Yn erbyn cefndir o bwysau
eithriadol ar argaeledd tai yng Nghaerdydd, mae'r Cyngor yn bwriadu ceisio
trefniant cynllun partneriaeth tai newydd er mwyn sicrhau y gellir codi mwy o
gartrefi ynni-effeithlon o ansawdd uchel ar raddfa fawr ac yn gyflym.
Y cynllun
partneriaeth fyddai'r ail o'i fath y mae'r Cyngor wedi mynd i’r afael ag ef, yn
dilyn llwyddiant y bartneriaeth glodwiw Cartrefi Caerdydd gyda'r datblygwr
cenedlaethol, Wates Residential. Mae'r rhaglen 10-mlynedd £320m honno yn
darparu 1,500 o gartrefi newydd, gan gynnwys tua 800 o gartrefi cyngor a 700 o
gartrefi i’w gwerthu ar draws 26 o safleoedd.
Mae'r Cyngor wedi gosod targed uchelgeisiol i ddarparu
4,000 o gartrefi newydd ar gyfer y ddinas, gyda 2,800 ohonynt yn gartrefi
cyngor, drwy lwybrau amrywiol gan gynnwys Cartrefi Caerdydd, bargeinion pecyn,
prynu eiddo yn uniongyrchol o'r farchnad a rhaglen adeiladu ychwanegol sy'n
cynnwys safleoedd datblygu’n cael eu darparu'n unigol.
Byddai ail
raglen bartneriaeth yn galluogi'r cyngor i symud ymlaen â'i biblinell o
brosiectau yn gynt, gan gynnal cysondeb yn ansawdd yr adeiladu o safle i safle
a chyflawni gwell sicrwydd o ddarpariaeth yng nghanol hinsawdd heriol.
Cymeradwyodd y Cabinet weithrediad ail Raglen
Partneriaeth Tai Caerdydd gan gynnwys cychwyn ymarfer caffael i benodi partner
datblygu yn ei gyfarfod heddiw, ddydd Iau, 17 Tachwedd.
Dywedodd yr
Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae ein partneriaeth Cartrefi Caerdydd
gyda Wates Residential wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae wedi cael ei chydnabod
fel rhaglen ddatblygu wirioneddol arloesol ac wedi ennill nifer o wobrau pwysig.
Mae'r dull partneriaeth wedi lleihau'r risg ddarparu a chyflymu’r broses o gael
prosiectau ar y safle.
"Mae'r
pwysau tai presennol yn golygu ein bod yn cael ein herio i ddarparu cartrefi
newydd yn gyflymach ac mae ein profiadau o’n trefniant partneriaeth presennol
yn cynnig tystiolaeth gref o'r manteision o gyflawni gweddill y safleoedd yn
ein rhaglen trwy drefniant partneriaeth newydd.
"Nid yn
unig y mae’r cynllun Cartrefi Caerdydd wedi darparu cartrefi newydd
ynni-effeithlon o safon y mae galw mawr amdanynt ledled y ddinas i helpu i
gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, ond hefyd wedi codi safonau ar draws
cartrefi i'w gwerthu a thai cymdeithasol. Mae wedi cyflawni buddion llawer
ehangach i'n cymunedau gan gynnwys gwerth cymdeithasol sylweddol a buddsoddiad
lleol drwy gefnogi cadwyni cyflenwi a chontractwyr lleol a chyflwyno pecyn o
gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth.
"Gallai ail raglen bartneriaeth
hefyd ganiatáu i ni gydweithio â phartneriaid, o bosibl ddod â safleoedd
ychwanegol i mewn i’r rhaglen i'w gwneud yn gynnig mwy deniadol fyth i gynigwyr
posibl, a chynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ledled y ddinas.
Hefyd, cymeradwyodd y Cabinet
rhestr o safleoedd datblygu penodol sydd i'w cynnwys yn yr ail raglen
bartneriaeth ac i ddirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a
Chymunedau mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i reoli'r
holl faterion sy'n ymwneud â'r broses gaffael. Ar ôl i'r broses dendro a
gwerthuso ceisiadau ddod i ben, bydd penderfyniad yn cael ei ddwyn yn ôl i'r
Cabinet i roi cymeradwyaeth i benodi'r cynigydd a ffefrir.
I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7956&Ver=4&LLL=1