Coronwyd gweithwyr Parc Bute Caerdydd yn 'Dîm y Flwyddyn' yng ngwobrau 'UK Best of the Best' y Faner Werdd eleni.
Mae gwobrau 'UK Best of the Best' y Faner Werdd yn cydnabod y timau a'r unigolion eithriadol sy'n gweithio'n ddiflino i wneud eu parciau a'u mannau gwyrdd yn llefydd gwych i bawb eu mwynhau.
Derbyniodd Tîm Parc Bute yr anrhydedd 'Tîm y Flwyddyn' mewn seremoni rithwir ddydd Mawrth 15 Tachwedd.
Ers 2010, mae'r tîm ymroddedig ym Mharc Bute wedi trawsnewid ac adfer gofod segur yn galon werdd fywiog i Gaerdydd. Gydag ymwelwyr blynyddol yn codi o 1 filiwn yn 2010 i tua 2.5 miliwn erbyn hyn, mae'r tîm sydd â'r dasg o ofalu am Barc Bute yn cael eu dathlu am eu gwaith caled.
O arlwy cynyddol o ddigwyddiadau poblogaidd, i raglenni gwirfoddol ac addysg ffyniannus, mae 'Parc Tîm Bute'wedidangos menter ac arloesedd o'r radd flaenaf sydd o fudd i'r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Er gwaethaf heriau Covid-19 ac ymosodiad fandalaidd sylweddol yn y parc y llynedd, mae'r tîm yn fwy penderfynol nag erioed i ledaenu'r neges bod parc y ddinas yn perthyn i bobl Caerdydd ac yn lle y gall pawb ei fwynhau'n ddiogel.
Gosodwyd camerâu teledu cylch cyfyng i wella canfod ac atal troseddu ac roedd perllan gymunedol newydd a rhodfa coed blodau ceirios yn ychwanegiadau cadarnhaol i'r parc, a ddaeth i'r amlwg yn benodol mewn ymateb i'r ymosodiad fandaliaeth a dangos lefel y gefnogaeth sydd gan y parc yn y gymuned. Yn y pen draw, bydd dwy goeden yn cael eu plannu ar gyferbob una ddinistriwyd yn yr ymosodiad.
Dywedodd Rheolwr Parc Bute, Julia Sas:"Dyma gydnabyddiaeth wych i dîm cyfan Parc Bute: ein gwirfoddolwyr anhygoel, grŵp ffrindiau newydd, y tîm ymroddedig o staff sy'n gweithio mor galed ac sy'n ymfalchïo wrth ofalu am y parc, a chymuned ehangach Parc Bute sy'n gofalu cymaint amdano. Mae'r Parc wedi bod drwy gyfnodau anodd yn ddiweddar, felly rydyn ni wrth ein boddau i dderbyn y wobr yma."
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Siaradwch gyda'r tîm ac fe fyddwch yn deall yn fuan faint maen nhw'n poeni am Barc Bute, mae'n fwy na dim ond swydd, ac mae hynny'n disgleirio wrth i chi gerdded o amgylch ei diroedd Baner Werdd. Gyda phrosiectau mwy cyffrous fel y berllan gymunedol, dychweliad llwybr goleuadau Y Nadolig ym Mharc Bute a gwelliannau a wnaed yn bosibl drwy'r cynllun i roi prosiectau gwella, gallwn annog mwy fyth o bobl i ymweld â chalon werdd y ddinas."
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus: "Gyda 2,208 o barciau a mannau gwyrdd yn derbyn Gwobr fawreddog y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn y DU eleni, y nifer fwyaf erioed, mae ennill 'Tîm y Flwyddyn y DU' yn gyflawniad gwirioneddol ac yn dyst i waith caled a phenderfyniad Tîm Parc Bute.
"Roeddem yn dorcalonnus clywed am weithredoedd ofnadwy fandaliaeth ym Mharc Bute yr adeg yma'r llynedd, ond wrth ein boddau fod y parc wedi dod yn ôl yn gryfach nag erioed gyda llawer o ddatblygiadau cadarnhaol.Diolch am eich ymdrechion diflino i adfer calon werdd Dinas Caerdydd."
Gwobr y Faner Werdd yw'r safon ansawdd ryngwladol i barciau a mannau gwyrdd, a gyflwynir yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.