Back
Adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd

14/10/22

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd wedi gallu gwneud cynnydd sylweddol, er gwaethaf cynnydd parhaus yn nifer y bobl sydd angen cymorth yn y ddinas a chymhlethdod y problemau maen nhw'n eu hwynebu.

Mae Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol ar gyfer 2021/22 yn rhoi ffocws ar ystod eang o waith sy'n cael ei wneud ar draws y Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Mae'r adroddiad yn cynnwys canlyniadau adroddiad sefydlogrwydd y farchnad ranbarthol sy'n darparu gwybodaeth i gefnogi'r gwaith o nodi blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod ac effaith y cynnydd yn y galw am wasanaethau hyd yn hyn.

Mae uchafbwyntiau'r Gwasanaethau Oedolion yn cynnwys:

  • Cryfhau ein Gwasanaethau Byw'n Annibynnol.
  • Derbyn i Rwydwaith Dinas sy'n Dda i Bobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd.
  • Datblygu Strategaeth Heneiddio'n Dda.
  • Ailagor Canolfannau Dydd.
  • Datblygu Academi Gofalwyr Caerdydd

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion): "Er bod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar gyflymder gweithredu ar ein hamcanion, mae hefyd wedi rhoi cyfle digynsail i ni foderneiddio ein ffordd o weithio ac mae ein cynlluniau adfer yn croesawu'r potensial a gafwyd o fynd ati i ddefnyddio technoleg ddigidol yn gyflym, gan helpu i sicrhau bod dinasyddion yn cael cynnig y gwasanaethau mwyaf effeithlon, effeithiol ac ymatebol y gallwn eu darparu.

"Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud megis cyflwyno'r Strategaeth Heneiddio'n Dda ac mae'n tynnu sylw at y nifer anhygoel o 39,786 o gysylltiadau gyda chyfradd ateb o 96% sydd wedi eu rheoli gan dîm Pwynt Cyswllt Cyntaf y Gwasanaethau Oedolion.

"Mae blaenoriaethau'r flwyddyn i ddod yn cael eu dangos yn yr adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyffredinol, ac mae gweithio mewn partneriaeth a chydgynhyrchu yn egwyddorion allweddol sylfaenol i ni. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch o waelod calon i'n holl bartneriaid - statudol, trydydd sector a gwirfoddolwyr, a hefyd holl staff y Cyngor sydd wedi gweithio'n hynod o galed drwy'r flwyddyn. Mae eu hymroddiad, eu hamynedd a'u proffesiynoldeb parhaus yn cyfrannu'n fawr at sicrhau canlyniadau gwell i'r rhai sydd angen ein help fwyaf."

Mae uchafbwyntiau Gwasanaethau Plant yn cynnwys:

  • Lansio'r Hwb Ymyrraeth ac Adolygu.
  • Dechrau cynllun peilot Cyffuriau ac Alcohol Teuluol.
  • Gweithredu cynllun gwella Cyfiawnder Ieuenctid.
  • Cynyddu defnydd o drefniadau ymhlith perthnasau i gadw plant a phobl ifanc yn agosach at adref

 

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant): "Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â chyflawniadau gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd yn yr hyn a fu'n flwyddyn eithriadol arall. Rydym yn parhau i ail-gydbwyso ein pwysau drwy wella gwasanaethau ataliol a chyflawni ein dyletswyddau statudol mewn cyfnod sy'n newid yn barhaus.

"Mae'r adroddiad yn cyfleu'r gwelliannau a wnaed i'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac mae hefyd yn rhoi sylw i bron i 47,500 o gysylltiadau newydd yr ymatebodd y Gwasanaethau Plant iddynt. Rwyf wedi gweld brwdfrydedd ac angerdd staff ein gwasanaethau cymdeithasol yn bersonol ac rwyf am ddiolch iddynt am eu gwaith anhygoel o galed ac am barhau i helpu i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant."

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed i godi ymwybyddiaeth o ddiogelu ledled yr Awdurdod Lleol, gan sicrhau bod 'diogelu yn fusnes pawb', ac mae'n amlinellu sut mae gweithio mewn partneriaeth yn flaenoriaeth allweddol ar draws yr holl wasanaethau, gan ddarparu cefnogaeth ac ymyriadau integredig fel y gellir gwella canlyniadau. 

Os ydych angen cymorth gan Wasanaethau Cymdeithasol Caerdydd ewch i Gwasanaethau Cymdeithasol a lles (caerdydd.gov.uk)