Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 4 Hydref 2022

04/10/22


Dyma'r diweddaraf gan Gyngor Caerdydd gan gynnwys:
Gwefrwyr cerbydau trydan newydd yn cael eu gosod yng Nghaerdydd, digwyddiad arloesol i ysgol gynradd newydd datblygiad Plasdŵr a'r traffig a chyngor ar deithio i'r digwyddiad motorcross yn Stadiwm Principality ar ddydd Sul 8 Hydref a phrydau Ysgol am ddim i bob plentyn yn y flwyddyn derbyn.

Gwefrwyr Cerbydau Trydan newydd wedi'u gosod yng Nghaerdydd

Mae 24 pwynt gwefru newydd yn cael eu gosod yng Nghaerdydd i'w gwneud hi'n haws i breswylwyr newid i gerbydau trydan.

Mae'r gwefrwyr newydd yn cael eu hariannu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac maent yn cael eu gosod mewn 12 lleoliad gan ganolbwyntio ar feysydd parcio cyhoeddus, yn agos at ganolfannau siopa, parciau a hybiau cymunedol. Pan fydd y gwaith gosod wedi'i gwblhau bydd mwy na 70 o gyfleoedd gwefru ar gael i'r cyhoedd ar dir neu briffyrdd sy'n eiddo i'r cyngor yn y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd: "Mae gosod gwefrwyr mewn lleoliadau allweddol yn helpu perchnogion Cerbydau Trydan presennol i lenwi eu lefelau gwefru wrth fynd, tra'u bod yn ymweld â chyfleusterau cymunedol, siopau neu'r gwaith ac gall alluogi pobl na all eu cartrefi ddarparu ar gyfer gwefrwyr oddi ar y stryd i wneud y newid i ffwrdd o betrol neu ddisel, lleihau allyriadau carbon a helpu i wneud ein haer yn lanach.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30011.html

 

Gwaith yn dechrau ar ysgol newydd wedi ei leoli yn natblygiad Plasdŵr Caerdydd

 

Mae digwyddiad torri tir seremonïol wedi cael ei gynnal i ddathlu adeiladu ysgol gynradd newydd i'w lleoli yn natblygiad Plasdŵr Caerdydd.

Ysgol Gynradd Groes-wen Primary School yw'r enw a ddewiswyd ar gyfer yr ysgol gynradd gwerth £9 miliwn o bobl ifanc sydd yn cael ei hadeiladu ar dir i'r de o Heol Llantrisant. Dyma'r ail ysgol gynradd i'w darparu fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd (CDLl), a bydd yn gwasanaethu ardaloedd yng ngogledd-orllewin Caerdydd, yn ymestyn dros rannau o Greigiau, Sain Ffagan, Radur, Pentrepoeth a'r Tyllgoed.

Torrwyd y ddaeargan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, Aelod Cabinet Caerdydd dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, Darpar BennaethRichard Carbis a Chadeirydd Dros Dro Llywodraethwyr yr ysgol, Daniel Tiplady

Ymunodd cynrychiolwyr Andrew Scott Ltd, Redrow ac aelodau ward lleol â nhw. 

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30013.html

 

Cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer Supercross yn Stadiwm Principality ar 8 Hydref

Gyda rownd gyntaf Pencampwriaethau Supercross FIM yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality ar 8 Hydref, bydd Heol y Porth yng nghanol y ddinas ar gau rhwng 3pm a 10pm ar 8 Hydref i ganiatáu i'r rhai sy'n mynychu'r digwyddiad fynd i mewn a gadael y stadiwm yn ddiogel.

Cau ffyrdd

Gyda gatiau Stadiwm Principality yn agor am 3.30pm ar gyfer y digwyddiad a daw i ben am 9pm, bydd Heol y Porth ar gau'n gyfan gwbl rhwng 3pm a 10pm.

Rheolir mynediad i'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29971.html

 

Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn yn y flwyddyn derbyn - Hawliwch yr hyn sy'n perthyn i chi!

Ers dechrau'r tymor ysgol newydd, mae dosbarthiadau cyfan o blant oed derbyn wedi bod yn mwynhau prydau ysgol am ddim fel rhan o gynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru. Mae dros 1900 o deuluoedd wedi manteisio ar y cynnig hyd yn hyn, a bydd llawer mwy o deuluoedd yn gallu gwneud hynny.   

I sicrhau nad yw plant derbyn yn colli allan ar eu Prydau Ysgol Am Ddim, dylai teuluoedd fewngofnodi i'w cyfrif ParentPay i archebu ymlaen llaw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ymawww.parentpay.com

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30025.html