Back
Gofalwyr Di-dâl yn dweud eu dweud am yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi

14/10/22

Mae gofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd wedi rhoi eu barn ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw ac mewn ymateb, mae Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn ymgymryd ag ystod o welliannau i'r cymorth sydd ar gael iddynt. Mae hyn i gynnwys rhoi dwy siarter newydd ar waith a fydd yn cael eu hargymell i'w cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau nesaf, 20 Hydref.

Mae Siarter Gofalwyr Di-dal Caerdydd a'r Fro a'r Siarter Gofalwyr Di-dâl Ifanc yn gosod cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a datblygu cymorth i bob gofalwr di-dâl ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.

Diffinnir gofalwr di-dâl fel unrhyw un sy'n gofalu'n ddi-dâl am ffrind neu aelod o'r teulu, nad yw'n gallu byw'n annibynnol yn y gymuned heb ei gymorth, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth.

Gan gryfhau'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo, bydd y Siarteri'n ceisio gwella cymorth i ofalwyr di-dâl, archwilio a nodi ffyrdd newydd o weithio a chynyddu hygyrchedd at wybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl. Gosodwyd dwy weledigaeth yn sail i'r Siarteri:

Gweledigaeth Gofalwyr Di-dâl- Nodi a chydnabod gofalwyr di-dal am y cyfraniad hollbwysig maent yn ei wneud i'r gymuned a'r bobl maent yn gofalu amdanynt, ac wrth wneud hynny, galluogi gofalwyr di-dâl i gael bywyd law yn llaw â'r gofalu.

Gweledigaeth Gofalwyr Di-dâl Ifanc- Mae gofalwyr ifanc yn bwysig iawn i ni, i'r cymunedau y maen nhw'n byw ynddynt a'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt.  Rydym eisiau gwybod os ydych chi'n gofalu am rywun, fel y gallwn eich helpu chi a'r person rydych chi'n gofalu amdano, a sicrhau bod gennych chi amser i wneud pethau drosoch eich hun.

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion: "Mae Gofalwyr Di-dâl yn gwneud cyfraniad sylweddol i'n cymunedau trwy ddarparu gofal a chefnogaeth i berthnasau, teuluoedd, ffrindiau a chymdogion a gwella ansawdd bywyd y bobl maen nhw'n gofalu amdanynt.

"Gall hyn osgoi neu leihau'r angen am ofal a chefnogaeth fwy ffurfiol sydd nid yn unig yn helpu i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ac sy'n fanteisiol sylweddol i economi Cymru. 

"Mae'n hanfodol felly eu bod yn cael eu cydnabod, eu cefnogi a'u bod yn derbyn y lefel gywir o help fel nad yw eu dyletswyddau gofalu yn cael effaith negyddol ar gydbwysedd eu bywydau gwaith, addysg neu gartref."

Ychwanegodd y Cynghorydd Mackie, "Rydym wedi gwrando ar lais gofalwyr di-dâl a thrwy drafodaethau rheolaidd gyda nhw, mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i ddarparu amrywiaeth o fentrau partneriaeth i wella gwasanaethau a chefnogi eu lles.

"Os caiff eu cymeradwyo, bydd y Siarteri'n ategu'r ymrwymiadau a nodir yn Strategaeth Heneiddio'n Dda y Cyngor a Chynllun Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant, yn ogystal â helpu i wireddu uchelgais Caerdydd o ddod yn Ddinas Sy'n Dda i Blant Pwyllgor UNICEF y DU ac ynlle gwych i dyfu fyny ynddo. Rydym am sicrhau bod ein gofalwyr ifanc yn cael cymorth a chefnogaeth ychwanegol fel nad ydynt yn colli ar gyfleoedd i ddysgu, chwarae a chael hwyl."