Back
Wythnos Cyflog Byw: Pwysicach nag erioed


14.11.22
 
Mae statws Caerdydd fel dinas Cyflog Byw wedi cael ei adnewyddu am y tair blynedd nesaf, yn dilyn cadarnhad gan y Sefydliad Cyflog Byw.

 

Daw'r newyddion ar ddechrau Wythnos Cyflog Byw (14-20 Tachwedd), sy'n ddathliad blynyddol o'r Cyflog Byw Gwirioneddol - yr unig gyfradd cyflog a gyfrifir yn seiliedig ar gostau byw gwirioneddol.

 

Gyda chostau byw yn codi a miliynau ar draws y wlad yn ei chael hi'n anodd ymdopi â phwysau presennol costau ynni, bwyd a thanwydd cynyddol, ni fu ennill Cyflog Byw Gwirioneddol erioed yn bwysicach.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd wrth westeion mewn digwyddiad Dinas Cyflog Byw arbennig yng Nghaerdydd y prynhawn yma yn adeilad Sbarc Prifysgol Caerdydd, sef adeilad Cyflog Byw cyntaf y ddinas a Chymru, sut y gall gwneud y pethau bychain wneud cymaint o wahaniaeth i weithwyr, eu teuluoedd a'r busnesau a'r sefydliadau sy'n talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas, Cadeirydd Partneriaeth Dinas Cyflog Byw aml-sefydliadol Caerdydd: "Fel Partneriaeth rydyn ni wedi mabwysiadu gwireb ein nawddsant - "Gwnewch y pethau bychain". Os ydym i gyd yn "gwneud y pethau bychain", gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr a gallwn weld o'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud ar hyd ein taith Cyflog Byw bod hynny'n wir.

 

"Mae gennym ni bellach 186 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghaerdydd, yn sefydliadau mawr a bach o bob sector economi Caerdydd.  Yn 2022 cafodd ein canfed sefydliad yn y sector preifat ei achredu fel cyflogwr Cyflog Byw.

 

"Mae tua 67,500 o bobl yn gweithio i gyflogwr Cyflog Byw achrededig ac mae dros 11,000 o'r rheiny wedi cael codiad cyflog i'r Cyflog Byw gwirioneddol, yr ail nifer uchaf o godiadau cyflog mewn unrhyw ddinas yn y DU, y tu ôl i Gaeredin.  Ac mae Prifysgol Caerdydd wedi cyfrifo bod bron i £50 miliwn yn ychwanegol wedi mynd i economi Caerdydd ers 2012 o ganlyniad i'r codiadau hyn. 

 

"Rydyn ni'n hynod falch o'r cynnydd hwn, sydd wedi rhagori ar yr holl dargedau a bennwyd gennym dair blynedd yn ôl, ond rydyn ni am wneud mwy.

 

"Mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb, ond does neb yn cael eu taro'n galetach na'r gweithwyr ar y cyflogau isaf. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn achubiaeth i lawer felly rydyn ni eisiau hyd yn oed mwy o swyddi yn y ddinas sy'n talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol ac rydyn ni'n gweithio'n galed i annog mwy o gyflogwyr i gael eu hachredu fel Cyflogwyr Cyflog Byw.

 

"Mae angen cymaint o bobl a sefydliadau â phosib i "wneud y pethau bychain" i helpu i gyfleu'r neges ynghylch manteision talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol."

 

Dros y tair blynedd nesaf, mae Caerdydd wedi gosod targed newydd i 300 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghaerdydd, sy'n cyflogi 95,000 o staff y mae 13,900 o'r rheiny wedi gweld eu cyflog yn codi i'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

 

Cafodd y targedau newydd eu datgelu i gyd-fynd â chyhoeddiad y Cyflog Byw "gwirioneddol" newydd - y gyfradd gyflog fesul awr a osodir yn annibynnol ac sy'n cael ei diweddaru'n flynyddol a'i chyfrifo yn ôl costau byw sylfaenol yn y DU. Nod y gyfradd yw sicrhau na ddylai unrhyw un orfod gweithio am lai nag y gallant fyw arno ac eleni, cyhoeddwyd mai cyfradd Cymru yw £10.90 yr awr, cynnydd ar gyfraddau'r llynedd o £9.90.

Mae gan y Cyngor gynllun achredu Cyflog Byw sy'n talu ffioedd achredu busnesau bach lleol am y tair blynedd cyntaf.