20/12/2022
Bydd cynlluniau cyffrous ar gyfer Ysgol Gynradd Moorland yn y Sblot yn cael eu datblygu yn fuan yn dilyn argymhellion i Gabinet Cyngor Caerdydd i ryddhau cyllid er mwyn dechrau ar y cynllun yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Ym mis Gorffennaf 2022, cytunodd y Cabinet i sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ag 20 lle yn Ysgol Gynradd Moorland ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth. Mae hyn yn rhan o raglen sylweddol ar draws y ddinas i ehangu'r ddarpariaeth gan fwy na 270 leoedd, gwella safon y cyfleusterau a helpu i ateb y galw am leoedd ysgol arbennig ar gyfer dysgwyr cynradd ac uwchradd ledled Caerdydd.
Byddai ailddatblygu'r ysgol hefyd yn caniatáu am Uned Blynyddoedd Cynnar newydd, gan fod wir angen diweddaru’r un bresennol, ynghyd â darpariaeth Dechrau'n Deg newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth Weinidogol ar gyfer cyfraniad Dechrau'n Deg uwch gan Lywodraeth Cymru.
Byddai'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn cynyddu o 32 i 44 o leoedd gydag 8 lle gofal plant i blant 3 a 4 oed a byddai'n galluogi plant i symud o'r safle presennol yn Ysgol Uwchradd Willows sydd i'w hadleoli a'i hailadeiladu ar dir oddi ar Heol Lewis yn 2025.
Byddai
gwaith arall fel rhan o ddatblygiad Ysgol Gynradd Moorland yn cynnwys;
Os ceir cymeradwyaeth, byddwn yn osgoi oedi ar weithredu darpariaeth CAA a gallwn fwrw ymlaen gyda mynd i'r afael â chyflwr ystâd bresennol yr ysgol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i fodloni gofynion dysgu’r 21ain ganrif.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bydd ailddatblygu Ysgol Gynradd Moorland yn dod â chyfoeth o gyfleoedd cyffrous i'r ysgol ac yn helpu i fodloni anghenion ei chymuned.
"Bydd y cynllun yn fuddsoddiad sylweddol yn ardal y Sblot, a byddai'n cyflwyno campws gwirioneddol gymunedol. Byddai uned blynyddoedd cynnar newydd yn mynd i'r afael â phroblemau addasrwydd y ddarpariaeth bresennol a byddai safle Dechrau'n Deg newydd yn darparu cyfleusterau buddiol i'r gymuned fel ystafell gymunedol ar gyfer cyrsiau rhianta a chyfleuster crèche, hefyd i’r ysgol a’r gymuned eu defnyddio y tu allan i oriau."
"Yn ogystal, fel un o sawl cynllun i helpu i drawsnewid y ddarpariaeth addysg anghenion dysgu arbennig ac ychwanegol yng Nghaerdydd, byddai Ysgol Gynradd Moorland yn cynnig amgylchedd dysgu modern o’r radd flaenaf, fydd nid yn unig yn helpu i fynd i'r afael â diffyg lleoedd ond hefyd yn helpu i ledaenu'r cyfleusterau ar draws y ddinas.
Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen yma: Agenda'r Cabinet ddydd Iau, 15 Rhagfyr, 2022, 2.00 pm: Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)
Cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Moorland oedd ffocws y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion, a ffurfiwyd gan y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, ym mis Rhagfyr.
Derbyniodd aelodau etholedig ddiweddariad llawn ac ystyriwyd cynigion y Cabinet i weithredu'r argymhellion.
Mewn llythyr, diolchodd Lee Bridgeman, cadeirydd y pwyllgor, i'r swyddogion am y drafodaeth agored wrth ystyried y mater hwn. "Ar ran y Pwyllgor," meddai, "mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cymeradwyo'r adroddiad i'r Cabinet i'w ystyried."
Gallwch ddarllen y llythyr
llawn i'r Cabinet yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/b19970/Correspondence%20following%20Committee%20Meeting%2013th-Dec-2022%2016.30%20Children%20and%20Young%20People%20Scrutiny%20.pdf?T=9&LLL=0