Back
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwyafrif ysgolion Caerdydd yn cael eu cydnabod fel ysgolion sy'n parchu hawliau

9/12/2022

Mae'r mwyafrif o ysgolion Caerdydd bellach wedi ymuno â Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau (GYPH)Pwyllgor UNICEF y DU, sy'n golygu bod cyfranogiad Caerdydd yn y rhaglen Hawliau Plant yn parhau i fod gyda'r uchaf yng Nghymru. 

Mae'r rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau yn cydnabod ysgol sy'n arfer hawliau'r plentyn, gan greu man dysgu diogel sy'n ysbrydoli, lle caiff plant eu parchu, eu talentau eu meithrin a lle gallant ffynnu.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae: 

  • 83% o ysgolion Awdurdod Lleol Caerdydd wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen GYPH.
  • 66% o ysgolion Caerdydd â chynllun gweithredu GYPH ar waith ar ôl derbyn eu gwobr efydd, arian neu aur.
  • 54% o'r holl ddisgyblion o ysgol feithrin i ysgol uwchradd yn mynychu ysgol â gwobr Efydd neu'n uwch

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n addawol gweld bod 85 o ysgolion Caerdydd wedi cyflawni gwobr Efydd neu uwch ac yn ymgorffori hawliau plant yn eu bywyd bob dydd yn yr ysgol.

"Mae UNICEF y DU hefyd wedi cydnabod ymdrechion Caerdydd wrth sefydlu ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau plant ym maes addysg trwy'r ddinas a thrwy gyflymu twf y Gwobrau Ysgolion sy'n Parchu Hawliau (GYPH) rydym yn sefydlu hawliau plant ar rwydwaith a sail wybodaeth gadarn yn ysgolion y ddinas.

Mae Ysgol Gynradd Parc y Rhath yn un o'r nifer o ysgolion sydd wedi ennill y GYPH Aur. Wrth ymateb i'r llwyddiant, dywedodd y Pennaeth Lewis Fitzgerald:  "Rydym yn hynod falch ein bod wedi ennill Gwobr Aur Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF y DU. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i hyrwyddo a gwireddu hawliau plant ac annog oedolion, plant a phobl ifanc i barchu hawliau pobl eraill yn yr ysgol.

"Aur yw'r anrhydedd uchaf a roddir gan UNICEF y DU ac mae'n dangos ymrwymiad dwfn a thrwyadl i hawliau plant ar draws pob agwedd ar fywyd yr ysgol."

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant ym mis Tachwedd 2018, lansiodd Caerdydd ei Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant, sy'n rhoi hawliau a llais plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas.

Nod y cynllun gweithredu amlasiantaethol manwl yw cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd.  Mae hefyd yn cefnogi'r Cyngor wrth wneud cam sylweddol tuag at nod Caerdydd o gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel un o'r dinasoedd sy'n Dda i Blant cyntaf yn y DU, rhaglen uchelgeisiol sy'n gweld cynghorwyr, staff y Cyngor a sefydliadau lleol yn gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn helpu i lunio ac arwain penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

Mae'r rhaglen yn rhoi cymorth i Awdurdodau Lleol a phartneriaid i ddarparu dull sy'n seiliedig ar hawliau plant wrth ddylunio, darparu, monitro a gwerthuso gwasanaethau a strategaethau lleol ar gyfer plant.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn ei adroddiad cynnydd, cydnabuodd UNICEF y DU fod Cyngor Caerdydd wedi chwarae rhan flaengar o ran sefydlu Rhaglen Dinasoedd sy'n Dda i Blant, a nododd fod tystiolaeth glir yn dangos bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud tuag at sefydlu, blaenoriaethu a gweithredu ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau plant yn niwylliant ac ymrwymiadau'r Cyngor.

"Rydyn ni'n symud yn sylweddol agosach at wireddu uchelgais Caerdydd o ddod yn ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF y DU, gyda chymorth cefnogaeth amhrisiadwy ein hysgolion. Mae'r rhaglen GYPH yn rhoi'r cyfle gorau i blant fyw bywydau hapus ac iach a bod yn ddinasyddion actif, cyfrifol a fydd yn cyfrannu at y diwylliant o barchu hawliau rydyn ni eisiau ei greu."

Dywedodd Frances Bestley, Cyfarwyddwr Rhaglen Gwobr Ysgolion Sy'n Parchu Hawliau:"Mae'r model canolog o ddarparu mynediad at gefnogaeth ac achrediad GYPH i bob ysgol yng Nghaerdydd, wedi gweld y niferoedd uchaf erioed o ysgolion yn cymryd rhan yn y rhaglen a thrwy wneud hyfforddiant a chefnogaeth yn hygyrch i bawb, rydyn ni wedi galluogi ysgolion i wneud cynnydd cyflymach nag a fyddai fel arfer yn cael ei weld. Rydym wrth ein bodd bod hyn bellach yn cael ei gymryd i'r lefel nesaf drwy gefnogaeth Caerdydd i alluogi holl ysgolion y Ddinas i gael mynediad at aelodaeth lawn o GYPH.

"Mae'r ymrwymiad y mae tîm Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd wedi'i ddangos tuag at y GYPH wedi galluogi ysgolion iroi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CHP) wrth wraidd eu harfer. Mae ymweliadau achredu wedi dangos tystiolaeth gref o les gwell, mwy o hyder ac ymgysylltu â dysgu a mwy o ymdeimlad o ddylanwad ymhlith plant a phobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithgar yn eu hysgol a thu hwnt."

Caerdydd yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru a Lloegr i ariannu mynediad GYPH llawn i'w holl ysgolion.  Mae UNICEF y DU wedi nodi eu bod yn hyderus y bydd hyn yn cyflymu cynnydd ysgolion ymhellach ac yn galluogi llawer mwy o blant a phobl ifanc i wybod am eu hawliau, byw a dysgu drwy hawliau a gweithredu dros hawliau pobl eraill yn lleol ac yn fyd-eang

Mae ymrwymiad parhaus Cyngor Caerdydd i GYPH gyda phwyllgor y DU ar gyfer UNICEF yn ymgorffori'regwyddorion cydraddoldeb, urddas, parch, dim gwahaniaethu a chyfranogiad ar draws ysgolion y Ddinas, gan alinio eu gwaith yn ddi-dor â chanllawiau newydd ynghylch Hawliau Dynol yng Nghwricwlwm i Gymru 2022.

UNICEF yw prif sefydliad y byd sy'n gweithio dros blant a'u hawliau.                                                                            

Mae menterYsgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF y DUyn un sydd wedi'i hanelu at ysgolion ledled y DU, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

#CDYDDsynDdaiBlant #AddCaerdydd