Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Cerflun Betty Campbell Caerdydd yn ennill gwobr; ymgynghoriad sy'n ceisio barn gofalwyr di-dâl ar y cymorth seibiant sydd; a tîm Parc Bute yn cael ei goroni'r gorau yn y DU gyfan.
Cerflun Betty Campbell Caerdydd yn ennill gwobr
Mae cerflun syfrdanol Caerdydd sy'n anrhydeddu'r brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru, Betty Campbell MBE, wedi ennill y bleidlais gyhoeddus mewn seremoni wobrwyo fawreddog.
Enillodd y cerflun enwog y wobr neithiwr, (Dydd Iau 24 Tachwedd),yng Ngwobrau Marsh 2022 y Gymdeithas Cerfluniau a Cherflunwaith Cyhoeddus (CCChC) am Ragoriaeth mewn Cerflunwaith Cyhoeddus.
Cafodd cofeb Betty Campbell ei dylunio a'i chreu gan y cerflunydd ffigurol enwog Eve Shepherd a chafodd ei dadorchuddio yng nghanol dinas Caerdydd ym mis Medi 2021.Cafodd y cerflun ei gomisiynu yn dilyn yr ymgyrch Arwresau Cudd a gafodd ei threfnu gan Monumental Welsh Women ac a gafodd ei darlledu ar BBC Wales.
Daeth Betty Campbell ar y brig mewn pleidlais gyhoeddus i benderfynu pwy fyddai'r cerflun cyntaf erioed o fenyw a enwir, nad yw'n gymeriad ffug yng Nghymru.
Pan yn blentyn dywedwyd wrth Betty Campbell na allai fyth wireddu ei breuddwyd o fod yn brifathrawes. Wedi ei geni a'i magu yn Butetown, cafodd Betty Campbell wybod gan ei hathrawes na allai merch ddu dosbarth gweithiol fyth cyrraedd yr uchelfannau academaidd yr oedd hi'n dyheu amdanynt. Profodd ei hamheuon yn anghywir yn y ffordd fwyaf ysbrydoledig, gan ddod y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru ac yn hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth. Anrhydeddwyd Mrs Campbell â chofeb barhaol yn Sgwâr Canolog Caerdydd i nodi ei chyfraniad anhygoel i addysg a chymuned.
Am y tro cyntaf yn hanes gwobrau'r CCChC, rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd bleidleisio am eu hoff waith. Pleidleisiodd pobl o restr fer o naw cerflun cyhoeddus o bob rhan o'r DU.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae'n adlewyrchiad cywir o'r croeso mawr y mae'r cerflun wedi'i gael ers iddo gael ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd. Nid yn unig y mae'n deyrnged addas i Betty - menyw mor bwysig yn hanes Cymru a Chaerdydd - ond mae wedi bod yn ganolbwynt i bobl sy'n ymweld â'r ddinas ac yn ffordd o goffáu ein menywod mawreddog, ac mae bellach yn glod i'w greawdwr Eve Shepherd a'r cyhoedd a bleidleisiodd drosto."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Am ffordd wych i Gofeb Betty Campbell gael ei dathlu gan y cyhoedd a bleidleisiodd drosti i ennill y wobr hon. Mae'n gerflun cyhoeddus mor eiconig ac mae eisoes wedi cael ei chydnabod am y stori bwerus y tu ôl iddi. Erbyn hyn mae wedi cael gwobrau am ei hestheteg a'i dyluniad gweledol. Rwy'n falch iawn dros yr artist, a theulu Betty."
Gofalu am Ofalwyr yng Nghaerdydd - rhannwch eich barn
Cafodd ymgynghoriad sy'n ceisio barn gofalwyr di-dâl ar y cymorth seibiant sydd ar gael iddynt wrth iddynt gyflawni eu rôl hanfodol ei lansio yng Nghaerdydd ddoe.
Lansiodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion), yr ymgynghoriad mewn digwyddiad yng Nghanolfan Ddydd y Rhodfa Fawr. Aeth pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn y Ganolfan a'u teuluoedd, cynrychiolwyr o'r Cyngor a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, ac aelodau o Grŵp Effaith Gofalwyr y ddinas i'r digwyddiad.
Nod yr ymgynghoriad yw casglu gwybodaeth am y ddarpariaeth bresennol i ofalwyr di-dâl a sut y gellir gwella pethau i'w cefnogi. Mae'n cefnogi'r flaenoriaeth a nodir yn Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Di-dâl y mae'n rhaid i bob gofalwr di-dâl gael y cyfle i gael seibiant o'i rôl ofalu er mwyn ei alluogi i gynnal ei iechyd a'i les ei hun ac i gael bywyd ochr yn ochr â gofalu.
Mae seibiant yn caniatáu i ofalwyr gael hoe o'u cyfrifoldebau a'u harferion gofalu a gall fod ar sawl ffurf gan gynnwys chwaraeon, hamdden, gweithgareddau diwylliannol, dilyn addysg, mynd i ffwrdd ar wyliau, gofalwr arall dros dro a gwasanaethau eistedd gyda phobl dros nos. Gall ddigwydd naill ai gyda neu heb i'r person gael gofal.
Dywedodd y Cynghorydd Mackie: "Mae Gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, felly mae'n hanfodol eu bod yn gallu cael gafael ar gymorth i'w galluogi i barhau i ofalu.
"Os ydych chi'n gofalu am berthynas neu ffrind drwy ei helpu gyda'i weithgareddau a'i anghenion bob dydd, cymerwch ran yn yr arolwg a fydd yn ein helpu i ddeall sut y gallwn eich cefnogi'n well."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30352.html
Tîm Parc Bute yn cael ei goroni'r gorau yn y DU gyfan
Coronwyd gweithwyr Parc Bute Caerdydd yn 'Dîm y Flwyddyn' yng ngwobrau 'UK Best of the Best' y Faner Werdd eleni.
Mae gwobrau 'UK Best of the Best' y Faner Werdd yn cydnabod y timau a'r unigolion eithriadol sy'n gweithio'n ddiflino i wneud eu parciau a'u mannau gwyrdd yn llefydd gwych i bawb eu mwynhau.
Derbyniodd Tîm Parc Bute yr anrhydedd 'Tîm y Flwyddyn' mewn seremoni rithwir ddydd Mawrth 15 Tachwedd.
Ers 2010, mae'r tîm ymroddedig ym Mharc Bute wedi trawsnewid ac adfer gofod segur yn galon werdd fywiog i Gaerdydd. Gydag ymwelwyr blynyddol yn codi o 1 filiwn yn 2010 i tua 2.5 miliwn erbyn hyn, mae'r tîm sydd â'r dasg o ofalu am Barc Bute yn cael eu dathlu am eu gwaith caled.
O arlwy cynyddol o ddigwyddiadau poblogaidd, i raglenni gwirfoddol ac addysg ffyniannus, mae 'Parc Tîm Bute' wedi dangos menter ac arloesedd o'r radd flaenaf sydd o fudd i'r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Er gwaethaf heriau Covid-19 ac ymosodiad fandalaidd sylweddol yn y parc y llynedd, mae'r tîm yn fwy penderfynol nag erioed i ledaenu'r neges bod parc y ddinas yn perthyn i bobl Caerdydd ac yn lle y gall pawb ei fwynhau'n ddiogel.
Gosodwyd camerâu teledu cylch cyfyng i wella canfod ac atal troseddu ac roedd perllan gymunedol newydd a rhodfa coed blodau ceirios yn ychwanegiadau cadarnhaol i'r parc, a ddaeth i'r amlwg yn benodol mewn ymateb i'r ymosodiad fandaliaeth a dangos lefel y gefnogaeth sydd gan y parc yn y gymuned. Yn y pen draw, bydd dwy goeden yn cael eu plannu ar gyferbob una ddinistriwyd yn yr ymosodiad.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30346.html