Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Cyngor teithio i gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd ar 5 Tachwedd yng Nghaerdydd; stori milwyr o Awstralia a nyrsiwyd yng Nghaerdydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i'w hadrodd ar benwythnos y Cofio; a Llwybr Calan Gaeaf realiti estynedig newydd i deuluoedd ar Love Exploring
Cyngor teithio i gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd ar 5 Tachwedd yng Nghaerdydd
Bydd Cymru'n herio Seland Newydd ddydd Sadwrn 5 Tachwedd yn Stadiwm Principality.
Gyda chyfyngiadau llym ar y rhwydwaith trenau oherwydd streic, cynghorir pawb sy'n teithio trwy'r ffordd i adael digon o amser i fynd i mewn i Gaerdydd ac i mewn i Stadiwm Principality.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd, neu Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.
Gyda'r gic gyntaf yn cael ei chynnal am 3.15pm - bydd ffordd lawn o ganol y ddinas ar gau o 11.15am tan 7.15pm i sicrhau bod modd i bob deiliad tocyn fynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.
Bydd y gatiau'n agor am 12:45, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Rhowch sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (ni chaniateir bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Ni fydd trenau'n rhedeg o Gaerdydd ar ôl y gêm
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30191.html
Stori milwyr o Awstralia a nyrsiwyd yng Nghaerdydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i'w hadrodd ar benwythnos y Cofio
Bydd grŵp theatr o Gaerdydd yn adrodd stori saith milwr o Awstralia a gafodd eu nyrsio yng Nghaerdydd, filoedd o filltiroedd o'u cartrefi, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf mewn tri pherfformiad amlgyfrwng dramatig mewn tri lleoliad gwahanol yn ystod penwythnos y Cofio.
Wedi'i ysgrifennu gan Kathy Thomas a'i gyfarwyddo gan Ray Thomas, mae 'Far From Home' gan A48 Theatre Company yn defnyddio cofnodion dyddiadur, adroddiadau papur newydd, llythyrau ac eitemau propaganda i greu sioe amlgyfrwng sy'n archwilio safbwyntiau Awstralaidd ar y Rhyfel Mawr.
Yn ystod y rhyfel cafodd dros 2,500 o welyau eu darparu ar gyfer milwyr a anafwyd yng Nghaerdydd, yn 3ydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin. Roedd pencadlys yr ysbyty yn Ysbyty Caerdydd ond cafodd 23 adeilad cyhoeddus arall, gan gynnwys Ysgol Parc Ninian, eu haddasu a'u defnyddio i ofalu am filwyr oedd wedi eu hanafu.
Wedi'i osod ar ward ysbyty, mae'r perfformiad yn tynnu ar straeon saith milwr a gladdwyd, ynghyd â nifer o rai eraill, yn adran Beddau Rhyfel y Gymanwlad ym Mynwent Cathays.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30176.html
Llwybr Calan Gaeaf realiti estynedig newydd i deuluoedd ar Love Exploring
Mae Llwybr Calan Gaeaf realiti estynedig iasol o amgylch rhai o barciau a mannau gwyrdd mwyaf poblogaidd Caerdydd wedi'i lansio ar yr ap Love Exploring newydd.
Mae'r ap am ddim, sydd ar gael i'w lawrlwytho o'r Apple App Store a Google Play, yn cynnwys amrywiaeth o lwybrau llawn gwybodaeth, a gemau realiti estynedig hwyl o amgylch Parc y Rhath, Lawntiau Neuadd y Ddinas, Parc Bute, Fferm y Fforest, Parc Cefn Onn, a Bae Caerdydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Mae'r ap Love Exploring yn ffordd wych i bobl ddod i nabod parciau a mannau gwyrdd Caerdydd yn well a chael llawer o hwyl ar yr un pryd. Rydyn ni'n lwcus bod gennym ni fannau gwyrdd gwych yng Nghaerdydd ac mae'r ap wedi'i gynllunio i helpu i annog mwy fyth o bobl i fwynhau'r awyr agored."
Bydd y Llwybr Calan Gaeaf, sy'n cynnwys pwmpenni, gwrachod, sgerbydau realiti estynedig a mwy, yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau.
Mae'r ap hefyd yn cynnwys Saffari Deinosoriaid realiti estynedig. Gall anturiaethwyr bach ddefnyddio'r map i ddod o hyd i'r deinosoriaid yn y parc ac yna profi eu gwybodaeth ddeinosoraidd yn y cwis.
Bydd mwy o gemau realiti estynedig yn cael eu hychwanegu i'r ap yn y misoedd nesaf, gan gynnwys llwybr Tylwyth Teg y Goedwig, a llwybr Bwystfilod Bach Bendigedig.
Gall defnyddwyr yr ap hefyd archwilio coed campus gardd goed Parc Bute, dilyn llwybr meddwlgarwch o amgylch Bae Caerdydd, darganfod bywyd gwyllt yn Fferm y Fforest, a mynd ar daith gerdded hanesyddol o amgylch llyn Parc y Rhath.
Darllenwch fwy yma: