Back
Y newyddion gennym ni - 12/12/22

Image

09/12/22 - Cynlluniau cyffrous ar gyfer Ysgol Gynradd Moorland yn barod i symud ymlaen

Gallai cynlluniau cyffrous ar gyfer Ysgol Gynradd Moorland yn y Sblot, gael eu datblygu yn fuan yn dilyn argymhellion i Gabinet Cyngor Caerdydd i ryddhau cyllid er mwyn dechrau ar y cynllun yn gynnar yn y flwyddyn newydd. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30456.html 

 

Image

09/12/22 - Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwyafrif ysgolion Caerdydd yn cael eu cydnabod fel ysgolion sy'n parchu hawliau

Mae'r mwyafrif o ysgolion Caerdydd bellach wedi ymuno â Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau (GYPH) Pwyllgor UNICEF y DU, sy'n golygu bod cyfranogiad Caerdydd yn y rhaglen Hawliau Plant yn parhau i fod gyda'r uchaf yng Nghymru. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30451.html 

 

Image

08/12/22 - Cyngor a phartneriaid yn ymateb i'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol

Mae disgwyl i raglen uchelgeisiol ac eang o gamau gweithredu sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yng Nghaerdydd gael ei hystyried gan Gyngor Caerdydd wrth iddo fonitro'r cynnydd a wnaed ers i'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol gael ei sefydlu yn y ddinas. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30448.html 

 

Image

08/12/22 - Dirwy o dros £10,000 i landlord am gyfres o fethiannau

Mae landlord wedi cael gorchymyn i dalu dros £10,000 yn Llys Ynadon Caerdydd am gyfres o fethiannau yn ymwneud â thŷ y mae hi'n berchen arno ac yn ei osod ar rent fel Tŷ Amlfeddiannaeth. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30442.html 

 

Image

07/12/22 - Cynnig dau atyniad newydd i ymwelwyr ym Mae Caerdydd

Mae cynigion ar gyfer dau atyniad newydd i ymwelwyr â'r nod o wella Bae Caerdydd ymhellach fel cyrchfan flaenllaw yn y DU ar gyfer hamdden, diwylliant a thwristiaeth, wedi'u datgelu heddiw. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30434.html 

 

Image

06/12/22 - Pennu blaenoriaethau newid hinsawdd wrth i Gyngor Caerdydd dorri allyriadau carbon 13%

Mae Cyngor Caerdydd wedi lleihau ei allyriadau carbon uniongyrchol 13% ers 2019/20, yn ôl adolygiad o'i ymateb Caerdydd Un Blaned i'r argyfwng hinsawdd, sy'n amlinellu ei flaenoriaethau wedi'u diweddaru ar gyfer gweithredu. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30429.html 

 

Image

06/12/22 - Neuadd Dewi Sant - Holi ac Ateb

Neuadd Dewi Sant - Holi ac Ateb 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30427.html 

 

Image

06/12/22 - Gallai cynnig i ddiogelu Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru - a'i chyfres gerddoriaeth glasurol - arbed miliynau i'r tre

Gallai cynllun i ddiogelu dyfodol Neuadd Dewi Sant fel Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru weld gwaith atgyweirio ac adnewyddu y mae mawr ei angen gwerth miliynau yn cael ei wneud ar yr adeilad, a rhaglen ddigwyddiadau wedi'i hadfywio wedi'i chynllunio i ddiogelu'r repertoire cerddoriaeth glasurol, gan ddod â rhai o'r artistiaid roc a phop enwocaf i berfformio yng Nghaerdydd ar yr un pryd. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30426.html 

 

Image

06/12/22 - Gwasanaeth Coffa'r Nadolig yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig

Cynhelir Gwasanaeth Coffa Eciwmenaidd y Nadolig yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar ddydd Sul, 11 Rhagfyr, am 2pm. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30420.html 

 

Image

06/12/22 - Cytuno ar bartneriaeth bwysig i gyflwyno Prifysgol y Plant Caerdydd

Bydd mwy o blant a phobl ifanc yn elwa ar gyfoeth o gyfleoedd addysgol yn dilyn cytundeb ffurfiol rhwng Cyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd i ymestyn'Pasbort i Ddinas Caerdydd'- Prifysgol y Plant Caerdydd. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30416.html 

 

Image

05/12/22 - Gwelliannau aer glân Caerdydd o fudd i bawb

Mae'r astudiaeth ddiweddaraf i lygredd aer yng Nghaerdydd yn dangos bod trigolion wedi mwynhau aer glanach ledled y ddinas drwy gydol 2021 o'i gymharu â ffigyrau cyn y pandemig yn 2019, yn ôl adroddiad newydd. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30403.html 

 

 

Image

30/11/22 - Parc Bute yn 'Plannu 'Nôl yn Well' gyda rhagor o goed a pherllan gymunedol newydd

Plannwyd y coed cyntaf mewn perllan gymunedol newydd ym Mharc Bute Caerdydd heddiw (30 Tachwedd) wrth i gynlluniau ddatblygu yn sgil ymosodiad fandaliaeth ddinistriol ar y parc ddechrau dwyn ffrwyth. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30391.html