Back
Rhybudd llwm ynghylch cyllideb Cyngor Caerdydd

14/10/22

Mae rhybudd ariannol llwm wedi'i gyhoeddi gan Gyngor Caerdydd sy'n dweud bod chwyddiant cynyddol wedi golygu bod twll o £53m yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

Y cynnydd posibl mewn costau i ddarparu gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol a gwastraff yw'r uchaf a welwyd erioed gan yr awdurdod lleol mewn cyfnod o un flwyddyn.

Mae'r rhagamcanion newydd wedi gweld ei fwlch yn y gyllideb ar gyfer 2023/24 yn dyblu bron, sy'n golygu y bydd rhaid i'r cyngor nawr ddod o hyd i £53m mewn cynilion ac incwm y flwyddyn nesaf yn hytrach na'r £29m a gyfrifwyd ganddo ym mis Gorffennaf.

Daw'r rhybudd mewn adroddiad diweddariad cyllideb brys a gaiff ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau nesaf, 20 Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:   "Mae hwn yn argyfwng y mae'r sector cyhoeddus cyfan yn ei wynebu, ledled y DU.  Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhybuddio y gallai "miloedd ar filoedd" o swyddi gael eu torri o wasanaethau cyhoeddus pe bai Llywodraeth y DU yn gosod toriadau mawr ar gyllideb Cymru. Oni bai bod cydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU o faint y cynnydd mewn prisiau rydym yn eu hwynebu, bydd cynghorau ar draws Cymru a'r DU yn cael eu gorfodi i dorri gwasanaethau a swyddi lleol.  Ar ôl degawd o gyni a chyda'r pwysau cynyddol ar gyllidebau teuluoedd, mae hyn yn peri pryder mawr.

"Dros y deng mlynedd diwethaf mae'r cyngor hwn eisoes wedi gwneud tua £250m o gynilion. Rydym wedi llwyddo i wneud hyn wrth gynnal gwasanaethau, ond bydd y cynnydd aruthrol mewn costau a'r galw am ein gwasanaethau, sydd wedi tyfu drwy'r pandemig, yn ein gadael yn wynebu rhai penderfyniadau anodd iawn. Bydd angen i ni adolygu popeth a wnawn."

Mae'r rhan fwyaf o gyllideb flynyddol bresennol y cyngor o £744m - tua dwy ran o dair - yn mynd ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae bwlch yn y gyllideb yn cael ei gyfrifo drwy dynnu cyllideb y cyngor (y grantiau y mae'n eu derbyn gan y Llywodraeth a refeniw a gynhyrchir drwy daliadau fel y dreth gyngor a pharcio) o'i wariant a ragwelir ar ddarparu gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd a hybiau, glanhau strydoedd, goleuadau stryd, cynnal a chadw ffyrdd ac ati. Ar hyn o bryd mae Cyngor Caerdydd yn darparu tua 700 o wasanaethau i drigolion ar draws y ddinas.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Mae'r amcangyfrif o fwlch gwerth £53m yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn adlewyrchu'r cyflymiad dramatig mewn chwyddiant, cynnydd mewn cyfradd llog, ac ansicrwydd economaidd cynyddol. Mae'r costau yn codi ond does dim arwydd y bydd yr arian yr ydym yn ei dderbyn gan y Llywodraeth yn cynyddu ddigon i dalu'r costau hyn. Cymerwn ynni fel enghraifft.Y flwyddyn nesaf rydym yn disgwyl cynnydd o fwy na 350% ar gyfer nwy a 150% ar gyfer trydan. Gallai hynny weld ein biliau ynni'n cynyddu gan £15 miliwn yn 2023/24.

"Mae costau bwyd yn saethu i fyny, sy'n golygu y byddparatoi prydau ysgol yn costio tua £1.4m yn fwy i'r cyngor. Mae chwyddiant tanwydd yn effeithio ar y gost o weithredu fflyd cerbydau'r Cyngor, yn fwyaf arbennig wrth reoli gwastraff, ac fe ddaw hyn i gyd ar adeg pan mae'r galw am ein gwasanaethau yn cynyddu'n aruthrol.

"Yn ystod cyfnodau anodd, gwyddom fod nifer o drigolion y ddinas, ac yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, yn troi at y Cyngor am gymorth. Mae hynny'n amlwg eisoes o ystyried y cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n cysylltu â gwasanaeth cynghori'r Cyngor, sydd wedi cynyddu 107% ers mis Ebrill y llynedd.

"Gyda'i gilydd, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau cynyddol yn y galw a chostau cynyddol sy'n arwain at her gyllidebol mor sylweddol ag unrhyw beth a welwyd dros y 10 mlynedd diwethaf."

Mae'r adroddiad a gyflwynir i'r Cabinet yn priodoli'r cynnydd aruthrol yng nghyllideb 2023-24 i nifer o bethau, gan gynnwys:

  • Chwyddiant yn codi a'r effaith y rhagwelir y bydd hyn yn ei gael ar y costau i Gyngor Caerdydd ar gyfer nwyddau; tâl y gweithlu; a chomisiynu gwasanaethau.
  • Galw cynyddol am wasanaethau Cyngor Caerdydd. Y mwyaf arwyddocaol o'r rhain yw'r Gwasanaethau Plant ac Oedolion, nid yn unig o ran niferoedd, ond hefyd o ran cymhlethdod achosion, ac felly'r amser sydd ei angen i'w rheoli'n briodol.
  • Colli incwm a achoswyd gan yr argyfwng costau byw.

Dywedodd y Cynghorydd Weaver:  "Yn y pen draw, bydd angen cau'r rhan fwyaf o'r bwlch yn y gyllideb trwy arbedion cyllidebol. Fel bob amser, gwneir pob ymdrech i barhau i nodi arbedion effeithlonrwydd. Fodd bynnag, gan adeiladu ar lefelau arbedion a ganfuwyd dros y degawd diwethaf, ni fydd modd cydbwyso cyllideb 2023/24 drwy effeithlonrwydd yn unig, ac mae'n anochel y bydd angen arbedion a fydd yn effeithio ar ein gwasanaethau. Ar hyn o bryd mae cyfarwyddiaethau'r cyngor yn llunio opsiynau newid gwasanaethau i'w hadolygu. Byddwn yn ymgynghori gyda thrigolion ar newidiadau tebygol a thoriadau posib cyn gosod y gyllideb yn gynnar y flwyddyn nesaf."

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar y gyllideb  yma.