Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru; Wythnos Diogelu Genedlaethol: Yn ôl i'r pethau sylfaenol; a diweddariad ar gynnydd ar gyfer datblygu Campws Cymunedol y Tyllgoed.
Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru
Bydd defod genedlaethol Sul y Cofio yng Nghymru, ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn cael ei chynnal Ddydd Sul 13 Tachwedd 2022.
Bydd carfannau o'r Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Bysgota a'r Cadetiaid yn gorymdeithio o Neuadd y Ddinas ac ar hyd Rhodfa'r Brenin Edward VII at Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd lle byddant yn cyrraedd erbyn 10:40am ac yn ymgynnull o amgylch y gofeb.
Yn ymuno â nhw fydd colofnau o gyn-aelodau'r Lluoedd, wedi'u trefnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a cholofnau o sifiliaid yn cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdaro yn y presennol a'r gorffennol.
Bydd detholiad o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan Fand Byddin Yr Iachawdwriaeth Treganna o 10:30am tan ychydig cyn 11am, pan fydd y gwasanaeth yn dechrau gyda galwad a gair o'r Ysgrythur gan Gaplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Bydd Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Chôr Meibion Parc yr Arfau yn arwain yr canu yn ystod y gwasanaeth.
Am 10:59am bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn seinio'r 'Caniad Olaf' wedi ei ddilyn am 11am gan daniad gwn gan Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd i nodi dechrau cadw'r ddwy funud o dawelwch. Bydd tanio'r gwn unwaith eto yn nodi'r terfyn a'r Biwglwr yn chwarae'r 'Reveille'.
Mae trefn y seremoni, a gaiff ei dilyn ar y diwrnod, ar gael i'w lawrlwythoyma. Bydd 22 o dorchau yn cael eu gosod gan y rhai a fydd yn cymryd rhan yn nefod genedlaethol Sul y Cofio yng Nghymru.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30267.html
Wythnos Diogelu Genedlaethol: Yn ôl i'r pethau sylfaenol
Mae Cennad y Rhuban Gwyn ac eiriolwr cam-drin domestig penigamp, gyda phrofiad personol o reolaeth drwy orfodaeth o fewn ei deulu yn dod â'i stori ysbrydoledig i Gaerdydd yr wythnos nesaf, fel rhan o'r Wythnos Diogelu Genedlaethol (14 - 18 Tachwedd).
Cafodd mam a chwaer Ryan Hart eu lladd yn greulon gan ei dad ond gyda'i frawd Luke, mae wedi defnyddio'r drasiedi i helpu eraill drwy godi ymwybyddiaeth a siarad allan yn erbyn trais dynion tuag at fenywod a merched. Sefydlodd y brodyr y sefydliad Coercion and Control Awareness (CoCo Awareness) er cof am eu mam a'u chwaer, ac ysgrifennon nhw gofiant hefyd sydd wedi'i ddisgrifio fel 'cyfraniad pwysig i'n dealltwriaeth o gam-drin domestig.'
Bydd Ryan yn siarad yng nghynhadledd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro ar 15 Tachwedd, un o nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos ar gyfer gweithwyr diogelu proffesiynol, y rheiny sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion yn ogystal â sesiynau ar gyfer y cyhoedd.
Thema'r Wythnos Diogelu Genedlaethol eleni yw 'Hanfodion Ymarfer Diogelu - Yn ôl i'r Pethau Sylfaenol' ac mae'r rhaglen o ddigwyddiadau wedi'i threfnu i atgyfnerthu'r neges bod diogelu'n gyfrifoldeb i bawb.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30273.html
Diweddariad ar gynnydd ar gyfer datblygu Campws Cymunedol y Tyllgoed
Mae Campws Cymunedol y Tyllgoed yn brosiect arloesol i Gaerdydd a fydd, pan gaiff ei gwblhau, yn gweld Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank, ac Ysgol Woodlands i gyd wedi'u lleoli mewn adeiladau newydd ar un safle pwrpasol
Bydd y campws ar y cyd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael at ddefnydd y gymuned a'r cyhoedd y tu allan i oriau'r ysgol.
Mae cynlluniau ar gyfer y cynllun ar y gweill, ond yn ei gyfarfod ddydd Iau, 17 Tachwedd, bydd y Cabinet yn clywed sut, yn bennaf oherwydd chwyddiant, mae cost y prosiect wedi cynyddu'n sylweddol.
Bydd adroddiad i'r Cabinet yn argymell rhyddhau arian ychwanegol gan y Cyngor a Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Band B Llywodraeth Cymru fel y gall y cynllun barhau heb oedi.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30271.html