Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: rhagolwg cyllideb diweddaraf y cyngor; yr adroddiad diweddaraf ar berfformiad Cyngor Caerdydd; hawliau newydd i denantiaid; a chamau i gadw canolfannau hamdden ar agor.
Rhybudd llwm ynghylch cyllideb Cyngor Caerdydd
Mae rhybudd ariannol llwm wedi'i gyhoeddi gan Gyngor Caerdydd sy'n dweud bod chwyddiant cynyddol wedi golygu bod twll o £53m yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.
Y cynnydd posibl mewn costau i ddarparu gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol a gwastraff yw'r uchaf a welwyd erioed gan yr awdurdod lleol mewn cyfnod o un flwyddyn.
Mae'r rhagamcanion newydd wedi gweld ei fwlch yn y gyllideb ar gyfer 2023/24 yn dyblu bron, sy'n golygu y bydd rhaid i'r cyngor nawr ddod o hyd i £53m mewn cynilion ac incwm y flwyddyn nesaf yn hytrach na'r £29m a gyfrifwyd ganddo ym mis Gorffennaf.
Daw'r rhybudd mewn adroddiad diweddariad cyllideb brys a gaiff ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau nesaf, 20 Hydref.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae hwn yn argyfwng y mae'r sector cyhoeddus cyfan yn ei wynebu, ledled y DU. Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhybuddio y gallai "miloedd ar filoedd" o swyddi gael eu torri o wasanaethau cyhoeddus pe bai Llywodraeth y DU yn gosod toriadau mawr ar gyllideb Cymru. Oni bai bod cydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU o faint y cynnydd mewn prisiau rydym yn eu hwynebu, bydd cynghorau ar draws Cymru a'r DU yn cael eu gorfodi i dorri gwasanaethau a swyddi lleol. Ar ôl degawd o gyni a chyda'r pwysau cynyddol ar gyllidebau teuluoedd, mae hyn yn peri pryder mawr.
"Dros y deng mlynedd diwethaf mae'r cyngor hwn eisoes wedi gwneud tua £250m o gynilion. Rydym wedi llwyddo i wneud hyn wrth gynnal gwasanaethau, ond bydd y cynnydd aruthrol mewn costau a'r galw am ein gwasanaethau, sydd wedi tyfu drwy'r pandemig, yn ein gadael yn wynebu rhai penderfyniadau anodd iawn. Bydd angen i ni adolygu popeth a wnawn."
Mae'r rhan fwyaf o gyllideb flynyddol bresennol y cyngor o £744m - tua dwy ran o dair - yn mynd ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.
Mae bwlch yn y gyllideb yn cael ei gyfrifo drwy dynnu cyllideb y cyngor (y grantiau y mae'n eu derbyn gan y Llywodraeth a refeniw a gynhyrchir drwy daliadau fel y dreth gyngor a pharcio) o'i wariant a ragwelir ar ddarparu gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd a hybiau, glanhau strydoedd, goleuadau stryd, cynnal a chadw ffyrdd ac ati. Ar hyn o bryd mae Cyngor Caerdydd yn darparu tua 700 o wasanaethau i drigolion ar draws y ddinas.
Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Mae'r amcangyfrif o fwlch gwerth £53m yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn adlewyrchu'r cyflymiad dramatig mewn chwyddiant, cynnydd mewn cyfradd llog, ac ansicrwydd economaidd cynyddol. Mae'r costau yn codi ond does dim arwydd y bydd yr arian yr ydym yn ei dderbyn gan y Llywodraeth yn cynyddu ddigon i dalu'r costau hyn. Cymerwn ynni fel enghraifft.Y flwyddyn nesaf rydym yn disgwyl cynnydd o fwy na 350% ar gyfer nwy a 150% ar gyfer trydan. Gallai hynny weld ein biliau ynni'n cynyddu gan £15 miliwn yn 2023/24.
"Mae costau bwyd yn saethu i fyny, sy'n golygu y byddparatoi prydau ysgol yn costio tua £1.4m yn fwy i'r cyngor. Mae chwyddiant tanwydd yn effeithio ar y gost o weithredu fflyd cerbydau'r Cyngor, yn fwyaf arbennig wrth reoli gwastraff, ac fe ddaw hyn i gyd ar adeg pan mae'r galw am ein gwasanaethau yn cynyddu'n aruthrol.
"Yn ystod cyfnodau anodd, gwyddom fod nifer o drigolion y ddinas, ac yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, yn troi at y Cyngor am gymorth. Mae hynny'n amlwg eisoes o ystyried y cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n cysylltu â gwasanaeth cynghori'r Cyngor, sydd wedi cynyddu 107% ers mis Ebrill y llynedd.
"Gyda'i gilydd, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau cynyddol yn y galw a chostau cynyddol sy'n arwain at her gyllidebol mor sylweddol ag unrhyw beth a welwyd dros y 10 mlynedd diwethaf."
Mae'r adroddiad a gyflwynir i'r Cabinet yn priodoli'r cynnydd aruthrol yng nghyllideb 2023-24 i nifer o bethau, gan gynnwys:
Dywedodd y Cynghorydd Weaver: "Yn y pen draw, bydd angen cau'r rhan fwyaf o'r bwlch yn y gyllideb trwy arbedion cyllidebol. Fel bob amser, gwneir pob ymdrech i barhau i nodi arbedion effeithlonrwydd. Fodd bynnag, gan adeiladu ar lefelau arbedion a ganfuwyd dros y degawd diwethaf, ni fydd modd cydbwyso cyllideb 2023/24 drwy effeithlonrwydd yn unig, ac mae'n anochel y bydd angen arbedion a fydd yn effeithio ar ein gwasanaethau. Ar hyn o bryd mae cyfarwyddiaethau'r cyngor yn llunio opsiynau newid gwasanaethau i'w hadolygu. Byddwn yn ymgynghori gyda thrigolion ar newidiadau tebygol a thoriadau posib cyn gosod y gyllideb yn gynnar y flwyddyn nesaf."
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar y gyllideb yma.
Pa mor dda mae eich cyngor yn gweithio i chi? Adroddiad blynyddol yn gwerthuso perfformiad
Caiff rhaglen uchelgeisiol Cyngor Caerdydd i greu prifddinas gryfach, decach a gwyrddach ei gwerthuso mewn adroddiad newydd sy'n sgorio'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan yr awdurdod.
Diben yr adroddiad yw asesu'n onest waith y Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae'n defnyddio adborth gan drigolion, y swyddogaeth graffu ac archwilwyr y llywodraeth i sicrhau bod adolygiad y Cyngor o berfformiad yn deg ac yn gytbwys.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Ein huchelgais yw gwneud Caerdydd yn brifddinas werddach, decach, a chryfach. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i ni ganolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus gorau y gallwn.
"Mae'r adroddiad hwn yn cynnig mesur pwysig o'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud wrth wireddu ein huchelgeisiau. Mae'r dyfarniadau a wnaed ynddo hefyd wedi ystyried llywodraethiant gwleidyddol ehangach y Cyngor, a'n trigolion a hynny'n gwbl briodol."
Ystyrir asesiad y Cyngor o'i berfformiad gan Banel Perfformiad yr awdurdod, sy'n dwyn ynghyd holl Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu, y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a'r Cyngor ochr yn ochr ag arolygon trigolion er mwyn sicrhau asesiad cytbwys o berfformiad.
Mae'r adroddiad yn dangos bod y Cyngor wedi gwella safonau addysgol; cyflwyno'r rhaglen datblygu tai cyngor fwyaf yng Nghymru; creu dros 1,000 o swyddi newydd a diogelu dros 900 o swyddi yn yr economi leol y llynedd; lleihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd; a gweithio ar brosiectau ar y newid yn yr hinsawdd drwy strategaeth Caerdydd Un Blaned.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30106.html
Hawliau newydd i denantiaid wrth i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ddod i rym
Bydd un o newidiadau mwyaf y sectorau tai rhent cymdeithasol a phreifat yn cael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr wrth i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gael ei rhoi ar waith.
Daw'r Ddeddf i rym ar 1 Rhagfyr 2022 a bydd yn berthnasol i gynghorau, cymdeithasau tai, tai cymorth a llety preifat ac mae goblygiadau mawr iddi, gan gynnwys rhoi mwy o ddiogelwch i denantiaid a rhoi cyfrifoldebau newydd ar landlordiaid.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod goblygiadau'r Ddeddf newydd i'r Cyngor yn ei gyfarfod ddydd Iau 20 Hydref ac argymhellir ei fod yn cymeradwyo'r dull arfaethedig o weithredu'r newidiadau sydd eu hangen, gan gynnwys cyflwyno 'contractau meddiannaeth' newydd i holl denantiaid y Cyngor a newidiadau i weithdrefnau i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth newydd.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Yn y sector rhent preifat, sy'n chwarae rhan sylweddol yn strategaeth dai'r Cyngor i wella mynediad i gartrefi fforddiadwy, bydd yn rhaid i landlordiaid nawr roi chwe mis o rybudd o'r ffaith y byddant yn troi eu deiliaid contract allan. Ond ni ellir rhoi'r rhybudd hwn o fewn chwe mis cyntaf y contract, gan olygu i bob pwrpas y gall deiliad contract nad yw'n torri'r contract fyw'n ddiogel am 12 mis.
Mae'r adroddiad ar y Ddeddf newydd yn cydnabod y gallai rhai landlordiaid preifat gael eu hysgogi i adael y farchnad rent oherwydd y mesurau newydd. I wrthsefyll unrhyw golled bellach o lety o'r fath ac o ganlyniad yr effaith ar wasanaethau digartrefedd, mae cymorth yn cael ei roi i landlordiaid preifat i'w helpu i ddeall gofynion y Ddeddf newydd ac i addasu iddynt. Un ffordd y mae'r Cyngor yn ceisio cefnogi landlordiaid yw trwy gynnig prydlesu eu heiddo a chymryd drosodd y materion rheoli sy'n aml yn gymhleth ac yn gysylltiedig â rhentu eiddo.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'r Ddeddf newydd yn golygu newidiadau sylweddol i'r ffordd y mae'r Cyngor, fel landlord cymunedol, yn gosod tai ac yn rheoli ei eiddo.
"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau fel landlordiaid o ddifrif ac yn croesawu'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno gan y ddeddfwriaeth.
"Rydym hefyd yn cydnabod y rôl fawr y mae landlordiaid preifat yn ei chwarae wrth ddarparu tai a lleddfu digartrefedd yn y ddinas ac rydym wedi datblygu amrywiaeth o fentrau i annog landlordiaid i aros yn y farchnad a chynnig eu heiddo i'w defnyddio gan gleientiaid digartref neu gan eraill sydd angen tai."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30103.html
Cyngor i weithredu i gadw canolfannau hamdden ar agor yng nghanol yr argyfwng ynni
Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried ffyrdd y gall helpu i gynnal gwasanaethau canolfannau hamdden y ddinas yn wyneb costau ynni cynyddol.
Ar hyn o bryd, y fenter gymdeithasol GLL sydd â'r contract i redeg 8 canolfan hamdden Caerdydd, sy'n eiddo i'r cyngor, gan arbed £3.5m i'r awdurdod lleol mewn cymorthdaliadau blynyddol ar gyfer y cyfleusterau.
Ond mae costau ynni cynyddol yn golygu bod y sefydliad dielw bellach yn wynebu colled sylweddol y flwyddyn nesaf ar ben dwy flynedd lle cafodd y pandemig effaith fawr ar fusnes.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Mae'r heriau sy'n wynebu GLL yng Nghaerdydd wedi'u hefelychu ar draws diwydiant hamdden y DU, ac rydym eisoes wedi gweld straeon mewn ardaloedd eraill am brisiau'n cynyddu'n sylweddol, neu wasanaethau'n cael eu torri a chyfleusterau'n cau - yn enwedig pyllau nofio sy'n costio cymaint i'w gwresogi. Dydyn ni ddim am ddilyn y trywydd hwnnw ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gynnal gwasanaethau presennol i drigolion trwy weithredu i leddfu effaith andwyol prisiau ynni cynyddol a rhoi mesurau mwy hirdymor ar waith i sicrhau cynaliadwyedd y contract GLL."
Er bod GLL wedi gweld tua 90% o'r incwm yn dychwelyd ers i'r pandemig ddod i ben, mae costau ynni cynyddol yn golygu eu bod yn disgwyl diffyg gweithredol sylweddol yng Nghaerdydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.
Yn sgil yr heriau hyn mae adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn argymell cymeradwyo, mewn egwyddor:
O ystyried bod GLL yn darparu gwasanaeth ar ran y Cyngor, bydd y Cyngor yn archwilio a oes modd cysylltu GLL â chonsortiwm ynni'r sector cyhoeddus a fyddai'n galluogi GLL i elwa o gostau ynni is a sicrhawyd drwy bŵer prynu ynni swmp yr awdurdod lleol.
Darllenwch fwy yma: