Gydag ychydig dros 12 wythnos i fynd tan fod Siôn Corn yn galw eto, mae'r Nadolig wir yn nesáu.
Dyma ragflas o rai o'r atgofion hudolus y gallwch eu gwneud yng Nghaerdydd y Nadolig hwn.
1. Sglefrio iâ ar dir Castell.
Mae Llawr Sglefrio a Llwybr Iâ Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn dychwelyd i diroedd prydferth Castell Caerdydd eleni. O sglefrio rhamantus gyda'r machlud, gyda'r Gorthwr Normanaidd yn gefnlen ddramatig, i ddiwrnod o hwyl i'r teulu (gyda nythfa o bengwin-gynorthwywyr i westeion llai), mae'r rinc dan do yn addas ar gyfer pawb o bob oedran a gallu.
Digwyddiad tocyn: 15 Tachwedd i 8 Ionawr
2. Taith gerdded ryfeddol drwy 'Geunant y Goleuadau' gyda mil o sêr swynol.
Mae llwybr goleuadau Y Nadolig ym Mharc Bute, sydd wedi ennill gwobrau, yn ôl am ei ail flwyddyn gyda llu o olygfeydd newydd. Bydd y llwybr hudolus 1.4km o hyd yn mynd ag ymwelwyr ar 'daith laser hypnotig,' gan gynnwys profiad peli golau epig ac 'awyr hylifol,' ac mae'n addo bod yn brofiad bythgofiadwy i'r teulu cyfan ei fwynhau.
Digwyddiad tocyn: 24 Tachwedd i 1 Ionawr
3. Gwisgo'n gynnes a dewis yr anrheg berffaith i anwyliaid yn y Farchnad Nadolig draddodiadol.
Mae Marchnad Nadolig Caerdydd yn gartref i emwaith arian unigryw, gwaith celf gwreiddiol, gwaith gwydr tawdd hardd, cerameg wedi'i thaflu â llaw, cwiltiau a thecstilau wedi'u gwneud â llaw, bwyd a diod tymhorol, a llawer mwy. Sgwrsiwch â'r gwneuthurwyr talentog a mwynhewch awyrgylch unigryw'r ŵyl wrth i chi grwydro drwy'r chalets pren traddodiadol.
10 Tachwedd i 23 Rhagfyr
4. Mwynhau ym mar mwyaf cŵl y ddinas.
Draw ar Lawntiau Neuadd y Ddinas, yng nghanol holl hwyl y ffair, mae'r tymereddau is-sero yn y Bar Barrug yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd yn golygu mai hwn yw'r lle mwyaf cŵl i ymlacio'r Nadolig hwn. Mae wedi ei wneud yn gyfan gwbl allan o iâ, felly gwisgwch yn gynnes i fwynhau diod gyda'ch ffrindiau!
Digwyddiad tocyn: 15 Tachwedd i 8 Ionawr
5. Profi hud a hiraeth sioe Spiegeltent.
Mae tair sioe anhygoel -Santa's Wish, CastellanaaThe Nutcracker- yn dod i diroedd Castell Caerdydd mewn Spiegeltent Ewropeaidd odidog. Wedi'u hadeiladu o bren, drychau, cynfas a gwydr plwm a'u haddurno mewn brocêd melfed, Spiegletents oedd y prif atyniad yn ffeiriau Gwlad Belg ‘slawer dydd ac eleni bydd sioeau'r ŵyl yn y Spiegeltent yn sgubo ymwelwyr i ffwrdd i fyd hiraethus a hudolus.
Digwyddiad tocyn: 25 Tachwedd i 8 Ionawr
6. Gwylio Goleuadau'r Nadolig yn disgleirio.
Ddydd Mawrth 15 Tachwedd, wrth iddi nosi, bydd canol dinas Caerdydd yn disgleirio wrth i oleuadau Nadolig hyfryd y ddinas gael eu cynnau am y tro cyntaf, gan nodi dechrau Nadolig Caerdydd.
7. Mynd am dro drwy'r Arcedau Fictoraidd cain.
Roedd pobl Oes Fictoria yn deall y Nadolig i'r dim, ac mae Arcedau Fictoraidd Caerdydd yn driw i'r traddodiad. Wedi'u haddurno'n ar gyfer yr ŵyl, mae 'na hud syml i grwydro drwy'r ddrysfa o arcedau, a stopio am goffi neu damaid o fwyd yn un o'r nifer o gaffis a bwytai annibynnol y byddwch yn eu darganfod rhwng y siopau bwtîc.
8. Swatio'n glyd mewn caban ym Maes yr Ŵyl.
Rhwng prynu anrhegion i'ch ffrindiau a'ch teulu, beth am sbwylio'ch hunan y Nadolig hwn? Yn hafan Fafaraidd atmosfferig, Maes yr Ŵyl yw'r lle perffaith i ymlacio gyda chwrw a bratwurst a chael ail wynt cyn y rownd nesaf o siopa Nadolig.
Dyddiadau: 10 Tachwedd i 24 Rhagfyr
9. Cwrdd â Siôn Corn mewn Groto Nadolig gwych.
Ni fyddai'r Nadolig yn gyflawn heb gyfle i gwrdd â Siôn Corn, ac eleni mae Canolfan Dewi Sant yn cynnal 'Credwch', profiad newydd sbon sy'n gwahodd teuluoedd i ddarganfod hud a lledrith yr ŵyl. Gall y plantos edrych ymlaen at gwrdd ag ApJingl a Carnau - un o gorachod mwyaf dibynadwy Siôn Corn a'i garw hud - gwneud 'bwyd ceirw' yn barod ar gyfer Noswyl Nadolig, ac yna cwrdd â'r dyn ei hun.
Digwyddiad tocyn: 25 Tachwedd i 24 Rhagfyr
10. Mwynhau noson allan Nadoligaidd gyda ffrindiau a theulu.
Mae'r Nadolig i gyd am deulu a ffrindiau, a pha ffordd well o'i ddathlu na gyda noson allan dda? Mae gwledd ar gael yng Nghaerdydd - beth am roi cynnig ar bryd Nadoligaidd â thwist Sri Lankaidd yn y Coconut Tree? Cofleidiwch draddodiad gyda'r holl drimins yn y Pontcanna Inn, neu rhowch gynnig ar brydau gwych Daffodil, sy'n hyrwyddo cynnyrch Cymreig, efallai gyda glasied o win o'u rhestr gynhwysfawr - mae'n Nadolig, wedi'r cyfan.
11. Profi Panto traddodiadol neu ryfeddu at hud y ballet.
"O ydy mae e" yn draddodiad Nadolig, ac os ydych chi awydd rhywbeth clasurol, allwch chi ddim curo Snow White and the Seven Dwarves yn y Theatr Newydd hanesyddol. Ac ar bwnc y clasuron, bydd Neuadd Dewi Sant yn cynnal perfformiadau o Swan Lake, Copéllia, a'r Nutcracker... ond os am dorri gyda thraddodiad, gwnewch hynny mewn steil gyda sioe yng Nghanolfan Mileniwm eiconig Caerdydd lle mae 'Les Misérables,' un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y byd, yn cael ei hail-lwyfannu ar gyfer yr 21ain ganrif.
Digwyddiad tocyn: Snow White and the Seven Dwarves10 Rhagfyr i 8 Ionawr / Ballets Neuadd Dewi Sant 17 Rhagfyr i 31 Rhagfyr / Les Misérables 13 Rhagfyr i 14 Ionawr.
12. Dyblu'r hwyl drwy aros dros nos.
Mae gormod i'w wneud mewn dim ond un diwrnod yng Nghaerdydd y Nadolig hwn, felly beth am wneud noson ohoni ac aros dros nos yn un o westai'r brifddinas? O rywle modern, ffasiynol yng nghanol dinas brysur i foethusrwydd hamddenol gwesty sba neu noson yn ardal hanesyddol Bae Caerdydd, rydych chi'n siŵr o ddeffro'n barod am fwy o hwyl yr ŵyl!
I gael rhagor o wybodaeth am Nadolig Caerdydd, ewch i: www.croesocaerdydd.com/nadolig