Neuadd Dewi Sant – Holi ac Ateb
A yw’r Cyngor yn gwerthu NDS?
Nid yw'r Cyngor yn gwerthu NDS. Dan y cynigion hyn,
byddem yn mynd i drefniant prydles eiddo hirdymor gyda’r Academy Music Group
(AMG), lle byddai AMG yn cymryd cyfrifoldeb am gynnal ac uwchraddio'r adeilad a
gweithredu'r Neuadd Gyngerdd Genedlaethol. Mae gan AMG hanes da o ofalu am
adeiladau treftadaeth leol pwysig ar draws gwledydd Prydain.
Beth am y rhaglen cerddoriaeth Glasurol a’r defnydd
o'r Neuadd gan grwpiau cymunedol?
Mae cynnig AMG yn cynnwys gweledigaeth glir ac
ymrwymiad i gynnal, datblygu a gwella'r rhaglen glasurol yn Neuadd Dewi
Sant. Eu huchelgais yw gwella enw da
Neuadd Dewi Sant ymhellach fel un o'r lleoliadau cerddoriaeth glasurol gorau yn
y DU. Maent wedi neilltuo 60 diwrnod yn
ystod y cyfnod digwyddiadau prysuraf (Medi - Mai) i ddarparu’r rhaglen
glasurol, sy’n cynnwys 58 diwrnod yn ystod y cyfnod prysuraf ar hyn o bryd,
gyda dyddiadau ychwanegol yn y flwyddyn galendr ar gyfer digwyddiadau clasurol
a chymunedol allweddol eraill. Byddai'r cynnig o 60 slot blaenoriaeth yn ystod
y cyfnod prysuraf (Medi – Mai) yn galluogi'r brif raglen i gael ei chadarnhau
mewn da bryd bob blwyddyn gan gynnwys y digwyddiadau a gyflwynir gan Gerddorfa
Genedlaethol Gymreig y BBC a cherddorfeydd ac unawdwyr sy’n ymweld drwy'r
gyfres Cyngherddau Clasurol, Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd, Coleg Brenhinol
Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Bydd 25 diwrnod ychwanegol yn cael
eu neilltuo hefyd yn ystod y misoedd tawelach (Mehefin-Awst) ar gyfer
digwyddiadau clasurol a chymunedol allweddol eraill, gan gynnwys Canwr y Byd
Caerdydd y BBC, Proms Cymru, ac ensembles ieuenctid cenedlaethol a lleol. Ar
hyn o bryd mae Canwr y Byd Caerdydd a'r Proms yn cael eu cynnal y tu allan i’r
cyfnod prysuraf felly nid yw hyn yn newid eu rhaglennu. Mae
hyn yn golygu y bydd o leiaf 85 diwrnod ar gael ar gyfer y rhaglen glasurol,
digwyddiadau cymunedol sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth glasurol, a gwaith yr
Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig.
Mae'r rhaglen hon yn defnyddio hyd at 87 diwrnod ar hyn o bryd. Mae AMG
wedi ymrwymo i wneud hyn i gyd heb gymhorthdal gan y Cyngor, gan gynnwys
ysgwyddo’r risg fasnachol ar y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol. Byddant yn defnyddio eu gallu marchnata
helaeth i hyrwyddo'r digwyddiadau i geisio denu cynulleidfaoedd mwy.
Onid yw 85 diwrnod yn sylweddol llai na'r hyn sy'n
cael ei ddarparu nawr?
Ni fydd y rhaglen glasurol wedi'i chyfyngu i 85
diwrnod. Diben yr ymrwymiad o 60 diwrnod
yw neilltuo slotiau blaenoriaeth yng nghalendr digwyddiadau’r cyfnod prysuraf
(Medi - Mai) ar gyfer digwyddiadau clasurol, er mwyn sicrhau bod y rhaglen
glasurol yn cael digon o flaenoriaeth yn gyson.
Bydd 25 diwrnod ychwanegol yn ystod y cyfnod tawelach rhwng Mehefin ac
Awst hefyd yn cael eu neilltuo i sicrhau amser ar gyfer digwyddiadau eraill gan
gynnwys Canwr y Byd Caerdydd a Phroms Cymru. Ar hyn o
bryd mae'r rhaglen glasurol, digwyddiadau cymunedol sy'n gysylltiedig â
cherddoriaeth glasurol a gwaith yr Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig, yn
defnyddio hyd at 87 diwrnod. Bydd y 30 digwyddiad cymunedol arall nad
ydynt yn gysylltiedig â cherddoriaeth glasurol ac nad oes lle iddynt yn y
slotiau hyn yn dal i allu defnyddio Neuadd Dewi Sant ond bydd ganddynt lai o
sicrwydd ynghylch dyddiadau hyd at 3 mis ymlaen llaw. Hefyd, os oes angen i'r
Neuadd agor yn benodol ar gyfer y digwyddiadau hyn, h.y. pan fyddai ar gau fel
arall, codir cyfradd gymunedol i dalu am y gost o agor a gweithredu'r adeilad
ar gyfer y digwyddiad. Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau eisoes yn codi tâl, ond
mae'r Cyngor yn ystyried y posibilrwydd o sefydlu cronfa fechan ar gyfer
digwyddiadau cymunedol, a all wneud cais ar sail eithriadol, lle nad ydynt yn
gallu talu’r costau i agor yr adeilad.
Mae'r cynigion yn sôn am ddisodli seddi ar y llawr
isaf gyda system seddi enciliol. Pam gwneud hyn, a pha effaith gaiff hyn ar
acwsteg enwog y Neuadd?
Mae AMG yn dymuno creu ardal sefyll ar gyfer
perfformiadau roc/pop. Eu cynllun yw defnyddio seddi symudol ar baletau, yn
hytrach na seddi enciliol, y gellir eu tynnu'n llwyr a'u hailosod yn hawdd yn
ôl y gofyn. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd i'r Neuadd. Mae Sandy Brown, y peirianwyr acwstig a fu'n
rhan o ddylunio'r adeilad, wedi eu cyflogi i gynghori ar y cynigion hyn ac wedi
cadarnhau na fydd y newidiadau arfaethedig yn cael unrhyw effaith amlwg ar
ansawdd acwstig.
Ym mis
Gorffennaf 2021, ymwelodd ymgynghorwyr acwstig o Sandy Brown â'r neuadd i
gynnal profion acwstig manwl dros ddau ddiwrnod i fesur priodweddau acwstig
allweddol y neuadd. Meincnodwyd nodweddion acwstig naturiol y neuadd yn fanwl
ar draws yr holl derasau eistedd.
Adeiladodd tîm Sandy Brown fodel
cyfrifiadurol acwstig 3D manwl o'r neuadd gan ddefnyddio meddalwedd acwstig
arbenigol a defnyddiwyd hyn i asesu cynigion AMG. Nododd y modelu fod disgwyl i
newidiadau ym mhriodweddau acwstig naturiol y neuadd o ganlyniad i'r cynigion fod
yn fach iawn ac yn gyffredinol is na'r trothwyon newid sydd angen er mwyn bod
yn amlwg. Mae Sandy Brown wedi rhoi argymhellion i'w dilyn os caiff cynigion
AMG eu gweithredu, ac mae canlyniadau eu profion meincnodi a'u model
cyfrifiadurol ar gael i gynorthwyo gydag adolygu unrhyw gynigion dylunio os oes
angen.
Mae adroddiad acwstig llawn Sandy Brown ar gael i'w
weld fel rhan o Bapurau'r Cabinet, yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s65583/Cabinet%2015%20Dec%202022%20SDH%20Addendum.pdf?LLL=0
Pam na all y Cyngor barhau i gynnal y lleoliad ei
hun?
Ar hyn o bryd mae'r Neuadd yn costio tua £1m y
flwyddyn i'r Cyngor ei gweithredu ac mae hyn yn mynd yn fwyfwy anodd i'w gynnal
yn yr oes newydd o lymder sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus. Mae Cyngor Caerdydd yn rhagweld bwlch
cyllidol o £23.5m yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod yn unig a hyn yn dilyn
gostyngiad o dros £250m yng nghyllideb y Cyngor dros y deng mlynedd diwethaf.
Byddai'r bwlch ariannol o £23.5m yn y gyllideb ar
gyfer y flwyddyn nesaf yn tyfu'n sylweddol pe bai'r Cyngor yn ariannu'r gwaith
o uwchraddio'r adeilad. Amcangyfrifir bod angen swm sylweddol i fynd i'r afael
â'r materion sydd angen blaenoriaeth, a byddai angen dilyn hyn wedyn gyda
rhaglen arall o waith adnewyddu a chynnal a chadw er mwyn moderneiddio'r
adeilad i'r safonau a ddisgwylir bellach gan gynulleidfaoedd a pherfformwyr.
Ar y llaw arall, nid oes angen unrhyw gymhorthdal
parhaus ar gynnig AMG, ac maent wedi ymrwymo i gymryd cyfrifoldeb llawn am
atgyweirio a chynnal a chadw a moderneiddio'r adeilad. Bydd eu cynnig hefyd yn dod â rhaglen
amrywiol o gerddoriaeth fyw ac adloniant i Gaerdydd gan ehangu seilwaith
cerddoriaeth ein dinas ymhellach gyda nifer sylweddol o ddigwyddiadau roc/pop
bob blwyddyn gan artistiaid sefydledig a sêr y dyfodol.
Felly ydy'r Cyngor wedi methu cynnal yr adeilad yn
iawn dros y blynyddoedd?
Mae'r Cyngor wedi buddsoddi'n rheolaidd mewn gwaith
cynnal a chadw ac atgyweirio yn NDS. Ond o ystyried nad yw'r lleoliad yn
cynhyrchu gwarged ariannol ac yn lle hynny wedi gofyn am gymhorthdal gan y
Cyngor o flwyddyn i flwyddyn, nid yw'r arian angenrheidiol wedi bod gan y
Cyngor i’w fuddsoddi ar y lefel angenrheidiol i gadw ar ben y materion cynnal a
chadw yn llwyr gan fod yr adeilad wedi heneiddio.
Beth fydd yn digwydd i’r staff?
Dan y cynnig, bydd holl staff y Cyngor yn NDS yn
symud draw drwy TUPE i AMG ar yr un telerau ac amodau sydd ganddyn nhw gyda'r
Cyngor.
Beth fyddwch chi'n ei wneud ynghylch yr Elusen
Actifyddion Artistig sy'n rhan o NDS?
Bydd y staff sy'n ymwneud ag Actifyddion Artistig
yn parhau i gael eu cyflogi gan y Cyngor. Mae AMG wedi ymrwymo i barhau i
weithio gydag Actifyddion Artistig a fydd yn parhau i gael arian o ffynonellau
allanol i ddarparu eu cefnogaeth cofleidiol i’r rhaglen glasurol a digwyddiadau
cymunedol.
Rydw i wedi darllen bod y broses hon yn cael ei
brysio – a yw hynny’n wir?
Mae'r Cyngor wedi bod yn archwilio dewisiadau amgen
ar gyfer rhedeg Neuadd Dewi Sant ers 2014 ac yn 2016 ymgymerodd â phroses
caffael cyhoeddus gystadleuol iawn. Aflwyddiannus fu'r broses hon, heb unrhyw
sefydliadau yn dod ymlaen i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am gynnal yr adeilad, a'r
costau cysylltiedig.
Gan fod y neuadd angen cymhorthdal blynyddol gan y
Cyngor, sy'n aml yn cyrraedd £1 miliwn y flwyddyn, mae ei dyfodol yn cael ei
ailystyried bob blwyddyn fel rhan o'r broses o osod cyllideb.
Nawr bod y Cabinet wedi cymeradwyo cynnig AMG mewn
egwyddor, mae nifer o gamau pellach fydd yn cael eu cymryd cyn cytuno ar unrhyw
brydles.
Yn gyntaf, bydd y Cyngor yn dechrau trafod contract
drafft sy’n nodi'r holl fanylion manylach sy'n ymwneud â chynnig AMG. Cynhelir
ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o'r broses ymgynghori flynyddol ar y gyllideb.
Yna, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Rhag-hysbysiad Tryloywder Gwirfoddol (VEAT).
Cyhoeddir Hysbysiad VEAT i roi hysbysiad o
fwriad. Pan gaiff yr hysbysiad VEAT ei gyhoeddi, bydd yn cynnwys manylion llawn
y contract drafft a drafodwyd gydag AMG a bydd y cyhoedd yn gallu ei weld.
Ar ôl cwblhau'r camau hyn, bydd y penderfyniad
terfynol ar gymeradwyo'r cynnig yn dychwelyd i'r Cabinet. Mae disgwyl i hynny
ddigwydd ym mis Mawrth 2023.
Am ba hyd y bydd y rhaglenni clasurol a chymunedol
yn cael eu diogelu os cytunir ar fargen gydag AMG?
Bydd yr ymrwymiadau i ddiogelu'r rhaglenni hyn yn
amodau ar y brydles a byddant yn para gydol cyfnod y brydles.
A gysylltwyd â Llywodraeth Cymru am gymorth
ariannol posib Cyngor Celfyddydau Cymru? Os na, pam ddim? Fe wnaethon nhw helpu
Theatr Clwyd.
Mae trafodaethau wedi bod yn digwydd gyda CCC
ynglŷn â chyfraniad cyfalaf ers blynyddoedd lawer. Mae'n bwysig cydnabod bod Cyngor Celfyddydau
Cymru wedi gorfod rheoli lleihad sylweddol i’w cyllideb eu hunain yn ystod y
blynyddoedd diwethaf.
Roedd cyllid cyfalaf CCC yn bot o £20m, ar gyfer
Cymru gyfan, a oedd ar gael rhwng 2012-2017. Ers hynny, dim ond ar gyfer
addasiadau llai y gwelwyd ceisiadau, a fyddai’n helpu tuag at hygyrchedd ac
effaith amgylcheddol, a byddai angen arian cyfatebol. Byddai unrhyw gyllid
posibl a drafodwyd cyn 2017 wedi bod ar sail arian cyfatebol ac ni fyddai wedi
bod yn ddigon i alluogi'r gwaith atgyweirio ac uwchraddio sylweddol sydd ei
angen ar y Neuadd.
Yn ogystal, heblaw am gronfa CCC
flynyddol fechan y Loteri Genedlaethol i'r gyfres cyngherddau rhyngwladol a
chefnogaeth yn ystod Covid-19, nid oes unrhyw gymorth refeniw wedi'i roi gan
CCC ers 2014, ac mae'r Cyngor yn talu i gadw Neuadd Dewi Sant ar agor ar hyn o
bryd.
A geisiwyd am nawdd corfforaethol? Os na, pam ddim?
Mae'r Cyngor wedi archwilio posibiliadau nawdd
corfforaethol ar gyfer gwahanol adeiladau yn y gorffennol gan gynnwys Neuadd
Dewi Sant. Nid yw'r farchnad ar gyfer hawliau noddi/enwi yng Nghaerdydd yn gryf
– gall hyn gael ei ddangos gan y bargeinion a gyflawnwyd gan leoliadau eraill
yn y ddinas sy'n cynnig llawer mwy o amlygiad masnachol. Mae'r potensial ar
gyfer hawliau noddi/enwi yn cynyddu os yw'r lleoliad yn rhan o rwydwaith
ehangach yn y DU, fel yr un sy'n cael ei gynnig gan AMG.
A geisiwyd am gyllid amgen – os na, pam ddim?
Wedi ei lywio gan drafodaethau'r Cyngor gyda CCC a
Llywodraeth Cymru a ddangosodd nad oedd unrhyw arian cyhoeddus ar gael i
gefnogi'r adeilad, cynhaliodd y Cyngor broses gaffael ddeialog gystadleuol helaeth
yn 2016. Aflwyddiannus fu pen draw'r broses hon, heb unrhyw sefydliadau yn dod
ymlaen i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am gynnal yr adeilad, a'r costau cysylltiedig.
Ers y trafodaethau a amlinellir yn y ddau gwestiwn
blaenorol, ac ymarferiad caffael 2016, bydd cyflwr y Neuadd wedi dirywio
ymhellach, wedi'i gyflymu gan gyfnod o gau yn ystod Covid, ac mae'r rhagolygon
economaidd wedi gwaethygu'n sylweddol, gan wneud y cynnig ar gyfer cyllido
amgen hyd yn oed yn waeth.
Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 15 Rhagfyr i
gymeradwyo’r cynnig mewn egwyddor, cam nesaf y broses fydd cyhoeddi hysbysiad
VEAT - sef hysbysiad cyhoeddus o fwriad. Bydd hyn yn cynnwys manylion llawn y
contract drafft a drafodwyd gydag AMG. Bydd ymgynghori â’r cyhoedd fel rhan o'r
Ymgynghoriad ar y Gyllideb drwy fis Rhagfyr a mis Ionawr ac yna bydd y Cabinet
yn gwneud penderfyniad terfynol, ar ôl ystyriaeth ddyladwy, y flwyddyn nesaf.
Mae disgwyl i hynny ddigwydd ym mis Mawrth 2023.
Bydd trwsio'r to ond yn costio £2.1m yn ôl
dogfennau cyfrinachol sy'n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Does
bosib y gallwch chi fforddio hynny?
Rhan fechan o'r arolwg cyflwr sy’n cael ei dyfynnu
ac mae’n rhoi darlun camarweiniol o hyd a lled y gwaith sydd ei angen. Mae
gwaith hanfodol arall, megis amnewid neu uwchraddio gosodiadau mecanyddol a
thrydanol yn golygu bod y costau cynnal a chadw tebygol sydd eu hangen, yn y
tymor byr yn unig, gryn dipyn yn uwch.
Ydy'r fargen eisoes wedi'i tharo gydag AMG?
Nac ydy. Mae AMG wedi gwneud cynnig a
nawr bod y Cabinet wedi’i gymeradwyo mewn egwyddor, mae nifer o gamau pellach
fydd yn cael eu cymryd cyn cytuno ar unrhyw brydles.
Yn gyntaf, bydd y Cyngor yn dechrau trafod contract
drafft sy’n nodi'r holl fanylion manylach sy'n ymwneud â chynnig AMG. Cynhelir
ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o'r broses ymgynghori flynyddol ar y gyllideb.
Yna, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Rhag-hysbysiad Tryloywder Gwirfoddol (VEAT) (fel
yr esboniwyd uchod).
Mae deiseb ar-lein yn honni bod y Cyngor yn dweud bod yr ôl-groniad cynnal a
chadw ar gyfer Neuadd Dewi Sant yn £55 miliwn (sef y pris ar gyfer ailwampio ac
ail-ffitio’r adeilad yn llwyr gan gynnwys bwyty) - ond mae'r deisebydd yn meddu
ar adroddiad Cyflwr a Chostau sy'n nodi mai dim ond £2.1 miliwn sydd ei angen i
gynnal a chadw to'r neuadd. A oes cyfarfod wedi ei gynnal rhwng y Cyngor a
rheolwyr Neuadd Dewi Sant i drafod beth yw'r gwir ffigwr?
Mae rheolwyr Neuadd Dewi Sant yn gwbl ymwybodol o
ganfyddiadau'r arolwg cyflwr.
Mae rhan fechan o'r arolwg cyflwr yn cael ei
dyfynnu'n ddethol ac yn rhoi darlun camarweiniol o raddfa'r gwaith sydd ei
angen. Mae gwaith hanfodol arall, megis amnewid neu uwchraddio gosodiadau
mecanyddol a thrydanol yn golygu bod y costau cynnal a chadw tebygol sydd eu
hangen, yn y tymor byr yn unig, gryn dipyn yn uwch.
Mae bron i 20,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gofyn i Gyngor Caerdydd
ailasesu ei safbwynt o ran Neuadd Dewi Sant a'r cynnig hwn, a fydd y ddeiseb
hon yn cael ei thrafod a'i hystyried?
Mae'n bwysig cydnabod bod y ddeiseb wedi casglu
enwau yn seiliedig ar yr hyn mae'r Cyngor yn credu sy'n ddatganiadau
camarweiniol. Rydym wedi gweld pobl yn
deisebu ar y sail bod y Cyngor yn gwerthu’r Neuadd, na fydd cerddoriaeth
glasurol bellach yn y neuadd, y bydd yr acwsteg yn cael ei difetha. Dim ond
ychydig yn unig o'r datganiadau yw'r rhain - yr ydym yn eu hystyried fel rhai
anghywir - sydd wedi'u postio ar y cyfryngau cymdeithasol gan bobl yn annog
eraill i arwyddo'r ddeiseb.
Mae manylion y cynnig yn cael eu
rhyddhau a fydd, gobeithio, yn lleddfu'r rhan fwyaf o'r pryderon a'r ofnau sydd
wedi eu gwaethygu gan y math yma o ddatganiadau, ond bydd y Cyngor yn sicr yn
edrych ar y ddeiseb pan ddaw i law ac yn ei hystyried ynghyd â'r holl
dystiolaeth arall.
Mae adroddiadau wedi eu gwneud bod staff AMG wedi
cynnal archwiliadau o'r neuadd cyn i'r fargen gael ei derbyn. A allen ni ofyn
beth rydych chi'n ei wybod am hyn os gwelwch yn dda?
Mae staff ac ymgynghorwyr AMG wedi cael mynediad
i'r Neuadd i'w galluogi i ddatblygu eu cynnig ar gyfer yr adeilad. Mae'r archwiliadau adeilad sydd wedi eu
cynnal wedi eu comisiynu gan y Cyngor.
Mae'r deisebydd yn honni nad oes gan AMG unrhyw ddiddordeb mewn allbwn
diwylliannol a chlasurol yn y Neuadd, yn ogystal â thrafod materion sy'n
ymwneud â chysylltiadau cymunedol gyda CBCDC, ysgolion lleol a cholegau – a oes
unrhyw beth o hyn wedi ei amlygu yn eu cais i sicrhau’r neuadd?
Mae manylion y cynnig wedi'u rhyddhau sy'n dangos
nad yw hyn yn wir.
A yw cynnig AMG yn dweud yn blwmp ac yn blaen eu
bod yn dymuno cael gwared ar y seddi allan o'r Neuadd a chwblhau ail-ffitiad
strwythurol newydd sbon?
Mae AMG yn dymuno creu ardal i sefyll ar gyfer
perfformiadau roc/pop. Eu cynllun yw defnyddio seddi symudol ar baletau, yn
hytrach na seddi enciliol, y gellir eu tynnu'n llwyr a'u hailosod yn hawdd yn
ôl y gofyn. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd i'r Neuadd. Mae Sandy Brown, y peirianwyr acwstig a fu'n
rhan o ddylunio'r adeilad, wedi eu cyflogi i gynghori ar y cynigion hyn ac wedi
cadarnhau na fydd y newidiadau arfaethedig yn cael unrhyw effaith amlwg ar ansawdd
acwstig.
Ym mis
Gorffennaf 2021, ymwelodd ymgynghorwyr acwstig o Sandy Brown â'r neuadd i
gynnal profion acwstig manwl dros ddau ddiwrnod i fesur priodweddau acwstig
allweddol y neuadd. Meincnodwyd nodweddion acwstig naturiol y neuadd yn fanwl
ar draws yr holl derasau eistedd.
Adeiladodd
tîm Sandy Brown fodel cyfrifiadurol acwstig 3D manwl o'r neuadd gan ddefnyddio
meddalwedd acwstig arbenigol a defnyddiwyd hyn i asesu cynigion AMG. Nododd y
modelu fod disgwyl i newidiadau ym mhriodweddau acwstig naturiol y neuadd o
ganlyniad i'r cynigion fod yn fach iawn ac yn gyffredinol is na'r trothwyon
newid sydd angen er mwyn bod yn amlwg. Mae Sandy Brown wedi rhoi argymhellion
i'w dilyn os caiff cynigion AMG eu gweithredu, ac mae canlyniadau eu profion
meincnodi a'u model cyfrifiadurol ar gael i gynorthwyo gydag adolygu unrhyw
gynigion dylunio os oes angen.
Mae adroddiad acwstig llawn Sandy Brown ar gael i'w
weld fel rhan o Bapurau'r Cabinet, yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s65583/Cabinet%2015%20Dec%202022%20SDH%20Addendum.pdf?LLL=0