Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 21 Hydref 2022

Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Hawliau newydd i denantiaid wrth i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ddod i rym; Adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd; a 'Marchnad Nos Wener' yn y farchnad dan do hanesyddol.

 

Hawliau newydd i denantiaid wrth i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ddod i rym

Bydd un o newidiadau mwyaf y sectorau tai rhent cymdeithasol a phreifat yn cael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr wrth i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gael ei rhoi ar waith.

Trafododd Cabinet Cyngor Caerdydd oblygiadau'r Ddeddf newydd i'r Cyngor yn ei gyfarfod ddoe (dydd Iau 20 Hydref) a chymeradwyodd y dull a gynhigiwyd o weithredu'r newidiadau sydd eu hangen, gan gynnwys cyflwyno 'contractau meddiannaeth' newydd i holl denantiaid y Cyngor a newidiadau i weithdrefnau i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth newydd.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod goblygiadau'r Ddeddf newydd i'r Cyngor yn ei gyfarfod ddydd Iau 20 Hydref ac argymhellir ei fod yn cymeradwyo'r dull arfaethedig o weithredu'r newidiadau sydd eu hangen, gan gynnwys cyflwyno 'contractau meddiannaeth' newydd i holl denantiaid y Cyngor a newidiadau i weithdrefnau i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth newydd.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ailenwi awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn 'landlordiaid cymunedol', a thenantiaid yn 'ddeiliaid contract'
  • Sicrhau bod gan ddeiliaid contract hawl i ddeufis o rybudd o unrhyw gynnydd mewn rhent
  • Rhoi hawliau olyniaeth gwell i ddeiliaid contract.  Dan y ddeddfwriaeth newydd, bydd hyd at ddwy olyniaeth yn cael eu caniatáu
  • Ymestyn hawliau i gyd-denantiaid a fydd yn gallu gadael eiddo heb ddod â chontract i ben ac ychwanegu tenantiaid newydd os yw perthynas yn torri i lawr, er enghraifft, ac mae un partner yn gadael yr eiddo
  • Rhoi pŵer i gynghorau adfeddiannu eiddo gadawedig heb orchymyn llys
  • Cyflwyno safon atgyweirio sy'n nodi sut i benderfynu a yw eiddo'n addas i bobl fyw ynddo

Yn y sector rhent preifat, sy'n chwarae rhan sylweddol yn strategaeth dai'r Cyngor i wella mynediad i gartrefi fforddiadwy, bydd yn rhaid i landlordiaid nawr roi chwe mis o rybudd o'r ffaith y byddant yn troi eu deiliaid contract allan. Ond ni ellir rhoi'r rhybudd hwn o fewn chwe mis cyntaf y contract, gan olygu i bob pwrpas y gall deiliad contract nad yw'n torri'r contract fyw'n ddiogel am 12 mis.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30103.html

 

Adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd wedi gallu gwneud cynnydd sylweddol, er gwaethaf cynnydd parhaus yn nifer y bobl sydd angen cymorth yn y ddinas a chymhlethdod y problemau maen nhw'n eu hwynebu.

Mae Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol ar gyfer 2021/22 yn rhoi ffocws ar ystod eang o waith sy'n cael ei wneud ar draws y Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Mae'r adroddiad yn cynnwys canlyniadau adroddiad sefydlogrwydd y farchnad ranbarthol sy'n darparu gwybodaeth i gefnogi'r gwaith o nodi blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod ac effaith y cynnydd yn y galw am wasanaethau hyd yn hyn.

Mae uchafbwyntiau'r Gwasanaethau Oedolion yn cynnwys:

  • Cryfhau ein Gwasanaethau Byw'n Annibynnol.
  • Derbyn i Rwydwaith Dinas sy'n Dda i Bobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd.
  • Datblygu Strategaeth Heneiddio'n Dda.
  • Ailagor Canolfannau Dydd.
  • Datblygu Academi Gofalwyr Caerdydd

Mae uchafbwyntiau Gwasanaethau Plant yn cynnwys:

  • Lansio'r Hwb Ymyrraeth ac Adolygu.
  • Dechrau cynllun peilot Cyffuriau ac Alcohol Teuluol.
  • Gweithredu cynllun gwella Cyfiawnder Ieuenctid.
  • Cynyddu defnydd o drefniadau ymhlith perthnasau i gadw plant a phobl ifanc yn agosach at adref

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30110.html

 

'Marchnad Nos Wener' yn y farchnad dan do hanesyddol

Bydd y 'Farchnad Nos' boblogaidd ym marchnad dan do hanesyddol Caerdydd yn dychwelyd ar gyfer digwyddiad untro nos Wener, gyda cherddoriaeth fyw ac amrywiaeth eclectig o fasnachwyr annibynnol.

Bydd y digwyddiad hwn, yn rhan o wythnos 'Dinas yr Arcêd' a fydd yn gweld mwy na thrideg pump o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws saith arcêd Fictoraidd ac Edwardaidd eiconig, yn cael ei gynnal rhwng  6pm a 9pm ar 4 Tachwedd  a dyma fydd y 'Farchnad Nos' gyntaf i gael ei chynnal ar nos Wener.

Mae'r farchnad yn un o adeiladau nodedig mwyaf eiconig Caerdydd.  Wedi ei rhestru fel adeilad Gradd II*, fe'i hagorwyd ym mis Mai 1891 ac mae wedi'i lleoli ar safle hen farchnad ffermwyr a hefyd hen garchar Caerdydd.

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Dinas yr Arcêd, ewch i:https://dinasyrarced.com/