Back
Y Cynghorydd Julie Sangani yn siaradwr gwadd yn y Ddarlith Goffa Sefydlu Betty Campbell gyntaf erioed

27/10/22

Heddiw, roedd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros fynd i'r afael â Thlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd, y Cynghorydd Julie Sangani, yn falch iawn o fod yn siaradwr gwadd yn y Ddarlith Goffa Sefydlu Betty Campbell gyntaf un, ychwanegiad newydd i ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon Caerdydd.

A person with long hairDescription automatically generated with low confidence

Wedi'i threfnu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Senedd Cymru a Menywod Hynod Cymru, bydd Darlith Goffa Flynyddol Betty Campbell yn anrhydeddu gwaith prifathrawes ddu gyntaf Cymru a hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Mae'r ddarlith yn edrych ar elfennau ar fywyd yng Nghaerdydd, yng Nghymru a thu hwnt y bu'r addysgwr a'r arweinydd cymunedol arloesol yn Butetown yn gweithio i'w gwella a'u hyrwyddo.  Mae hefyd yn nodi pen-blwydd cyntaf datguddio cerflun Betty Campbell yng Nghaerdydd.   

Wrth siarad yn y digwyddiad yn gynharach heddiw, dwedodd y Cynghorydd Sangani: "Fel aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb, rwy'n falch iawn o fod yma heddiw yn cynrychioli'r Cyngor yn y Ddarlith Goffa Betty Campbell gyntaf hon. 

"Cyrhaeddais i Gaerdydd yn 2008, ac yn fuan iawn daeth Cymru yn gartref i mi.

"Gall symud i ddinas newydd wastad brofi'n heriol, ond rhoddodd Caerdydd y croeso mwyaf twymgalon i mi.

"Y rheswm dros hynny oedd cymunedau aml-ddiwylliannol Caerdydd, fel Butetown Mrs. Campbell ei hun.

"Clywais gyntaf am Mrs Campbell yn fuan wedi cyrraedd Caerdydd ac, er i ni gael ein geni filoedd o flynyddoedd i ffwrdd o'n gilydd, roeddwn i'n teimlo fod Mrs Campbell a minnau wedi troedio llwybr tebyg iawn.

"Roedd Mrs Campbell yn angerddol dros ei chymuned. Roedd hi eisiau dathlu cynhwysiant a chreu cymdeithas fwy cydradd. Ac roedd hi eisiau gwneud yn siŵr bod plant yn gallu gweld pobl a oedd yn edrych ac yn swnio fel hi mewn swyddi amlwg a dylanwadol ar draws y ddinas.

"Rwy'n gobeithio cyfrannu at waddol Mrs Campbell drwy annog pobl - beth bynnag fo'u cefndir - i ddod ymlaen a helpu i lywio dyfodol Caerdydd.

"Rwy'n edrych o gwmpas yr ystafell heddiw ac rwy'n gweld tystiolaeth fyw y gall menywod a merched wireddu eu breuddwydion. Gyda'n gilydd, gadewch i ni wneud yn siŵr bod pob un plentyn sy'n cael eu magu yn ein dinas, waeth beth fo lliw eu croen, yn cael y cyfle, y gefnogaeth, a'r arweiniad i gyflawni eu breuddwydion hefyd."