21/10/22 - Ehangu cynllun ailgylchu newydd ymyl y ffordd
Mae'r cynllun ailgylchu newydd didoli ar garreg y drws yn cael ei ehangu i 5,000 o eiddo pellach ledled y ddinas, er mwyn gwella ansawdd yr ailgylchu sy'n cael ei gasglu o gartrefi preswylwyr, cynyddu cyfradd ailgylchu'r ddinas ac ymdrechu tuag at dargedau heriol Llywodraeth Cymru i ailgylchu.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30159.html
20/10/22 - Cam arall ymlaen i gynlluniau am ffordd gyswllt a phont newydd dros Afon Rhymni
Mae cynlluniau ar gyfer pont newydd i greu cyswllt uniongyrchol o Lanrhymni i'r A48 yng nghyffordd Pentwyn wedi cymryd cam ymlaen, gyda chaniatâd wedi'i roi gan Gabinet Cyngor Caerdydd i ymrwymo i gontract cyfreithiol.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30154.html
20/10/22 - Adroddiad blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud
Mae'r chweched adroddiad blynyddol ar Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd (CDLl) yn dangos bod cynnydd da wedi'i wneud yn yr ystod o ddangosyddion, gyda'r canfyddiadau'n cael eu trafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd yn eu cyfarfod ar 20 Hydref.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30152.html
20/10/22 - Arian ar gael i weithredwyr bysus ddarparu bysus trydan newydd ar gyfer y ddinas
Cyn hir bydd gan Gaerdydd hyd yn oed mwy o fysus trydan yn gweithredu ledled y ddinas diolch i grant gwerth £8 miliwn sydd wedi'i gynllunio i sicrhau cerbydau glanach ar ein strydoedd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30149.html
19/10/22 - 'Marchnad Nos Wener' yn y farchnad dan do hanesyddol
Bydd y 'Farchnad Nos' boblogaidd ym marchnad dan do hanesyddol Caerdydd yn dychwelyd ar gyfer digwyddiad untro nos Wener, gyda cherddoriaeth fyw ac amrywiaeth eclectig o fasnachwyr annibynnol.
Darllenwch fwy yma: