22.11.22
Mae Cyngor Caerdydd wedi adnewyddu ei achrediad Rhuban Gwyn am y trydydd tro, gan danlinellu ymrwymiad i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod.
Mewn digwyddiad arbennig yng Nghastell Caerdydd, derbyniodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey, blac gan Anthea Sully, Prif Weithredwr White Ribbon UK i ddathlu'r achrediad.
Ymgyrch fyd-eang yw'r Rhuban Gwyn sy'n annog pobl, dynion a bechgyn yn enwedig, i weithredu yn unigol ac ar y cyd i newid yr ymddygiad a'r diwylliant sy'n arwain at gam-drin a thrais. Mae gwisgo rhuban gwyn yn arwydd o addewid i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod.
I ennill yr achrediad am y trydydd tro, mae'r Cyngor wedi datblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr i newid y diwylliannau sy'n arwain at gam-drin a thrais ac i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac wedi ymrwymo i'w gyflawni'r cynllun.
Dwedodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Hinchey: "Rwy'n falch iawn o dderbyn y plac gan White Ribbon UK heddiw, prawf go iawn o'n hymrwymiad i nid yn unig godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ond i herio a mynd i'r afael â'r agweddau a'r ymddygiadau sy'n galluogi'r cam-drin i ffynnu."
Roedd y dathliadau'n gychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau'n arwain at Ddiwrnod y Cenhedloedd Unedig i Ddileu Trais yn erbyn Menywod a Merched, a adwaenir yn fwy cyffredin fel Diwrnod y Rhuban Gwyn, Ddydd Gwener 25 Tachwedd, gan barhau tan 8 Rhagfyr.
Yn ogystal â nifer o weithdai a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y sector, bydd digwyddiadau fel gwylnos yng ngolau canhwyllau, gorymdaith a gwasanaethau eglwysig yn cael eu cynnal y gall y cyhoedd eu mynychu.
Unwaith eto'r wythnos hon, bydd y gwely blodau y tu allan i Gastell Caerdydd yn cael ei blannu ar ffurf Rhuban Gwyn a bydd Rhuban Gwyn yn cael ei daflunio ar Orthwr y Castell yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng. Chris Weaver: "Derbyniodd y Cyngor statws Rhuban Gwyn gyntaf nôl yn 2014 ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed dros y blynyddoedd i godi ymwybyddiaeth o'r problemau, y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael.
"Gall canlyniadau cam-drin domestig a thrais rhywiol yn erbyn menywod a merched fod yn bellgyrhaeddol a chael effaith ddifrifol ar bob agwedd o fywydau dioddefwyr a bywydau eu teuluoedd felly yr wythnos hon, rwy'n annog pobl i ddangos eu cefnogaeth i'r achos pwysig hwn drwy wisgo rhuban gwyn ac addunedu i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod mewn unrhyw fodd."