11.11.22
Mae Cennad y Rhuban Gwyn ac eiriolwr cam-drin domestig penigamp, gyda phrofiad personol o reolaeth drwy orfodaeth o fewn ei deulu yn dod â'i stori ysbrydoledig i Gaerdydd yr wythnos nesaf, fel rhan o'r Wythnos Diogelu Genedlaethol (14 - 18 Tachwedd).
Cafodd mam a chwaer Ryan Hart eu lladd yn greulon gan ei dad ond gyda'i frawd Luke, mae wedi defnyddio'r drasiedi i helpu eraill drwy godi ymwybyddiaeth a siarad allan yn erbyn trais dynion tuag at fenywod a merched. Sefydlodd y brodyr y sefydliad Coercion and Control Awareness (CoCo Awareness) er cof am eu mam a'u chwaer, ac ysgrifennon nhw gofiant hefyd sydd wedi'i ddisgrifio fel 'cyfraniad pwysig i'n dealltwriaeth o gam-drin domestig.'
Bydd Ryan yn siarad yng nghynhadledd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro ar 15 Tachwedd, un o nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos ar gyfer gweithwyr diogelu proffesiynol, y rheiny sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion yn ogystal â sesiynau ar gyfer y cyhoedd.
Thema'r Wythnos Diogelu Genedlaethol eleni yw 'Hanfodion Ymarfer Diogelu - Yn ôl i'r Pethau Sylfaenol' ac mae'r rhaglen o ddigwyddiadau wedi'i threfnu i atgyfnerthu'r neges bod diogelu'n gyfrifoldeb i bawb.
Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant): "Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau yn gallu byw'n ddiogel, heb gael eu cam-drin na eu niweidio ac mae'r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yn ein hatgoffa ni i gyd. P'un a ydych yn aelod o'r cyhoedd neu'n weithiwr proffesiynol, mae rhywbeth at ddant pawb yn rhaglen yr wythnos hon o ddigwyddiadau a byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan a chwarae eich rhan mewn diogelu."
Ar ddechrau'r wythnos, mae'r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol yn cael eu lansio, gan nodi'r disgwyliadau o ran gwybodaeth, sgiliau, agweddau a gwerthoedd i bobl sy'n gweithio gydag oedolion a phlant a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso.
Mae'r digwyddiadau ar gyfer y cyhoedd yn cynnwys sesiwn ar Gadw'ch Plentyn yn Ddiogel mewn Chwaraeon gydag Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon NSPCC. Wrth i'r wythnos ddirwyn i ben, bydd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro yn cynnal ei Wobrau Cydnabyddiaeth i ddathlu cyfraniadau rhagorol y rheiny sy'n cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.
Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion): "Mae diogelu yn fater i bawb mewn gwirionedd - nid yn unig i'r rhai sy'n gweithio mewn rôl ddiogelu, ond i bob un ohonom. Weithiau mae'n anodd gwybod sut i adnabod a yw rhywun mewn perygl o niwed neu gamfanteisio a beth i'w wneud os ydym yn pryderu am rywun.
"Dyna pam mae thema'r Wythnos Ddiogelu eleni mor berthnasol - yn ôl i'r pethau sylfaenol. Bydd y digwyddiadau trwy gydol yr wythnos yn ein helpu ni i gyd i gael mwy o wybodaeth am ddiogelu."
I gael mwy o wybodaeth am Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg, ewch i https://www.cardiffandvalersb.co.uk/cy/ ac i gael y rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gyfer yr Wythnos Ddiogelu Genedlaethol, ewch yma