Back
Cae chwaraeon yn rhoi hwb i Sblot

11/10/22

Disgwylir i waith ddechrau ar adeiladu cae pêl-droed 3G newydd ym Mharc Sblot.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Raglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau’r Cyngor a chynigiwyd gan aeloda lleol yn yr ardal i ddarparu cyfleuster gydol blwyddyn at ddefnydd y gymuned leol.

Dan reolaeth Clwb Pêl-droed Sblot Albion, bydd gan y cae arwyneb synthetig pob tywydd newydd â ffens perimedr 5m o uchder, llifoleuadau a mynediad diogel a fydd, ar ôl ei gwblhau, ar gael i’w ddefnyddio am ddim gan y clybiau pêl-droed iau lleol, yn ogystal ag i’w llogi’n breifat gan dimau chwaraeon eraill.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  “Mae ein Rhaglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau yn helpu i wella cymdogaethau ar draws y ddinas trwy ddarparu cyfleusterau neu welliannau sy’n creu lleoedd gwell i bobl fyw, gweithio a chwarae.   Mae’r cae 3G newydd hwn ym Mharc Sblot yn enghraifft wych a bydd yn ased gwerthfawr i glybiau lleol ar ôl ei gwblhau trwy drawsnewid yr hyn sydd yno ar hyn o bryd – ardal chwarae pêl-fasged nad oes fawr o ddefnydd arni.”


Bwriedir i’r gwaith ddechrau ar y cynllun ddydd Llun, 17 Hydref a disgwylir iddo bara am ryw 18 wythnos. Cyfyngir ar fynediad i’r llwybr ar hyd y cae bowlio a’r ardal bêl-fasged bresennol yn ystod y cyfnod adeiladu, ond caiff mynediad llawn i’r parc sglefrio a’r AChA ei gynnal.

Bydd y Cyngor a’r prif gontractwr Centregreat yn ceisio lleihau tarfu ar y gymuned leol cymaint â phosibl yn ystod y gwaith.