Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: cytuno ar bartneriaeth bwysig i gyflwyno Prifysgol y Plant Caerdydd; adroddiad yn nodi bod lefel llygredd aer yn is na chyn y pandemig; a coed newydd yn cael eu plannu ym Mharc Bute.
Cytuno ar bartneriaeth bwysig i gyflwyno Prifysgol y Plant Caerdydd
Bydd mwy o blant a phobl ifanc yn elwa ar gyfoeth o gyfleoedd addysgol yn dilyn cytundeb ffurfiol rhwng Cyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd i ymestyn 'Pasbort i Ddinas Caerdydd'- Prifysgol y Plant Caerdydd.
Mae 'Pasbort i Ddinas Caerdydd'- Prifysgol y Plant Caerdydd, wedi cael ei ddiogelu at y dyfodol wedi i Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, ymuno â'i gilydd i arwyddo cytundeb partneriaeth i gefnogi'r uchelgais ar gyfer pobl ifanc Caerdydd a nodir yn agenda Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor.
Nod y prosiect yw annog a datblygu cariad at ddysgu drwy roi mynediad i ddisgyblion at weithgareddau gan gynnwys celf a cherddoriaeth, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn ogystal â chyrsiau diwylliannol a dylunio graffeg, gyda phob un yn cyfrannu tuag at 'Basbort i Ddysgu'. Mae'r cynllun yn dod ag amrywiaeth o bartneriaid ledled y ddinas at ei gilydd i fuddsoddi mewn ymdrechion i godi dyheadau dysgwyr, tra'n datblygu llwybrau i wireddu'r dyheadau hyn.
Yn sgil llwyddiant y rhaglen beilot, Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu'r rhaglen er mwyn sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn gallu mwynhau'r amwynderau o'r radd flaenaf sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30416.html
Gwelliannau aer glân Caerdydd o fudd i bawb
Mae'r astudiaeth ddiweddaraf i lygredd aer yng Nghaerdydd yn dangos bod trigolion wedi mwynhau aer glanach ledled y ddinas drwy gydol 2021 o'i gymharu â ffigyrau cyn y pandemig yn 2019, yn ôl adroddiad newydd.
Gwelwyd y gwelliant mewn ansawdd aer yn ystod 2021 fel yr adroddwyd yn Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cynghorau 2022, ar draws y ddinas a dangosodd y data a gasglwyd o orsafoedd monitro fod y cyngor yn cydymffurfio â'r holl 'werthoedd terfyn' ar gyfer llygryddion, sydd wedi'u nodi mewn deddfwriaeth.
Mae ansawdd aer yn cael ei fonitro'n flynyddol ar draws cyfnod llawn o 12 mis er mwyn sicrhau bod y ffigyrau'n gynrychioliadol ar draws blwyddyn lawn.
Mae'n ymddangos bod gan y gwelliant yn lefelau ansawdd aer yn 2019 gysylltiad uniongyrchol â nifer y cerbydau ar ein ffyrdd. Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos, ar gyfartaledd, bod traffig cerbydau ar 80% o'r lefelau cyn y pandemig, gyda lefelau llygredd aer wedi gostwng tua 20% yn ystod yr un cyfnod.
Ystyrir mai ansawdd aer gwael yw'r risg amgylcheddol fwyaf i iechyd y cyhoedd yn y Deyrnas Gyfunol, ac ar ôl ysmygu, yr ail fygythiad mwyaf i iechyd y cyhoedd. Mae tystiolaeth glir yn dangos bod cael eich amlygu i lygredd aer yn lleihau disgwyliad oes ac yn cynyddu'r risg o farwolaeth, clefyd y galon, strôc, afiechydon anadlol, canser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill yn sylweddol.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30403.html
Parc Bute yn 'Plannu 'Nôl yn Well' gyda rhagor o goed a pherllan gymunedol newydd
Plannwyd y coed cyntaf mewn perllan gymunedol newydd ym Mharc Bute Caerdydd heddiw (30 Tachwedd) wrth i gynlluniau ddatblygu yn sgil ymosodiad fandaliaeth ddinistriol ar y parc ddechrau dwyn ffrwyth.
Cafodd dwsinau o goed eu dinistrio gan fandaliaid, a gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod i'r parc ei wneud ym mis Medi'r llynedd, ond o'r diwrnod tywyll hwnnw yn hanes y parc daeth ymgyrch ariannu torfol a arweiniwyd gan y gymuned a fydd, ynghyd â chyllid rhaglen plannu coed torfol Coed Caerdydd y cyngor, yn gweld dwy goeden yn cael eu plannu yn y parc ar gyfer pob un goeden a ddinistriwyd gan fandaliaid.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30391.html