Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 22 Tachwedd 2022

Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: cyngor teithio ar gyfer Cymru v Awstralia; Caerdydd yn adnewyddu ei hymrwymiad Rhuban Gwyn; a galw am farn ar gynllun cyffrous pont newydd i gerddwyr.

 

Cyngor teithio ar gyfer Cymru v Awstralia ar 26 Tachwedd yng Nghaerdydd

Bydd Cymru'n herio Awstralia ar ddydd Sadwrn 26 Tachwedd yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 3.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 11.15am tan 7.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

Mae teithwyr trên yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau'n ofalus gan fod gweithredu diwydiannol yn mynd i effeithio ar wasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Bydd y gatiau'n agor am 12.45pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.  Rhowch sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir ynprincipalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (ni chaniateir bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30329.html

 

Caerdydd yn adnewyddu ei hymrwymiad Rhuban Gwyn

Mae Cyngor Caerdydd wedi adnewyddu ei achrediad Rhuban Gwyn am y trydydd tro, gan danlinellu ymrwymiad i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod.

Mewn digwyddiad arbennig yng Nghastell Caerdydd, derbyniodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey, blac gan Anthea Sully, Prif Weithredwr White Ribbon UK i ddathlu'r achrediad.

Ymgyrch fyd-eang yw'r Rhuban Gwyn sy'n annog pobl, dynion a bechgyn yn enwedig, i weithredu yn unigol ac ar y cyd i newid yr ymddygiad a'r diwylliant sy'n arwain at gam-drin a thrais. Mae gwisgo rhuban gwyn yn arwydd o addewid i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod.

I ennill yr achrediad am y trydydd tro, mae'r Cyngor wedi datblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr i newid y diwylliannau sy'n arwain at gam-drin a thrais ac i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac wedi ymrwymo i'w gyflawni'r cynllun.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30332.html

 

Galw am farn ar gynllun cyffrous pont newydd i gerddwyr

Mae cynlluniau cyffrous ar gyfer pont newydd i feics a cherddwyr dros Afon Taf wedi eu datgelu, rhan o adfywio ehangach ystâd Trem y Môr  Grangetown.

Mae'r Cyngor yn dechrau ar waith ailddatblygu gwerth £80 miliwn ar ystâd Trem y Môr yn Grangetown yn lle'r cartrefi presennol sy'n dioddef o ymsuddiant a difrod strwythurol a chreu cymdogaeth werddach, mwy cynaliadwy a mwy deniadol ar gyfer y gymuned bresennol.

Fel rhan o'r uwchgynllun a gymeradwywyd gan yr Adran Gynllunio fis Rhagfyr 2021, bydd y bont droed newydd arfaethedig yn darparu cyswllt teithio llesol i gerddwyr a beicwyr rhwng ystâd Trem y Môr, y Marl a'r ardal o amgylch Rhodfa Jim Driscoll ar lan orllewinol yr afon i Barc Hamadryad ar y lan ddwyreiniol.

Byddai'r bont yn cynnig cysylltiad pwysig i gymunedau naill ochr i'r afon, gan gysylltu ag ysgolion, parciau, cyfleusterau hamdden a mannau agored yn ogystal â'r rhwydwaith ehangach o lwybrau ar gyfer cerdded a beicio, gan gysylltu â Llwybr y Bae, Llwybr Elái a Thaith Taf Caerdydd

Mae hwn wedi bod yn ddyhead allweddol i brosiect Adfywio Trem y Môr i wella cysylltedd yr ystâd ar gyfer y gymuned bresennol a chynnig  llwybr teithio llesol cynaliadwy mwy addas.

Mae dyluniadau cysyniadol bellach wedi'u cwblhau ar gyfer y rhan yma o'r prosiect ac mae ymgynghoriad bellach yn mynd rhagddo i glywed barn pobl leol a phartïon â diddordeb er mwyn helpu i lunio'r set derfynol o gynlluniau i'w cyflwyno i gael caniatâd cynllunio'r flwyddyn nesaf. Gellir cyflwyno barn trwy arolwg ar-lein ymahttps://www.devandregencardiff.co.uk/cy/tai/trem-y-mor-grangetown/tan 6 Rhagfyr.

Cynhelir digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn CF11 Fitness (Canolfan Hamdden Trem y Môr gynt) Ddydd Mercher 23 Tachwedd, 11.30am - 7.30pm lle bydd cyfle gan bartïon â diddordeb i ddysgu mwy am y cynllun, siarad â swyddogion y cyngor am y cynlluniau a rhoi eu barn ar y bont.

Cynhelir sesiwn galw heibio lai ei maint i unrhyw un sy'n methu â dod i'r prif ddigwyddiad ymgynghori hefyd yn Hyb Grangetown Ddydd Iau 17 Tachwedd, 12 - 5pm.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30310.html