.
Dywedodd yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Hinchey: "Mae ansawdd yr eiddo ar y safle hwn yn glir i'w weld ac rwy'n meddwl bod y datblygiad hwn yn enghraifft da o sut y gall partneriaeth rhwng awdurdod lleol a phartner datblygwr ddarparu cartrefi fforddiadwy arloesol o ansawdd uchel i helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ein dinas a chwrdd â'n hagenda cynaliadwyedd."