Back
Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn ennill dwy wobr genedlaethol am y trydydd tro

Mae tîm Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd wedi ennill gwobr sy'n cydnabod rhagoriaeth gwasanaethau cyhoeddus, a gwobr Mynwent y Flwyddyn - y ddwy am y trydydd tro.

Enillodd y tîm Dîm Gwasanaeth Gorau'r Flwyddyn yng nghategori Mynwent ac Amlosgfa gwobrau blynyddol y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n dathlu'r gorau mewn gwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol ledled y DU.

Mewn gwobr ar wahân, enwyd Mynwent Draenen Pen-y-graig yn Fynwent y Flwyddyn 2022, yn y categori tir claddu mawr.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:   "Mae ein tîm Gwasanaethau Profedigaeth yn wirioneddol falch o ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl ar adeg sy'n gallu bod yn hynod o anodd ym mywydau pobl. Mae ennill y ddwy wobr yma, nid unwaith yn unig, ond am y trydydd tro, yn dyst i'w hymrwymiad parhaus, proffesiynoldeb a'u gwaith caled."

Cyn hynny enillodd y tîm y gwobrau yn 2016 a 2019.