Back
Pa mor dda mae eich cyngor yn gweithio i chi? Adroddiad blynyddol yn gwerthuso perfformiad

14/10/22

Caiff rhaglen uchelgeisiol Cyngor Caerdydd i greu prifddinas gryfach, decach a gwyrddach ei gwerthuso mewn adroddiad newydd sy'n sgorio'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan yr awdurdod.

Diben yr adroddiad yw asesu'n onest waith y Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae'n defnyddio adborth gan drigolion, y swyddogaeth graffu ac archwilwyr y llywodraeth i sicrhau bod adolygiad y Cyngor o berfformiad yn deg ac yn gytbwys.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Ein huchelgais yw gwneud Caerdydd yn brifddinas werddach, decach, a chryfach. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i ni ganolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus gorau y gallwn.

"Mae'r adroddiad hwn yn cynnig mesur pwysig o'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud wrth wireddu ein huchelgeisiau. Mae'r dyfarniadau a wnaed ynddo hefyd wedi ystyried llywodraethiant gwleidyddol ehangach y Cyngor, a'n trigolion a hynny'n gwbl briodol."

Ystyrir asesiad y Cyngor o'i berfformiad gan Banel Perfformiad yr awdurdod, sy'n dwyn ynghyd holl Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu, y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a'r Cyngor ochr yn ochr ag arolygon trigolion er mwyn sicrhau asesiad cytbwys o berfformiad.

Mae'r adroddiad yn dangos bod y Cyngor wedi gwella safonau addysgol; cyflwyno'r rhaglen datblygu tai cyngor fwyaf yng Nghymru; creu dros 1,000 o swyddi newydd a diogelu dros 900 o swyddi yn yr economi leol y llynedd; lleihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd; a gweithio ar brosiectau ar y newid yn yr hinsawdd drwy strategaeth Caerdydd Un Blaned.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Roeddwn yn falch o'r hyn y mae'r Cyngor hwn wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf, yn bennaf yng nghyd-destun yr argyfwng iechyd y cyhoedd byd-eang. Gwnaethon ni ddarparu addysg dda i blant yng Nghaerdydd - sydd wedi'i gydnabod yn glir gan Estyn yn eu hadroddiad diweddaraf - a gwnaethon ni fuddsoddi symiau sylweddol mewn adeiladu ysgolion newydd a gwella'r ystâd ysgolion.

"Hefyd, gwnaethon ni gyflwyno'r rhaglen datblygu tai fwyaf yng Nghymru, ac rydym yn bwriadu adeiladu hyd yn oed mwy o dai cyngor newydd yn y blynyddoedd i ddod. Rydym wedi lleihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn aruthrol ac mae arwyddion o adferiad economaidd wedi'r pandemig hefyd. Gwnaeth y Cyngor greu dros 1,000 o swyddi newydd a diogelu dros 900 o swyddi y llynedd, mae nifer y bobl sy'n ymweld â chanol y ddinas yn dychwelyd i'r arfer ac mae digwyddiadau mawr - nodwedd o fywyd yng Nghaerdydd - yn cael eu cynnal eto.

"Mae'r broses o ddiwygio'r gwasanaethau gwastraff wedi cael ei symud ymlaen drwy weithredu'r wythnos waith pedwar diwrnod ac mae'r treial ailgylchu wedi'i wahanu'n nodi ffordd ymlaen - mae halogi wedi gostwng o 30% i 6% yn seiliedig ar y dadansoddiad cychwynnol.

"Mae camau mawr wedi cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd drwy strategaeth Caerdydd Un Blaned. Mae gwaith gwerth £61m wedi cael ei gyflawni i wella trafnidiaeth gynaliadwy, mae prosiect Fferm Solar Ffordd Lamby wedi cael ei gwblhau, ac mae'r gwaith o adeiladu'r Rhwydwaith Gwres wedi dechrau.

"Wedi dweud hynny oll, rydym yn cydnabod y meysydd sydd angen eu gwella ac mae rhai heriau mawr o'n blaenau a ddaw yn sgil yr argyfwng costau byw a fydd yn effeithio'n fawr ar gyllideb y Cyngor. Rwy'n glir bod system perfformiad dda yn un sy'n ein galluogi i gydnabod lle mae cynnydd yn cael ei wneud ac i nodi meysydd lle mae angen ymyrraeth i fynd i'r afael â meysydd heriol. Dyna'n union y mae'r adroddiad hwn yn ei wneud drwy gynnig asesiad teg a chytbwys y gellir seilio cynllunio yn y dyfodol arno."

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyfres o risgiau sy'n wynebu'r Cyngor wrth symud ymlaen, gan gynnwys:

  • Sut y bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar gyllideb y Cyngor
  • Y cynnydd yn y galw am wasanaethau plant ac oedolion, a
  • Bwrw targedau Llywodraeth Cymru o ran ailgylchu.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu blwyddyn ariannol 2021/22, ers hynny mae nifer o heriau newydd wedi gwaethygu'n sylweddol. Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi sbarduno sioc economaidd fyd-eang - yn fwyaf arbennig gyda phris nwy - a fydd yn effeithio'n fawr ar gyllideb y Cyngor.

"Bydd yr argyfwng costau byw, sy'n dod mor fuan ar ôl yr argyfwng iechyd y cyhoedd, yn rhoi pwysau difesur ar aelwydydd, yn enwedig y rheiny ar incymau isel. Byddan nhw'n troi at y Cyngor i gael cymorth. Mae hefyd broblemau system sylweddol yr ydym yn delio â nhw. Mae nifer y lleoliadau sydd ar gael i blant sy'n derbyn gofal a gallu ysbytai i ryddhau cleifion yn cyflwyno heriau enfawr i'r gwasanaethau cyhoeddus nad oeddent i'w gweld yn llawn yn ystod y cyfnod dan sylw yn yr adroddiad hwn.

"Nid yw ein cyfraddau ailgylchu lle'r ydym am iddynt fod, fodd bynnag, mae'r sefyllfa ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol hon yn uwch na 64% sy'n awgrymu bod ein hymyriadau yn dechrau cydio. Bydd yn rhaid i drigolion ledled y ddinas weithio gyda ni er mwyn gwella cyfraddau ailgylchu a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ni allwn ei wneud ar ein pennau ein hunain. Rydym yn gwybod bod gennym ni gyfnod heriol iawn o'n blaenau ac mae'n ymddangos bod yr arwyddion i gyd yn pwyntio tuag at fwy o doriadau yn y sector cyhoeddus, mwy o lymder a mwy o ddifrod i wasanaethau.

"Fodd bynnag, rwyf am gofnodi fy niolch i bawb ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus sydd wedi gwneud eu gorau glas drwy gydol y pandemig i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Athrawon a gweithwyr ysgol, gweithwyr sbwriel, gwasanaethau cymdeithasol a gofalwyr, timau pryd ar glud, pawb sy'n rhoi eu hunain ar y rheng flaen bob dydd. Rwyf hefyd am ddiolch i bob gweithiwr y Cyngor sydd wedi chwarae ei ran wrth gadw gwasanaethau i redeg fel rhan o ymdrech anhygoel i gadw ein dinas yn ddiogel drwy gydol y pandemig. Mae'n syfrdanol meddwl ein bod newydd ddod trwy'r digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth hwn dim ond nawr i wynebu argyfwng costau byw. Fy addewid i drigolion yw y bydd eich Cyngor yma i'ch helpu drwy hynny ym mhob ffordd y gall, yn union fel yr oedd yma i chi drwy'r pandemig."

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried Adroddiad Lles Blynyddol 2021/22 ar 20 Hydref cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn ar 27 Hydref i gael ei gymeradwyo.

Mae Adroddiad Lles Blynyddol 2021/22 yma.

 

10 ffaith o Adroddiad Lles Blynyddol 2021-22

Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi adroddiad lles statudol.

Mae'n llawn ffeithiau a ffigurau am y gwasanaethau a ddarparwn - dyma 10 ohonynt, i roi syniad i chi o'r hyn y byddwch yn ei weld yn yr adroddiad.

Fel rhan o raglen gwerth £1 biliwn dan arweiniad y Cyngor i adeiladu 4,000 o gartrefi dros ddeng mlynedd, mae 683 o'r 1,000 o gartrefi cyntaf bellach wedi cael eu hadeiladu, gyda 131 yn cael eu cwblhau yn 2021/22.

Mae 15 o barciau a mannau gwyrdd y Cyngor wedi ennill statws llawn y Faner Werdd.

Fel rhan o Strategaeth Caerdydd Un Blaned Caerdydd, cafodd 20,000 o goed eu plannu ledled y ddinas yn 2021/22.

Yn 2021/22, mae dros £2.5m wedi cael ei fuddsoddi mewn ardaloedd chwarae ac isadeiledd parciau.

Mae'r Cyngor wedi ehangu ei fflyd cerbydau trydan i 70 o gerbydau ac wedi darparu 59 o unedau gwefru cerbydau trydan. Mae 36 o fysus trydan bellach ar ein ffyrdd wedi cwblhau'r Cynllun Ôl-ffitio Bysus.

Cyhoeddwyd adroddiad 2021 Estyn ym mis Chwefror 2022 a nodwyd ynddo welliant parhaus yn ansawdd ac effeithiolrwydd y Gwasanaethau Addysg yng Nghaerdydd.

Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi parhau'n isel, ac mae'r ffigyrau a gofnodwyd mor isel ag 11 yn ystod 2021/22 ac yn gyson is na 25, o gymharu â 130 cyn Covid.

Mae'r Cyngor wedi ail-adeiladu 112 o ffyrdd ac wedi ail-wynebu, trin arwyneb neu ail-adeiladu 46 o droedffyrdd, sy'n cynnwys cyfanswm o tua 190,000 metr sgwâr o arwyneb wedi'i drin.

Yn ystod 2021/22, chwaraeodd y Cyngor rôl weithredol yn y broses o greu 1,190 o swyddi newydd a diogelu 912 o swyddi o fewn yr economi leol.

Caerdydd oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i sicrhau aelodaeth o Rwydwaith Byd-eang Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

Mae'r adroddiad llawn  yma.