Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: cyngor teithio i Gymru yn erbyn Yr Ariannin ar 12 Tachwedd yng Nghaerdydd; gwasanaeth sgwteri symudedd i lansio ym Mharc Cefn Onn; a Gwobr Prentis y Flwyddyn i Arddwraig o Gaerdydd.
Cyngor teithio i Gymru yn erbyn Yr Ariannin ar 12 Tachwedd yng Nghaerdydd
Bydd Cymru'n herio'r Ariannin ddydd Sadwrn 12 Tachwedd yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 5.30pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 1.30pm tan 9.30pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn i'r stadiwm yn ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.
Bydd y gatiau'n agor am 3pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Rhowch sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (ni chaniateir bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30252.html
Gwasanaeth sgwteri symudedd i lansio ym Mharc Cefn Onn
Bydd gwasanaeth symudedd gyriant pedair olwyn yn cael ei lansio ym Mharc Cefn Onn y flwyddyn nesaf wrth i waith ar brosiect £660,000 i warchod treftadaeth y parciau a gwella mynediad a chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr gael ei gwblhau.
Y gwasanaeth 'Tramper' newydd, yw darn olaf y prosiect "I'r ardd a thu hwnt", a ariennir yn rhannol gan grant o £454,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sydd wedi cyflwyno amrywiaeth o welliannau i'r parc rhestredig Gradd 2 yng ngogledd Caerdydd, gan gynnwys:
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30241.html
Gwobr 'Prentis y Flwyddyn' i Arddwraig o Gaerdydd
Mae garddwraig dalentog sy'n gweithio yn rhai o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd wedi'i henwi yn ‘Brentis y Flwyddyn.'
Yn 2018 roedd Teaka Scriven yn gweithio fel peiriannydd, yn mwynhau gofalu am ei gardd gefn yn yr ychydig amser sbâr oedd ganddi, ac yn breuddwydio am newid gyrfa.
Daeth y newid hwnnw pan wnaeth ei brwdfrydedd dros ymgymryd â her newydd greu argraff fawr ar banel cyfweld, a chwta bedair blynedd yn ddiweddarach, mae hi wedi cael ei henwi'n enillydd gwobr Prentis Gwasanaethau Amgylcheddol y Flwyddyn ledled y DU gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus - rhywbeth sydd y tu hwnt i'w chrediniaeth meddai hi.
"Pan wnaethon nhw alw fy enw i, roedd yn anhygoel a dweud y gwir. Wnes i ddim deall yn syth beth oedd newydd ddigwydd, achos roeddwn i'n gwybod bod llawer o ymgeiswyr cryf iawn. Ond wedi i'r nerfau dawelu roeddwn i'n teimlo'n falch iawn, nid yn unig drosta i fy hun ond pawb yn adran y parciau, achos maen nhw i gyd wedi helpu, gyda'r holl hyfforddiant, arweiniad a chyngor. Roeddwn i'n falch iawn o gael y wobr ar ran Caerdydd."
Dywed Teaka ei bod wedi bod yn fraint cael cyfle i weithio a dysgu mewn "mannau mor anhygoel. Maen nhw'n barciau Baner Werdd, y llefydd gorau i weithio mewn garddwriaeth mewn gwirionedd."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30238.html