Back
Gofalu am Ofalwyr yng Nghaerdydd – rhannwch eich barn


 23.11.22

 

Cafodd ymgynghoriad sy'n ceisio barn gofalwyr di-dâl ar y cymorth seibiant sydd ar gael iddynt wrth iddynt gyflawni eu rôl hanfodol ei lansio yng Nghaerdydd ddoe.

 

Lansiodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion), yr ymgynghoriad mewn digwyddiad yng Nghanolfan Ddydd y Rhodfa Fawr. Aeth pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn y Ganolfan a'u teuluoedd, cynrychiolwyr o'r Cyngor a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, ac aelodau o Grŵp Effaith Gofalwyr y ddinas i'r digwyddiad.

 

Nod yr ymgynghoriad yw casglu gwybodaeth am y ddarpariaeth bresennol i ofalwyr di-dâl a sut y gellir gwella pethau i'w cefnogi. Mae'n cefnogi'r flaenoriaeth a nodir yn Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Di-dâl y mae'n rhaid i bob gofalwr di-dâl gael y cyfle i gael seibiant o'i rôl ofalu er mwyn ei alluogi i gynnal ei iechyd a'i les ei hun ac i gael bywyd ochr yn ochr â gofalu.

 

Mae seibiant yn caniatáu i ofalwyr gael hoe o'u cyfrifoldebau a'u harferion gofalu a gall fod ar sawl ffurf gan gynnwys chwaraeon, hamdden, gweithgareddau diwylliannol, dilyn addysg, mynd i ffwrdd ar wyliau, gofalwr arall dros dro a gwasanaethau eistedd gyda phobl dros nos. Gall ddigwydd naill ai gyda neu heb i'r person gael gofal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mackie: "Mae Gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, felly mae'n hanfodol eu bod yn gallu cael gafael ar gymorth i'w galluogi i barhau i ofalu.


"Os ydych chi'n gofalu am berthynas neu ffrind drwy ei helpu gyda'i weithgareddau a'i anghenion bob dydd, cymerwch ran yn yr arolwg a fydd yn ein helpu i ddeall sut y gallwn eich cefnogi'n well."

 

Yn ogystal â chasglu barn gofalwyr di-dâl yn y ddinas, mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i glywed gan sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau seibiant a'r rheiny sy'n cyfeirio at wasanaethau i ofalwyr di-dâl.

 

Bydd y wybodaeth a roddir yn rhan o'r ymgynghoriad yn galluogi'r Cyngor i fapio a deall yr opsiynau seibiant sydd ar gael yn y ddinas ac unrhyw rwystrau sy'n atal gofalwyr rhag cael seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu.

 

Mae'r ymgynghoriad ar-lein ar gael ymawww.caerdydd.gov.uk/arolwggofalwyra bydd ar agor tan 8 Ionawr 2023. Mae copïau papur o'r arolwg hefyd ar gael mewn hybiau a llyfrgelloedd, meddygfeydd a lleoliadau cymunedol eraill.