23/9/2022
Mae arolygwyr wedi disgrifio ysgol gynradd yng Nghaerdydd fel "cymuned ofalgar a chynhwysol sy'n gwerthfawrogi'r holl ddisgyblion ac oedolion".
Yn ei adroddiad diweddaraf, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, dywedodd tîm o Estyn - sy'n monitro addysg a hyfforddiant yng Nghymru - fod Ysgol Gynradd Llanedern yn rhoi pwyslais cryf ar ei gwerthoedd craidd a bod hyn yn cael dylanwad cadarnhaol ar agweddau ac ymddygiadau disgyblion.
Ond ar y cyfan, dywedodd yr adroddiad bod angen "gwelliant sylweddol" ar yr ysgol ac mae wedi gwneud cyfres o argymhellion i arweinwyr yr ysgol eu dilyn, gan gynnwys:
Ar adeg yr arolygiad, roedd gan yr ysgol 435 o ddisgyblion, gyda bron i 40% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Roedd gan fwy na 22% anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac nid Saesneg oedd iaith gyntaf bron i 20% ohonynt.
Yn ôl yr adroddiad mae'r ysgol yn lle hapus, cynhwysol, ac yn rhoi blaenoriaeth uchel i les ei disgyblion. Maen nhw'n dangos lefelau addas o ddiddordeb yn eu gwersi, ac mae'r rhan fwyaf yn gwneud cynnydd da yn eu sgiliau siarad, gwrando ac ysgrifennu.
Ond, ychwanegodd: "Nid yw disgyblion bob amser yn gwneud cynnydd effeithiol yn eu sgiliau darllen neu rifedd. Nid yw targedau unigol disgyblion ag ADY bob amser yn ddigon clir ac mae lleiafrif nad ydynt yn cael eu hadolygu'n ddigon effeithiol."
Mae gwefan yr ysgol yn dweud ei bod yn rhoi pwyslais mawr ar sgiliau siarad a chanfu'r arolygiad fod y rhan fwyaf o'r disgyblion yn gwneud cynnydd da yn y maes hwn. "Yn uwch i fyny'r ysgol," dywed yr adroddiad, "mae llawer o ddisgyblion yn cyfathrebu'n glir ac yn amrywio eu tôn a'u hiaith ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
"Maen nhw'n egluro'r hyn sydd arf eu meddwl gan ddefnyddio geirfa sy'n benodol i'r pwnc ac yn defnyddio ystod anturus o ansoddeiriau."
Mae pwyslais cryf hefyd ar ddarparu teithiau i ehangu profiadau disgyblion. Ymhlith y safleoedd yr ymwelwyd â nhw roedd Palas Hampton Court, lloches i fwncïod, Castell Caerdydd, amgueddfa Big Pit a'r Eisteddfod, ac fe wnaeth côr yr ysgol - sy'n ymarfer ddwywaith yr wythnos - gymryd rhan yng Ngŵyl Voice in a Million yn Stadiwm Wembley.
Nododd yr adroddiad fod addysgu disgyblion iau yn aml yn cael ei gyfeirio'n drwm gan oedolion. "Mae hyn yn arwain at gyfleoedd cyfyngedig i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau creadigol a datrys problemau," dywedodd, ac er bod "athrawon drwy'r ysgol yn annog plant a chanmol disgyblion am eu cyflawniadau... ar y cyfan, nid yw'r adborth yn ystod gwersi yn cefnogi disgyblion i ddysgu'n ddigon effeithiol."
Dywedodd Bev Knuckey, pennaeth newydd Llanedern: "Rydym wrth ein bodd bod Estyn yn cydnabod ein bod ni'n ysgol hapus, gynhwysol sy'n rhoi blaenoriaeth uchel ar les ei disgyblion. Rydym yn arbennig o falch ein bod wedi datblygu gweledigaeth glir ar gyfer ein dyfodol o fewn y Cwricwlwm newydd Cymru, yn seiliedig ar ein Gwerthoedd Craidd, sy'n cael ei rhannu a'i deall gan ein plant, eu teuluoedd, ein staff a'n llywodraethwyr.''
"Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd a Chonsortiwm Canolbarth y De i sicrhau gwelliant parhaus."
Dywedodd Alex Ingram, Cadeirydd y Llywodraethwyr: ''Mae'r corff llywodraethu'n cydnabod y cryfderau niferus y canfu Estyn yn ystod ei arolygiad ar ein hysgol, gan gynnwys agweddau cadarnhaol disgyblion tuag at ddysgu ac ymddygiad da. Ein blaenoriaeth yn y misoedd nesaf fydd arwain a chefnogi'r ysgol wrth fynd i'r afael â'r argymhellion pwysig ar gyfer gwella a wnaeth Estyn, er mwyn i'n plant barhau i gael y profiad addysg a dysgu gorau posib."
Roedd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg, yn cytuno bod gan yr ysgol feysydd lle gellid gwneud gwelliannau ond dywedodd fod y pennaeth newydd yn arwain drwy esiampl ac yn darparu model rôl da. "Mae llawer o feysydd lle mae'r ysgol yn gwneud cynnydd da, yn enwedig o ran datblygu sgiliau siarad disgyblion, ond byddwn yn cefnogi'r ysgol mewn meysydd sydd angen eu gwella a'r camau sydd eu hangen i'w cyflawni."