10/11/22
Bydd defod genedlaethol Sul y Cofio yng Nghymru, ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn cael ei chynnal Ddydd Sul 13 Tachwedd 2022.
Bydd carfannau o'r Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Bysgota a'r Cadetiaid yn gorymdeithio o Neuadd y Ddinas ac ar hyd Rhodfa'r Brenin Edward VII at Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd lle byddant yn cyrraedd erbyn 10:40am ac yn ymgynnull o amgylch y gofeb.
Yn ymuno â nhw fydd colofnau o gyn-aelodau'r Lluoedd, wedi'u trefnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a cholofnau o sifiliaid yn cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdaro yn y presennol a'r gorffennol.
Bydd detholiad o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan Fand Byddin Yr Iachawdwriaeth Treganna o 10:30am tan ychydig cyn 11am, pan fydd y gwasanaeth yn dechrau gyda galwad a gair o'r Ysgrythur gan Gaplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Bydd Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Chôr Meibion Parc yr Arfauyn arwain yr canu yn ystod y gwasanaeth.
Am 10:59am bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn seinio'r 'Caniad Olaf' wedi ei ddilyn am 11am gan daniad gwn gan Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd i nodi dechrau cadw'r ddwy funud o dawelwch. Bydd tanio'r gwn unwaith eto yn nodi'r terfyn a'r Biwglwr yn chwarae'r 'Reveille'.
Mae trefn y seremoni, a gaiff ei dilyn ar y diwrnod, ar gael i'w lawrlwythoyma. Bydd 22 o dorchau yn cael eu gosod gan y rhai a fydd yn cymryd rhan yn nefod genedlaethol Sul y Cofio yng Nghymru.
Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i ni ddod at ein gilydd, fel prifddinas a chenedl, i gofio'r holl rai a fu farw yn gwasanaethu eu gwlad a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ryfel a gwrthdaro. Rydym yn ymgynnull ar gyfer y gwasanaeth coffa blynyddol eleni gyda'r cof am wrthdaro yn y gorffennol yn dal yn ffres yn ein meddyliau a thra bod y rhyfel yn Wcráin yn dal i weld bywydau yn cael eu colli a phris mawr yn cael ei dalu."
Dwedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Hinchey: "Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda dynion a menywod dewr ein lluoedd arfog a'n cyn-filwyr, ynghyd â'u teuluoedd a'u ffrindiau ar hyn o bryd. Mae'r digwyddiad eleni yn arbennig o ingol gan ei fod yn dilyn marwolaeth drist Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II. Gydol ei theyrnasiad hir, roedd y Frenhines yn bencampwr ymroddedig dros ein holl luoedd arfog, gyda phrofiad o'r heriau y mae cymunedau'n Lluoedd yn eu hwynebu. Nawr y Brenin Siarl III sy'n cymryd yr awennau fel pennaeth y Lluoedd Arfog."
Dwedodd y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS:"Mae gwasanaeth y cofio yn parhau i fod yr un mor berthnasol ag erioed, wrth i ddynion a menywod y lluoedd o Gymru chwarae eu rhan yn gwasanaethu ac yn cadw'r heddwch ar hyd a lled y byd. Ym mis Mehefin, fe wnaethom nodi 40 mlynedd ers gwrthdaro'r Falklands. Roedd hwn yn ddigwyddiad allweddol yn hanes Cymru a'r Deyrnas ac fe gofion ni am y rôl bwysig a chwaraeodd personél y lluoedd arfog o Gymru yn y gwrthdaro hwnnw. Rydym yn anrhydeddu'r cyfraniad anhunanol a wnaed gan bawb sydd wedi colli eu bywydau mewn gwrthdaro yn y gorffennol a'r presennol. Fe'u cofiwn hwy."
Bydd Band y Cymry Brenhinol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn chwarae anthemau cenedlaethol Cymru a Phrydain Fawr ar ddiwedd y seremoni. Caiff Aelodau'r cyhoedd hefyd osod torchau wrth y Gofeb Genedlaethol ar ôl y gwasanaeth.
Ar ddiwedd y gwasanaeth, bydd yr holl gyfranogwyr a gwesteion yn ymgynnull i weld yr Orymdaith a'r Saliwt gan Arglwydd Raglaw EF, ochr yn ochr ag Arglwydd Faer Caerdydd a Llywydd Senedd Cymru.