17/11/22
Bydd Cymru'n herio Georgia ddydd Sadwrn 19 Tachwedd yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 1pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 9pm tan 5pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.
Bydd y gatiau'n agor am 10.30pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Rhowch sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir yn principalitystadium.cymru,yn arbennig y polisi bagiau (ni chaniateir bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 9am tan 5pm
Ychwanegiadau:
Canolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.
Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Trenau
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu amserlen lawn i mewn ac allan o Gaerdydd ar ddydd Sadwrn 19 Tachwedd, ond bydd gwasanaethau'n brysur iawn, felly neilltuwch ddigon o amser ar gyfer eich taith.
Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau'r brif linell ar y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd y tu cefn i'r orsaf.
Dylai cefnogwyr sy'n defnyddio gwasanaethau Great Western Railways fynd i drenau yn syth ar ôl y gêm ar gyfer teithiau i Loegr.
Bydd GWR ond yn gallu gweithredu gwasanaeth llai oherwydd gweithredu diwydiannol, gyda system giwio yn ei lle a bydd yn rhaid cwblhau pob taith i'r dwyrain o Gaerdydd erbyn 1830. Bydd trenau olaf i Lundain, Reading a Bryste yn gadael yn llawer cynt arferol - mae'r trên olaf i Lundain yn gadael am 1623.
Gyda'r system giwio ar waith yng Nghanol Caerdydd, dylai cefnogwyr wneud eu ffordd i'r orsaf cyn gynted â phosib yn syth wedi'r gêm, lle bydd gwasanaethau GWR ychwanegol ar gael.
Bydd trenau'n rhedeg bob awr o Gaerdydd i Abertawe hyd at 2140 gan nad yw'r rhain wedi'u heffeithio gan streic.
Ewch i tfw.cymru neu'r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.
Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â'r swyddog tocynnau, neu ar gyfer materion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd cyfleusterau Parcio a Theithio ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.
Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan.
Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 8.50am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 5pm gyda'r safle yn cau'n fuan wedi hynny.
Cost: £10 yn daladwy ar y diwrnod - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.
Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Bysus)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysiau lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn
defnyddio Gerddi Sophia yn yr un modd ag arfer pan nad yw'r ffyrdd ar gau.
Rhwng 9.30am a 5.30pm, bydd y gwasanaethau hyn yn gweithredu o Heol y Gadeirlan.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 9am ac yn ailagor am 5pm.