Back
Darpariaeth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chymhleth

29/9/2022

Bydd plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion dysgu ychwanegol a chymhleth yn elwa o ddarpariaeth gynyddol ar draws y ddinas, yn dilyn adolygiad o'r sector a argymhellodd sefydlu lleoedd ychwanegol. 

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar y cynlluniau fydd â’r nod o geisio ateb y galw cynyddol am leoedd mewn Canolfanau Adnoddau Arbenigol ac Ysgolion Arbennig ar gyfer dysgwyr cynradd, uwchradd ac ôl-16 oed sydd ag anghenion dysgu cymhleth ac awtistiaeth.

Mae’r rhain yn cynnwys: 

·   Cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig Meadowbank o 40 i 98 o fis Medi 2022.

·         Cynyddu’r nifer dynodedig yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Gynradd Marlborough i blant ag anghenion dysgu difrifol a chymhleth o 20 i 30 lle o fis Medi 2022.

·    Cynyddu'r nifer dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Springwood ar gyfer dysgwyr â Chyflwr Sbectrwm Awtistig o 20 i 28 lle o fis Medi 2022.

·   Er mwyn galluogi'r Cabinet i ystyried y cynnig gan Gorff Llywodraethol Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf i: Gynyddu nifer dynodedig y lleoedd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Canolfan Marion o 42 i 66 lle o fis Medi 2022.

·      I nodi cyhoeddi hysbysiad statudol ynghlwm â chynigion a gyhoeddwyd gan Gorff Llywodraethol Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd i ehangu ei Chanolfan Adnoddau Arbenigol o 70 i 100 o leoedd o fis Medi 2022, ac i benderfynu ar y cynnig yn y dyfodol.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau’r Cyngor, “Mae lefel y cymorth, y sgiliau a'r cyfleusterau sydd ar gael mewn ysgolion wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n golygu eu bod wedi dod yn fwy cynhwysol ac yn gallu diwallu’n effeithiol anghenion y disgyblion hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

“Fodd bynnag, mae twf poblogaeth disgyblion a chymhlethdod cynyddol anghenion rhai dysgwyr wedi golygu bod y gofyniad am ddarpariaeth arbenigol wedi cynyddu. Rydym yn gobeithio cynyddu'n sylweddol nifer y llefydd sydd ar gael i ddisgyblion yn ogystal â gwella safon y cyfleusterau ar draws y ddinas.

"Ein nod yw galluogi ysgolion i wella'u capasiti, fel y gallant fod yn gynhwysol o bob disgybl, ac y gellir cyflwyno cwricwlwm arloesol gan dalu sylw o ran hygyrchedd i iechyd a lles ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a chymhleth."

Mae’r adroddiad yn egluro’r rhesymau dros y cynnydd yn y galw am ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig yng Nghaerdydd, gan gynnwys cynnydd o ran amlder ac adnabod anghenion penodol, fel Anghenion Dysgu Cymhleth gan gynnwys Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth.

Gan nad oes digon o leoedd ysgol arbennig yng Nghaerdydd i ateb y galw, bu'r Cyngor hefyd yn ariannu rhai lleoedd ysgolion arbennig yn ardaloedd Cynghorau eraill neu mewn ysgolion annibynnol.

Codwyd un gwrthwynebiad i'r cynigion yn ymwneud â'r nifer dynodedig uwch yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Canolfan Marion, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf.  Roedd hyn yn ymwneud â'r effaith y gallai llefydd ychwanegol ei gael ar draffig a pharcio yn yr ardal. 

Dywed yr adroddiad fod yr ysgol yn gweithio gyda'r Cyngor ar gyfres o fesurau lliniaru i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau tagfeydd cynyddol.