Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 07 Hydref 2022

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cwmpasu: diweddarwyd cau ffyrdd ar gyfer Supercross yn Stadiwm Principality yfory, 8 Hydref; y diweddaraf am Barc Grangemoor; a cyhoeddi sefydliadau cyntaf i gwblhau Siarter Teithio Iach Caerdydd.

 

Diweddarwyd cau ffyrdd ar gyfer Supercross yn Stadiwm Principality yfory, 8 Hydref

Gyda rownd gyntaf Pencampwriaethau Supercross FIM yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality ar 8 Hydref, o 2pm, bydd Heol y Porth, Stryd Wood a Heol Eglwys Fair Isaf ar gau i gerbydau modur, gyda Stryd Wood yn ailagor am 10pm, ond Heol Eglwys Fair Isaf yn aros ar gau ar gyfer economi'r nos.

Cau ffyrdd

Gyda gatiau Stadiwm Principality yn agor am 3.30pm ar gyfer y digwyddiad a ddaw i ben am 9pm, bydd Heol y Porth, Stryd Wood, Heol Eglwys Fair, Stryd Tudor a Stryd Despenser (gan ganiatáu mynediad yn unig) ar gau'n gyfan gwbl rhwng 2pm a 10pm.

Rheolir mynediad i'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30042.html

 

Y diweddaraf am Barc Grangemoor

Mae disgwyl i Barc Grangemoor ailagor i'r cyhoedd yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 19 Rhagfyr.

Cafodd yr ardal ei chau i'r cyhoedd er mwyn gallu gwneud gwaith diogelwch ar yr hen safle tirlenwi o dan Barc Grangemoor.

Mae'r llwybrau a'r fynedfa i'r parc hefyd wedi'u huwchraddio ar gyfer defnyddwyr y parc ac i sicrhau bod modd i'r Cyngor fynd at y seilwaith critigol ar y safle a'i gynnal a'i gadw'n hawdd.

Oherwydd y tymor nythu, bu'n rhaid gohirio rhywfaint o'r gwaith arfaethedig eleni, ond mae'r gwaith hwn yn mynd yn ei flaen yn dda erbyn hyn a dylai'r parc gael ei ailagor erbyn y Nadolig. Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac ymgynghorwyr arbenigol yn gweithio gyda'r Cyngor trwy gydol y prosiect i sicrhau bod yr holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol yn cael ei dilyn.

 

Cyhoeddi sefydliadau cyntaf i gwblhau Siarter Teithio Iach Caerdydd

Cyhoeddwyd y saith sefydliad cyntaf i gwblhau'r camau yn Siarter Teithio Iach Caerdydd mewn digwyddiad yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ddydd Mercher 6 Hydref.

Cafodd y sefydliadau eu llongyfarch ar sefydlu'r 14 ymrwymiad yn llwyddiannus sy'n cefnogi eu staff a'u hymwelwyr i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, er gwaethaf yr holl heriau a wynebwyd dros y 3 blynedd ddiwethaf.

Cafodd Siarter Teithio Iach Caerdydd ei lansio yn 2019.  Trwy gefnogi staff i deithio'n fwy cynaliadwy, mae sefydliadau sy'n cofrestru yn helpu i wella iechyd a lles staff, i leihau llygredd aer, ac i leihau allyriadau carbon.

Mae teithio'n gynaliadwy yn aml yn rhatach na defnyddio car hefyd, felly gall fod yn help ychwanegol yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.

Mae'r Siarter yn eistedd ochr yn ochr â chyfres o ymyriadau eraill sy'n cael eu rhoi ar waith yng Nghaerdydd i wneud teithio'n iach yn opsiwn hawdd, megis gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys Metro De Cymru, buddsoddi mewn llwybrau beicio sydd wedi'u gwahanu o ansawdd uchel, ac ehangu parthau 20mya.

Dywedodd Dr Tom Porter, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus yng Nghaerdydd a'r Fro, ac arweinydd Teithio Iach Cymru "Gyda thystiolaeth newydd yn dod i'r amlwg bob dydd o ddifrifoldeb y newid yn yr hinsawdd, a'r brys y mae angen i ni weithredu ag ef, mae'n ddyletswydd arnom i gyd i leihau ein hallyriadau carbon. Ochr yn ochr â'r manteision i'n hiechyd a'n hansawdd aer ein hunain, mae rhoi'r gorau i'r car er mwyn cerdded, beicio neu gymryd trafnidiaeth gyhoeddus, yn un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud. Hyd yn oed os mai dim ond un diwrnod yr wythnos ydyw i ddechrau, mae popeth yn helpu. Drwy ei gwneud yn haws i staff ac ymwelwyr ddechrau cyfnewid, mae'r sefydliadau a gyhoeddwyd heddiw yn arwain y ffordd."

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, "Mae camau enfawr wedi eu cymryd dros y tair blynedd diwethaf i ymsefydlu teithio llesol yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd a'i gwneud hi'n haws i staff newid i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithio sy'n gysylltiedig â'r gwaith. Mae'n rhaid i'r gwaith hanfodol hwnnw barhau a bydd yn parhau. Trafnidiaeth sy'n gyfrifol am 41% o allyriadau carbon Caerdydd, ond eto fe allai hanner yr holl deithiau o fewn y ddinas gael eu beicio'n gyfforddus mewn 20 munud neu lai, gyda buddiannau sylweddol i iechyd pobl a'r blaned." 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30046.html