Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Dirwy o dros £10,000 i landlord am gyfres o fethiannau; Caerdydd Un Blaned yn nodi blaenoriaethau newid yn yr hinsawdd; a Gwasanaeth Coffa'r Nadolig yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar dydd Sul.
Dirwy o dros £10,000 i landlord am gyfres o fethiannau
Mae landlord wedi cael gorchymyn i dalu dros £10,000 yn Llys Ynadon Caerdydd am gyfres o fethiannau yn ymwneud â thŷ y mae hi'n berchen arno ac yn ei osod ar rent fel Tŷ Amlfeddiannaeth.
Ni ymddangosodd Rowshanara Begum o Stryd Clive, Grangetown, Caerdydd, yn y llys ar 1 Rhagfyr ac fe'i dedfrydwyd yn ei habsenoldeb.
Rhoddwyd dirwy o £2,000 ar gyfer pob un o'r pum trosedd, gan arwain at ddirwy o £10,000, yn ogystal â £2,000 mewn costau a thâl dioddefwr o £190.
Fe ddaeth yr achos i'r amlwg yn dilyn cwyn gan denant am gyflwr yr eiddo rhent yn Blaenclydach Street yn Grangetown.
Cynhaliwyd archwiliad a nodwyd cyfres o ddiffygion, gan gynnwys, amddiffyniad tân strwythurol annigonol i ddianc o'r eiddo, dim system larwm tân, mesuryddion trydan heb eu gorchuddio, drysau tân diffygiol, ffenestri wedi torri, gosodiadau trydanol anniogel, carpedi brwnt, cyfleusterau cegin anniogel a thystiolaeth o damprwydd yn treiddio i'r eiddo.
Cafodd hysbysiadau cyfreithiol eu cyflwyno i Mrs Begum i wneud y gwaith atgyweirio gofynnol i'w heiddo rhent. Gan nad oedd y gwaith atgyweirio hwn wedi'i gwblhau o fewn yr amser a roddwyd, cymerwyd camau cyfreithiol.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae Tai Amlfeddiannaeth yn chwarae rhan bwysig yn stoc dai'r ddinas. Fel landlord, mae'r elw ariannol o'r eiddo hyn yn aml yn uwch na rhentu cartref teuluol, ond mae rhentu Tai Amlfeddiannaeth yn dod â chyfrifoldebau ychwanegol ac mae angen buddsoddi yn yr eiddo i sicrhau ei fod yn ddiogel i'r tenantiaid sy'n byw yno.
"Yn yr achos hwn, mae'r eiddo Fictoraidd wedi cael ei drosi'n bedwar fflat hunangynhwysol. Nid yn unig yr oedd y fflatiau yn mynd yn groes i'r gofynion, roedden nhw'n anniogel ac yn beryglus. Bydd ein swyddogion yn dilyn yr achos, nawr bod y broses gyfreithiol wedi dod i ben, i sicrhau bod y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud a bod yr eiddo mewn cyflwr diogel i'r bobl sy'n byw yno."
Pennu blaenoriaethau newid hinsawdd wrth i Gyngor Caerdydd dorri allyriadau carbon 13%
Mae Cyngor Caerdydd wedi lleihau ei allyriadau carbon uniongyrchol 13% ers 2019/20, yn ôl adolygiad o'i ymateb Caerdydd Un Blaned i'r argyfwng hinsawdd, sy'n amlinellu ei flaenoriaethau wedi'u diweddaru ar gyfer gweithredu.
Yn 2019/20 roedd allyriadau gweithredol uniongyrchol y Cyngor yn mesur 26,118 tunnell CO2e, ffigur a ostyngodd i 22,695 tunnell CO2e yn 2020/21.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r ffigurau hyn yn dangos y camau sylweddol y mae'r Cyngor eisoes yn eu cymryd tuag at ein nod uchelgeisiol o sicrhau niwtraliaeth garbon erbyn 2030.
"Mae ymateb i'r newid yn yr hinsawdd yn ganolog i'n hagenda ac ni fydd unrhyw faes o'r cyngor yn osgoi ei effaith, ond mae hyn yn argyfwng, felly mae'n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar y meysydd sy'n cyflawni'r gostyngiadau carbon mwyaf posibl yn y cyfnod byrraf."
"Er bod gennym gyfrifoldeb clir i sicrhau bod y Cyngor yn lleihau ei allyriadau ei hun, mae gennym rôl arweiniol hefyd o ran lleihau allyriadau ledled y ddinas ac mae Caerdydd Un Blaned yn cynnwys diweddariadau a thargedau uchelgeisiol sy'n dangos ein bod yn cymryd camau ystyrlon."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30429.html
Gwasanaeth Coffa'r Nadolig yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig
Cynhelir Gwasanaeth Coffa Eciwmenaidd y Nadolig yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar ddydd Sul, 11 Rhagfyr, am 2pm.
Mae croeso i unrhyw un ddod i'r gwasanaeth i goffau eu hanwyliaid dros gyfnod y Nadolig.
Bydd y gwasanaeth, a gynhelir gan y Parchedig Lionel Fanthorpe, yn cynnwys nifer o ddarlleniadau, cerddi a charolau'r Nadolig. Bydd Deborah Morgan Lewis yn arwain y canu a daw'r gwasanaeth i ben tua 3pm.
Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae colli anwylyd bob amser yn anodd iawn, ond gall yr adeg hon yn y flwyddyn fod yn arbennig o heriol. Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfle i bobl o bob ffydd ddod ynghyd a chofio'r rhai sy'n anffodus wedi'n gadael."
Bob blwyddyn mae tîm Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn cefnogi elusen wahanol, ac eleni bydd casgliad er budd Hosbis y Ddinas yn cael ei gynnal yn ystod y gwasanaeth.
Hosbis y Ddinas yw hosbis leol Caerdydd sy'n cynnig gofal lliniarol yn y gymuned i bobl sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, gan eu cefnogi fel y gallant fyw eu bywyd yn eu dewis le, gydag urddas a chysur, a gyda'r rhai sy'n agos atynt yn eu profedigaeth.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30420.html