08/11/22
Mae murlun a ddarganfuwyd yng Nghaerdydd a gafodd ei greu gan yr artist stryd dirgel o Glasgow, The Rebel Bear, yn cael ei ddangos am dri mis yn Amgueddfa Caerdydd fel rhan o'r arddangosfa Protest.
Cafodd y murlun a ymddangosodd yn ddiweddar ar hysbysfyrddau ar Heol y Fferi ger y Pentref Chwaraeon, ei baentio gan y 'Scottish Banksy' i gefnogi menyw anabl sy'n byw yn y ddinas, ac sydd mewn anghydfod cyfreithiol gyda gweithredwr maes parcio preifat.
Fel Banksy mae hunaniaeth The Rebel Bear yn parhau'n ddirgelwch ac yn ôl y sôn mae'n gwneud ei waith wedi'i wisgo fel arth.
Mae'r gwaith yng Nghaerdydd yn darlunio dynes yn eistedd mewn cadair olwyn sydd wedi ei chlampio. Mae printiadau o'r gwaith yn cael eu gwerthu i helpu i ariannu ei hachos cyfreithiol sy'n ymwneud ag anghydfod parcio.
Gan ymateb i'r murlun ac i gefnogaeth The Rebel Bear, dywedodd Cerys Gemma, sy'n byw yn Prospect Place yn y Pentref Chwaraeon : "Mae'n wych, gwnaeth fy nghalonogi'n fawr.Mae'n dda gwybod bod pobl yno'n eich cefnogi. Gwnaeth fy syfrdanu ond mewn ffordd dda.
"Rwyf wedi gweld gwaith Rebel Bear ar-lein. Alla i ddim credu ei fod wedi gwneud cymaint o ymdrech ac roeddwn i'n meddwl bod creadigrwydd y peth yn dda iawn."
Mewn neges Instagram, disgrifiodd yr artist byd-enwog y celfwaith fel, 'dim ond enghraifft arall o'r ffyrdd gor-fiwrocrataidd o gael arian y mae'n ymddangos eu bod ar waith yn y rhan fwyaf o sefydliadau mewn cymdeithas.'
Cafodd y celfwaith ei dynnu lawr o'r Pentref Chwaraeon, gyda chaniatâd yr artist a Cerys, i'w ddiogelu. Bellach gall y cyhoedd ei weld yn Amgueddfa Caerdydd, yn yr Ais, fel rhan o'r Arddangosfa Protest, sy'n archwilio 100 mlynedd o actifiaeth a phrotestio yng Nghaerdydd.
O fudiad y Swffragetiaid yn fuan yn y 1900au i Orymdaith y Merched yn 2017, gall pobl weld sut y bu pobl yn ymladd dros eu gwerthoedd a dysgu am y cymunedau a ddaeth at ei gilydd i frwydro dros achos cyffredin.
Ar ôl i'r gwaith gael ei arddangos yn yr amgueddfa, gellid ei ddychwelyd o bosibl i gartref parhaol newydd yn natblygiad y Pentref Chwaraeon.