Bydd grŵp theatr o Gaerdydd yn adrodd stori saith milwr o Awstralia a gafodd eu nyrsio yng Nghaerdydd, filoedd o filltiroedd o'u cartrefi, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf mewn tri pherfformiad amlgyfrwng dramatig mewn tri lleoliad gwahanol yn ystod penwythnos y Cofio.
Wedi'i ysgrifennu gan Kathy Thomas a'i gyfarwyddo gan Ray Thomas, mae 'Far From Home' gan A48 Theatre Company yn defnyddio cofnodion dyddiadur, adroddiadau papur newydd, llythyrau ac eitemau propaganda i greu sioe amlgyfrwng sy'n archwilio safbwyntiau Awstralaidd ar y Rhyfel Mawr.
Yn ystod y rhyfel cafodd dros 2,500 o welyau eu darparu ar gyfer milwyr a anafwyd yng Nghaerdydd, yn 3yddYsbyty Cyffredinol y Gorllewin. Roedd pencadlys yr ysbyty yn Ysbyty Caerdydd ond cafodd 23 adeilad cyhoeddus arall, gan gynnwys Ysgol Parc Ninian, eu haddasu a'u defnyddio i ofalu am filwyr oedd wedi eu hanafu.
Wedi'i osod ar ward ysbyty, mae'r perfformiad yn tynnu ar straeon saith milwr a gladdwyd, ynghyd â nifer o rai eraill, yn adran Beddau Rhyfel y Gymanwlad ym Mynwent Cathays.
Eglurodd y cyfarwyddwr, Ray Thomas, sut yr oedd yn "teimlo cyfyng gyngor" y nyrsys fu'n gweithio ar y wardiau wrth greu'r darn. Meddai, "Roedd yn rhaid i mi roi fy hun yn sgidiau nyrsys yn ysgrifennu at famau, tadau, gwragedd a phlant ar ochr arall y byd, a oedd eisiau gwybod mwy am eiliadau olaf eu hanwyliaid."
Bydd y grŵp, y mae eu perfformiadau 'Lleisiau o'r Tu Hwnt i'r Bedd',mewn cydweithrediad ag adran Gwasanaethau Profedigaeth Cyngor Caerdydd, yn nodwedd boblogaidd yng nghalendr digwyddiadau'r fynwent sy'n denu cynulleidfa lawn reolaidd, yn perfformio'r sioe yn:
Y Deml Heddwch (Dydd Gwener 11 Tachwedd, 7.30pm)
Eglwys Sant Ioan, Treganna (Dydd Sadwrn 12 Tachwedd, 7.30pm)
Capel Mynwent Cathays (Dydd Sul 13 Tachwedd, 2pm)
Mae nifer gyfyngedig o docynnau ar gael yn https://a48theatrecompany.com/ ac maen nhw'n costio £10 yr un.
Cynhelir Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru, a gynhelir ar y cyd gan Gyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yng Nghofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, ddydd Sul, 13 Tachwedd 2022. Bydd manylion llawn ar gael yn www.newyddioncaerdydd.co.uk.